Logo Voices from Care Cymru

Lleisiau Care Cymru

Mae’r cynllun hwn yn rhan o broses gadael y gwasanaethau gofal ers mis Ebrill 2016, er mai ychydig iawn o bobl ifanc sydd wedi clywed amdano neu’n ei ddeall yn llawn.

Beth yw’r cynllun?

Cyflwynwyd i’r wlad hon yn 2016 trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014.  Dim ond yng Nghymru mae ar waith, gan gynnig cyfle i bobl ifanc sydd o dan ofal maeth i barhau i fyw gyda’u cynhalwyr maeth ar ôl troi’n 18 oed.  Cyn hynny, roedd rhaid i bobl ifanc adael cartrefi maeth ar ôl troi’n 18 oed, waeth beth a oedden nhw am ymadael neu beidio ac, felly, dyma ddatblygiad pwysig.

Nod y cynllun yw rhoi i bobl ifanc sydd o dan ofal maeth rywfaint o ddylanwad ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.  Gall roi sefydlogrwydd a chefnogaeth mewn cartref gofalgar, gan gynnig amser a lle i bobl ifanc baratoi ar gyfer byw’n annibynnol.  

Ydy’r cynllun ar gael i chi?

Dyma’r meini prawf i bobl ifanc a hoffai fanteisio ar y cynllun:

  • Bod o dan ofal maeth yng Nghymru.
  • Bod o’r un meddwl â’r cynhalwyr maeth ynghylch cynnal y berthynas a pharhau i fyw yno.
  • Wedi byw gyda’r cynhalwyr maeth o leiaf chwe mis cyn troi’n 18 oed.
  • Does dim rhaid i rywun ifanc fod mewn addysg, hyfforddiant na swydd amser llawn neu ran-amser i gael manteisio ar y cynllun.

Lleisiau Care Cymru ynghylch y cynllun

Dros y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn edrych ar y cynllun i ddeall ei ffordd o weithio, ei lwyddiannau a’i anawsterau ac i godi ymwybyddiaeth ohono.  O’i reoli’n dda, gall y cynllun roi sefydlogrwydd i bobl ifanc sydd wedi bod o dan ofal gan gynnig iddyn nhw amser a lle i baratoi ar gyfer byw’n annibynnol – mantais y bydd eu cyfoedion sydd heb brofi gofal yn ei chymryd yn ganiataol. 

“Pe na bai hyn gyda fi, fyddai dim byd gyda fi.” Barn rhywun ifanc am y cynllun yn 2019.

Gall rhai rhannau o’r cynllun achosi dryswch a chymhlethdod a all fod yn anodd i ymarferwyr a chynhalwyr, fodd bynnag. 

Mae Lleisiau Gofal Cymru yn cydnabod bod gwybodaeth yn allweddol.  Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi ymgynghori â’r rhai sy’n ymwneud â’r cynllun: pobl ifanc, ymarferwyr, cynhalwyr maeth a Llywodraeth Cymru.  Gyda chymorth pobl ifanc a chanddynt brofiad o’r cynllun, rydyn ni wedi paratoi gwybodaeth, deunydd ac adnoddau i godi ymwybyddiaeth ohono ac ehangu cyfranogiad ynddo.

Rydyn ni’n parhau i geisio cynnig gwybodaeth ddilys a chywir am y cynllun, gan obeithio dylanwadu ar newidiadau a fydd yn helpu pobl ifanc sydd o dan ofal yn ystod eu taith at fyw’n annibynnol.

I ddysgu rhagor am ein prosiect neu’r cynllun, darllenwch ein gwefan neu gysylltu â ni:

www.whenimready.co.uk

Jane@vfcc.org.uk

Ysgrifennwyd y blog gan Jane Trezise