Blog gan: Dr Angharad Butler-Rees a Dr Stella Chatzitheochari (PY)
Adran Cymdeithaseg, Prifysgol Warwick
Mae ‘Llwybrau Addysgol a Deilliannau Gwaith Pobl Ifanc Anabl yn Lloegr’ yn astudiaeth arhydol Leverhulme dros 3 blynedd sy’n ceisio deall y cyswllt rhwng anabledd glasoed ag anfantais addysgol a galwedigaethol yn Lloegr. Er bod tystiolaeth i awgrymu bod pobl ifanc anabl ar ei hôl hi o ran canlyniadau addysgol a gwaith, ychydig iawn sy’n wybyddus o hyd am y prosesau a’r trefniadau cymdeithasol y tu ôl i’r anghydraddoldebau hyn. Nod y prosiect yw cywiro’r diffyg hwn drwy ganolbwyntio ar bontio addysgol a galwedigaethol i bobl ifanc anabl. Trwy ddefnyddio data hydredol cenedlaethol cynrychioliadol sy’n bodoli eisoes ochr yn ochr ag astudiaeth ansoddol hydredol o bobl ifanc anabl, rydym ni’n ceisio llunio fframwaith cysyniadol newydd ar gyfer dealltwriaeth gymdeithasegol o wahaniaethau anabledd mewn cyrhaeddiad addysgol a galwedigaethol, gan herio safbwyntiau sy’n ystyried bod anfantais yn ganlyniad naturiol i anabledd.
Mae elfen ansoddol yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl ifanc anabl 15/16 oed gydag ail don o gyfweliadau’n cael eu cynnal tua blwyddyn yn ddiweddarach. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda chyfanswm o 35 o bobl ifanc fel rhan o’r astudiaeth, wedi’u haenu yn ôl dosbarth cymdeithasol eu rhieni a’u nam/cyflwr. Roedd hyn yn caniatáu i ni ddeall dylanwad dosbarth cymdeithasol eu rhieni ar brofiadau byw a chynnydd addysgol pobl ifanc, ac archwilio gwahaniaethau yn ôl nam/cyflwr. O ystyried maint cymharol fach ein sampl, roeddem ni’n ceisio gwahaniaethu rhwng dau gategori cymdeithasol bras (dosbarth gwaith a dosbarth canol), gan ddefnyddio gwybodaeth am gyrhaeddiad galwedigaethol ac addysgol y rhieni. Roeddem ni’n canolbwyntio hefyd ar dri math o nam/cyflwr: awtistiaeth, dyslecsia ac anawsterau symudedd. Oherwydd y pandemig, cynhaliwyd y cyfweliadau hyn ar-lein neu dros y ffôn. Er ein bod yn amheus i ddechrau ynghylch y ffordd y byddai pobl ifanc yn ymateb i’r dulliau hyn, roedd y cynefindra roedd pobl ifanc wedi’i ddatblygu gyda’r platfformau hyn yn sgil dysgu ar-lein yn golygu bod llawer ohonyn nhw’n gyfforddus ac yn gallu addasu’r llwyfannau’n unol â’u hanghenion unigol e.e. galluogi chwyddo, isdeitlo, codi lefel y sain neu ddiffodd eu camerâu. Yn ystod y cyfweliad, holwyd pobl ifanc am eu cefndir, bywgraffiadau unigol, profiad o anabledd, ynghyd â’u dyheadau personol, academaidd a galwedigaethol at y dyfodol. Bydd ail gyfweliad, yn y flwyddyn ddilynol, yn canolbwyntio ar eu cyfnod pontio ôl-16, sut brofiad oedd hwn ac a yw eu dyheadau academaidd neu alwedigaethol wedi newid. Er bod rhai pob ifanc yn anochel yn fwy siaradus nag eraill, roedd adborth gan y cyfranogwyr yn dangos eu bod wedi mwynhau’r broses at ei gilydd.
Caiff gwybodaeth ei chasglu hefyd gan rieni’r cyfranogwyr drwy gyfres o gyfweliadau unigol i’n helpu i sicrhau dealltwriaeth fanwl o drosglwyddo anfantais gymdeithasol.
Anaml y caiff pobl ifanc anabl eu holi’n uniongyrchol am eu profiadau, gyda rhieni, athrawon neu arbenigwyr yn aml yn siarad ar eu rhan. Mae’r prosiect yn ceisio rhoi grym i’r bobl ifanc drwy ddod â’u lleisiau a’u profiadau unigol i’r amlwg.
Mae’r astudiaeth yn dal i fod ar gam cynnar, gyda’r gwaith o ddadansoddi’r don gyntaf o gyfweliadau’r bobl ifanc newydd ddechrau. Fodd bynnag gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect drwy ymweld â’n tudalen gwe neu ddarllen ein brîff polisi diweddar.