Eich cyfle i ddweud eich stori am eich profiadau o fagu eich brawd neu chwaer iau
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod nad yw teuluoedd bob amser yn golygu dau riant yn magu eu plant, ac am lawer o resymau, bod plant weithiau’n cael eu magu gan rywun nad yw’n fam nac yn dad iddyn nhw. Yr hyn sy’n llai adnabyddus yw mai chwaer neu frawd hŷn yw’r prif ofalwr am sibling(iaid) iau mewn rhai achosion. Yn wir, canfu un astudiaeth yn Lloegr yn 2011 fod cynifer â 23% o’r perthnasau oedd yn gofalu am blant nad oedden nhw’n blant biolegol iddynt yn siblinigiaid hŷn – mae hynny’n 35,200 o bobl! Ond er mai dyma brofiad llawer o deuluoedd yn y DU, ychydig iawn sy’n wybyddus am sut beth yw gofalu am eich brawd neu chwaer.
Pwy ydw i a pham ydw i’n gwneud yr ymchwil yma?
Roedd gen i ddiddordeb mewn gofalwyr sibling oherwydd mai fi oedd yn gofalu am fy mrawd bach, a phan ddechreuais weithio mewn ymchwil, sylweddolais nad oedd dim byd mewn gwirionedd ar gael am deuluoedd fel fy un i. Roedd llawer o’r ymchwil am deuluoedd ‘perthynas’ yn canolbwyntio ar brofiadau neiniau a theidiau. Er bod hynny’n bwysig iawn, roeddwn i’n teimlo y byddai straeon siblingiaid yn wahanol i straeon neiniau a theidiau a’u hwyrion. Felly fe ymgeisiais am gyllid i ymchwilio i hyn gyda gofalwyr eraill sy’n siblingiaid.
Pwy all gymryd rhan?
Rwy’n awyddus i gyfweld â phobl (18+) sy’n byw yn y DU ac sydd â phrofiad o fod yn brif ofalwr i’w sibling. Dylai eich sibling fod dan 18 pan ddaeth i fyw gyda chi, ond gall fod dros 18 erbyn hyn. Does dim ots sut na pham y daethoch yn brif ofalwr – mae gen i ddiddordeb mewn clywed pob stori o wahanol safbwyntiau a phrofiadau.
Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?
Os ydych chi’n penderfynu yr hoffech chi gymryd rhan, gallwch gysylltu ac fe gawn ni sgwrs gychwynnol am yr ymchwil. Os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn cyfweliad, cewch chi benderfynu ble a phryd fyddai orau i chi – gall hyn fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn. Byddaf yn eich tywys drwy dasg y gallwch ei chwblhau cyn y cyfweliad i’ch helpu i baratoi. Pan fyddwn ni’n gwneud y cyfweliad gyda’n gilydd, y prif ffocws fydd chi yn adrodd eich stori, felly fyddaf i ddim yn siarad llawer, a byddaf yn holi cwestiynau ac yn cynnig awgrymiadau sy’n eich helpu chi i ddweud wrthyf i am eich bywyd. Mae hyn yn golygu y gall y cyfweliadau fod o hyd gwahanol, gan ddibynnu faint rydych chi’n dymuno ei ddweud, ond fel arfer bydd o ddeutu awr o hyd.
Beth nesaf?
Cymerwch olwg ar y daflen wybodaeth fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a chymryd rhan. Os ydych chi’n meddwl y gallai fod diddordeb gennych, neu os hoffech ragor o wybodaeth anfonwch ebost ataf: stablerl@cardiff.ac.uk.