Here2there.me – Ap ar gyfer cynllunio personol a chofnodi deilliannau

Mae H2t.me yng ngham olaf ei ddatblygiad sy’n cynnwys treialon ar draws ystod o wasanaethau yng Nghymru ac mae wedi ennill her SBRI Llywodraeth Genedlaethol Cymru o’r enw Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref. Mae wedi cael ei dreialu ynghylch anabledd dysgu, gwasanaethau plant a chymorth yn y gwaith. Mae’r Ap yn cefnogi unrhyw… Read More

Cyfweld Ysgogiadol ar gyfer gweithio gyda phlant a theuluoedd – sgwrs

Bellach, mae MI (Cyfweld Ysgogiadol) yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn gwasanaethau plant, gan chwarae rhan allweddol mewn ymyriadau megis Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu, y model Diogelu Teuluol a Thimau Cefnogi Teuluoedd Dwys. Yn y sesiwn hon Roedd Steve Rollnick (cyd-grëwr Cyfweld Ysgogiadol) yn siarad â Donald Forrester, David Wilkins a Charlotte Whittaker am… Read More

Anghydraddoldebau iechyd a gofal dementia: beth sy’n bwysig i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd?

Prin iawn yw’r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb ac anabledd. Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch sylweddol hwn wrth ymgysylltu a deall… Read More

10,000 o leisiau: Safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc ynghylch eu lles

Dechreuodd y rhaglen Bright Spots yn 2013, a’i nod oedd deall profiad plant a phobl ifanc o ofal.  Mae’r rhaglen yn defnyddio pedwar arolwg lles ar-lein i geisio safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal (rhwng 4 a 7 oed a rhwng 8 a 10 oed), pobl ifanc (rhwng 11 a 18 oed) ac ymadawyr gofal (rhwng 18… Read More

Profiadau Gofalwyr Di-dâl yn ystod y Pandemig a Thu Hwnt

Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl. Fel rhan o’n gynhadledd llesiant, mae Dr Jen Lyttleton-Smith yn siarad am astudiaeth sydd wedi ffurfio adroddiad am gofalwyr di-dâl yn ystod y pandemic gyda COVID-19 ac mae Dr Dan Burrows yn siarad efo Chris Williamson. Read More

Gweithdy Lles BASW Cymru – Gweithredu ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW

Yn y gweithdy hwn byddwn yn trin a thrafod beth mae lles yn ei olygu i weithwyr cymdeithasol, gan edrych ar y gwahaniaethau rhwng lles hedonistaidd ac eudaimonic a beth mae hynny’n ei olygu i chi yn ymarferol. Byddwn yn defnyddio ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW https://www.basw.co.uk/social-worker-wellbeing-and-working-conditions fel fframwaith i’ch helpu chi i… Read More

Deilliannau lles – eu mesur a’u dehongli

Mae dull sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau wedi cael ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ynghyd ag ymdrechion i’w cofnodi’n ystyrlon. Weithiau, mae pwyslais cryf ar ddeilliannau newid sy’n canolbwyntio ar adsefydlu wedi arwain at ddeilliannau dan arweiniad ymarferwyr yn hytrach na deilliannau personol. Mae hefyd wedi arwain at esgeuluso deilliannau pwysig eraill o ran lles, yn… Read More

Gwrth-Hiliaeth mewn Gwaith Cymdeithasol

Mae Wayne Reid yn Swyddog Proffesiynol gyda Chymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prydain (BASW). Mae’n cael ei gydnabod yn eang am fod yn siaradwr ysbrydoledig ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb hiliol.  Yn y gweminar hwn, y cyntaf yn ein cyfres #blacklivesmatter, bydd Wayne yn myfyrio ar fudiad #blacklivesmatter ac ystyr gwrth-hiliaeth – y gred bod pob hil… Read More

Fframwaith Ymarfer Ailuno NSPCC: fframwaith wedi’i lywio gan dystiolaeth i wneud penderfyniadau parhaol diogel i blant dan ofal.

Mae’r sesiwn yn cynnig trosolwg o’r Fframwaith Ymarfer Ailuno, fframwaith cynhwysfawr sy’n dwyn ynghyd mewnwelediadau ymchwil, arweiniad ymarferol ac adnoddau i gynorthwyo ymarferwyr i gasglu tystiolaeth gadarn a gwneud penderfyniadau proffesiynol strwythuredig ynghylch parhauster diogel. Mae’r Fframwaith yn cynrychioli cyfle i fynd i’r afael â chanfyddiadau ymchwil, bod llawer o blant sy’n dychwelyd adref o… Read More