Prin iawn yw’r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb ac anabledd. Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch sylweddol hwn wrth ymgysylltu a deall anghenion cymunedau amrywiol (Bengali, Groegaidd, Somalaidd, Cymraeg ei hiaith, LGBT, Byddar Diwylliannol, byddar, â nam ar eu golwg a gyda Syndrom Down) o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt a’u gofalwyr yng Nghymru. Yn fwy penodol, bydd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd yn trafod y fframwaith ehangach o anghydraddoldebau iechyd mewn gofal dementia gyda ffocws ar iaith a micro-ymosodiadau. Bydd Suzanne Duval BEM, rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn Diverse Cymru yn trafod ei hymgysylltiad polisi ar ofal dementia ac ethnigrwydd yng Nghymru. Bydd Anne Rees, cyn weithiwr cymdeithasol plant a swyddog gwybodaeth amrywiaeth yng Nghymdeithas Alzheimer Cymru yn trafod effaith deddfwriaeth cydraddoldeb ar ofal dementia.
Cyflwynwyr: Sofia Vougioukalou, Prifysgol Caerdydd, Suzanne Duval from Diverse Cymru and Anne Mears-Rees from Promo Cymru.
Dadlwythwch adroddiad Dewch inni Drafod Dementia
Adnoddau Ychwanegol
Dementia issues concerning BAME communities
Poster arwyddion cynnar o dementia:
Wrth imi gerdded y filter olaf – Casgliad o gyfweliadau yw’r Adroddiad hwn, gyda theuluoedd a all dystio drwy brofiad yr effaith ddinistriol y mae dementia’n ei gael ar eu teuluoedd
Gofalu am Rwyunâ Dementia