Blog gan Eavan Brady, Trinity College Dublin

Bydd pawb yn pontio rhwng amryw rolau yn ei einioes – dod i oed, dod yn rhiant neu symud o gartref y teulu, er enghraifft. Yn aml, bydd y pontio o’r glasoed i oedolyn yn gyflymach yn achos pobl ifanc sy’n gadael gofal gwladol megis gofal maeth neu breswyl wrth droi’n 18 oed (Stein, 2006). 

Er bod llawer wedi’i ysgrifennu am y pontio cyflymach i fod yn oedolyn, rydyn ni’n gwybod llai am sut y gall mathau eraill o bontio lywio teithiau addysgol yr oedolion sy’n gadael gofal (24 oed neu’n hŷn).  Er enghraifft, dod yn rhiant, yn gynhaliwr neu’n fyfyriwr. Mae’n bwysig deall y cyd-destun ehangach hwn yng ngoleuni ymchwil sydd wedi tynnu sylw at ddeilliannau addysgol gwael ymhlith y rhai sy’n gadael gofal. 

Yn rhan o’r ymchwil ar gyfer fy noethuriaeth, holais 18 oedolyn fu o dan ofal (11 merch a saith dyn rhwng 24 a 36 oed) am eu taith trwy addysg ers eu hatgofion cyntaf hyd yma. Trwy astudio hynt einioes rhywun, gallwn i weld sut y byddai’r daith addysgol yn datblygu dros amser

Roedd y bobl a holais wedi dilyn pedwar math o lwybr addysgol (mae rhagor am y llwybrau hynny mewn darn blaenorol yma). Roedd nifer o bethau wedi dylanwadu ar y llwybrau, megis profiad pobl o drin a thrafod amryw rolau ynghyd â phontio ar wahanol adegau yn eu hoesau. 

Roedd rhai o’r bobl a holais wedi dod yn rhieni tua diwedd eu harddegau neu ddechrau eu hugeiniau, ac roedd eraill wedi gofalu am rywun yn y teulu. Roedd eraill wedi bod heb gartref dros gyfnod cyn dechrau bywyd yn fyfyriwr. Mae’n bwysig nodi bod rhai’n ymwneud â sawl math o bontio a newid yn eu rolau wrth ddechrau neu barhau mewn coleg neu brifysgol. 

Roedd llawer o’r rhai gymerodd ran yn yr ymchwil wedi bod trwy bontio cymhleth, anamserol neu anghyson nifer o weithiau o’u cymharu â’u cyfoedion, ac mae modd cysylltu hynny ag anawsterau yn eu llwybrau addysgol. Er y bydd sawl anhawster wrth fynd trwy amryw fathau o bontio ar yr un pryd neu dros gyfnod byr, gall y profiad hwnnw gyfnerthu’r dysgu ar yr amod bod cymorth a hyblygrwydd priodol ar gael. 

Mae pontio’n rhan o deithiau addysgol ar y cyfan, ac mae addysg yn broses sy’n dwyn ffrwyth dros amser. Trwy werthfawrogi rôl pontio amryw ei fathau ac, yn aml, niferus ei adegau yn ystod teithiau addysgol oedolion a fu o dan ofal dros amser, gallwn ni ddeall yn well sut y bydd pethau nad ydyn nhw’n ymwneud ag addysg na gofal bob tro yn effeithio ac yn dylanwadu ar y teithiau. Ar ben hynny, gallwn ni weld pwysigrwydd bod yn effro i’r mathau hynny o brofiad a chynnig hyblygrwydd a chymorth priodol i oedolion sy’n bwriadu mynd i goleg neu brifysgol ar ôl bod o dan ofal. 

Llyfryddiaeth 

  1. Brady, E. & Gilligan, R. (2019). Exploring diversity in the educational pathways of care-experienced adults: Findings from a life course study of education and care. Children and Youth Services Review, 104, 1-11. 
  2. Stein, M. (2006). Research review: Young people leaving care. Child & family social work, 11(3), 273-279.