Mae Wayne Reid yn Swyddog Proffesiynol gyda Chymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prydain (BASW). Mae’n cael ei gydnabod yn eang am fod yn siaradwr ysbrydoledig ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb hiliol. 

Yn y gweminar hwn, y cyntaf yn ein cyfres #blacklivesmatter, bydd Wayne yn myfyrio ar fudiad #blacklivesmatter ac ystyr gwrth-hiliaeth – y gred bod pob hil a grŵp ethnig yn gyfartal ac yn haeddu’r un cyfleoedd.

Mae gwrth-hiliaeth yn golygu cymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb sy’n bodoli ar hyn o bryd  Bydd Wayne yn trafod sut mae hyn yn berthnasol i waith cymdeithasol drwy safonau proffesiynol, codau moeseg, gallu diwylliannol ac ategu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol.

Bywgraffiad

Mae Wayne Reid yn Swyddog Proffesiynol ac yn Weithiwr Cymdeithasol ar gyfer BASW Lloegr, ac mae’n byw yn Sheffield.  Mae Wayne wedi gweithio ym maes: maethu preifat; y Gwasanaeth Prawf; troseddau ieuenctid; iechyd meddwl oedolion; diogelu plant a gydag ymadawyr gofal.  

Mae gyrfa Wayne yn adlewyrchu ei ymroddiad i gefnogi aelodau agored i niwed mewn cymdeithas, gweithio gyda swyddogion proffesiynol amrywiol o bob sector er mwyn gwella safonau a bodloni anghenion cyfannol.  Mae ei yrfa amrywiol wedi ei alluogi i ddeall ffactorau cyd-destunol deinamig sy’n effeithio ar gynllunio strategol, gweithredu ac adolygu gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol effeithiol a sut mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ymarferwyr a’r cyhoedd.

Ac yntau’n ddyn du sy’n Weithiwr Cymdeithasol, mae Wayne yn deall rhai o’r heriau y gall defnyddwyr gwasanaethau ac ymarferwyr o wahanol grwpiau lleiafrifol eu hwynebu.  O’i brofiad ef, mae Wayne yn credu bod ‘addysg bywyd’ ac academaidd yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd bywyd unigolyn a’i gyfleoedd mewn bywyd.  Ychwanegodd Wayne: “Mae Gwaith Cymdeithasol yn wasanaeth rhyngwladol amlweddog sy’n: cydlynu cefnogaeth ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas; asesu risg a’i rheoli; mynd i’r afael ag ymddygiadau a pherthnasoedd trafferthus; hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol; gwneud y defnydd gorau o gryfderau defnyddwyr y gwasanaeth, yn hyrwyddo ymddygiad gweddus ac yn creu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer symudedd cymdeithasol”.