Louise Roberts, Dawn Mannay, Alyson Rees, Hannah Bayfield, Cindy Corliss, Clive Diaz a Rachel Vaughan

Mae’r cyfnod o bontio i fod yn oedolyn yn digwydd o wahanol fannau cychwyn a gyda mynediad gwahaniaethol i’r adnoddau sydd ar gael. I rai pobl ifanc gallai hwn fod yn gyfnod o ddewis a rhyddid, ond mae llawer o bobl ifanc yn canfod bod eu hymreolaeth yn cael ei gyfyngu gan ansicrwydd yn y farchnad lafur a disgyrsiau symudol o gefnogaeth ac annibyniaeth. Gall pobl ifanc sy’n gadael gofal fod dan anfantais yn y cyfnodau pontio hyn oherwydd yn aml gofynnir iddynt reoli newidiadau niferus ar yr un pryd, fel gadael addysg, gadael gofal, dechrau addysg neu gyflogaeth newydd, a byw’n annibynnol. Yn ogystal efallai na fydd modd iddynt fanteisio ar rwydweithiau teuluol neu ddiwylliant o ddibyniaeth ar rieni fel strategaeth ar gyfer ymdopi â risgiau mewn amgylchedd ansefydlog. O ganlyniad, mae pandemig COVID-19 wedi achosi risgiau a straen ychwanegol i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Comisiynwyd yr astudiaeth gan Voices From Care Cymru ac roedd yn ceisio cynnig llwyfan i brofiadau 21 o bobl ifanc oedd wedi gadael gofal y wladwriaeth neu’n gwneud hynny yn ystod pandemig COVID-19. Trafodwyd y brys i letya pobl ifanc yn ystod y pandemig, a arweiniodd weithiau at leoliadau amhriodol fel yr hostel hon i oedolion.

‘Mae llawer o bobl yn dal i fod yn yfed yn ystafelloedd ei gilydd… roedd yna ddigwyddiad pan alwyd yr heddlu am fod tri pherson yn dweud bod preswylydd wedi rhoi sylwedd anghyfreithlon iddyn nhw’n ddiarwybod … roedd [menyw hŷn] yn anfon negeseuon cas ataf i … Mae wedi cyrraedd y pwynt lle rwyf i yn fy ystafell drwy’r amser’ (Amy)

Cafwyd enghreifftiau hefyd o effaith ar gyflogaeth. Profodd Paul symptomau COVID-19 a chollodd incwm o ganlyniad, ond doedd ganddo ddim systemau cymorth ehangach i alw arnynt.

‘Felly yn amlwg effeithiodd hynny ar dalu fy rhent a phethau tebyg. Mae wedi bod yn straen mawr, ar fy mhen fy hun mewn llawer o ddyled. Mae’n straen. Rwy’n dal i fod mewn dyled’ (Paul)

Gallai’r rhain fod yn brofiadau a rennir gan lawer o bobl ifanc sy’n pontio i fod yn oedolion yn ystod pandemig COVID-19. Ond i’r rheini sy’n gadael gofal, mae’r heriau hyn yn ddwysach ac ar yr un pryd mae’n anoddach cael yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer diogelwch a chymorth – sy’n gwneud y cyfnod pontio i fod yn oedolyn, sydd eisoes yn anodd, yn ‘frwydr enfawr’. Dylai fod yn hawl yn ôl y ddeddf i bobl ifanc allu manteisio ar wasanaethau gadael gofal fel na ellid eu tynnu’n ôl mewn argyfwng. I bobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ystod COVID-19, mae angen cyllid i ddiogelu yn erbyn anfantais gronnol bellach yn y tymor hir.

Rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon

Roberts, L., Mannay, D., Rees, A., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C. a Vaughan, R. 2021. ‘Mae wedi bod yn frwydr enfawr’: Exploring the experiences of young people leaving care during COVID-19. YOUNG. https://doi.org/10.1177/11033088211025949