By Sarah Frisby-Osman and Jane L. Wood (2020)
Youth Justice, 20(1-2) 93–112
Crynodeb o erthygl gan Nina Maxwell
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth?
Mae’r darn hwn yn holi a yw anghenion pobl ifanc sy’n ymwneud â gangiau yn gryfach na’r rhai nad ydyn nhw’n ymwneud â gangiau o ran hwyliau, ymddygiad ac iechyd y meddwl. Mae lefelau’r ddwy garfan wedi’u cymharu o ran ofn ac iselder, teimlo’n bryderus ac yn euog, camymddwyn, dioddef o ganlyniad i drais a’r gallu i drin a thrafod sefyllfaoedd cymdeithasol gan gynnwys cefnu ar foesau a meithrin dicter trwy deimlo pethau i’r byw.
Sut yr astudion nhw’r pwnc?
Dewisodd yr awduron amrywiaeth o bobl i’w hastudio. Gwahoddon nhw ferched a bechgyn o dair ysgol yn Lloegr, mewn ardaloedd lle mae gangiau’n weithgar iawn yn ôl Llywodraeth San Steffan, i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Un o ysgolion uwchradd y brif ffrwd, coleg addysg bellach ac uned atgyfeirio disgyblion oedd y tri sefydliad o dan sylw. Cymerodd 91 o bobl ifanc ran yn yr astudiaeth – 14.93 oedd yr oedran cymedrig. Ymhlith y rheiny, nodwyd 56 (62%) yn rhai nad ydyn nhw’n ymwneud â gangiau, 32 (35%) yn aelodau o’r gangiau a 3 (3%) yn rhai anhysbys eu sefyllfa yn ôl canfyddiadau dull didoli trylwyr. Mesurwyd eu hanghenion nhw o ran hwyliau, ymddygiad ac iechyd y meddwl trwy amryw ffyrdd megis Beck Depression Inventory, Moral Disengagement Scale a Strengths and Difficulties Questionnaire.
Beth oedd eu canfyddiadau?
Mae pobl ifanc sy’n ymwneud â gangiau yn fwy tebygol na’r rhai nad ydyn nhw’n ymwneud â gangiau o gwyno am ofn ac iselder, problemau ymddwyn, dioddef o achos trais, cefnu ar foesau a meithrin dicter yn y meddwl. Doedd dim gwahaniaeth rhwng y ddwy garfan o ran teimlo’n bryderus ac yn euog. Dadansoddwyd anghenion yn unigol i weld pa rai fyddai’n fwy tebygol o godi trwy ymwneud â gangiau. Problemau ymddwyn, cefnu ar foesau a meithrin dicter yn y meddwl sydd fwyaf cysylltiedig â bod mewn gang yn ôl y dadansoddi ac ofn, iselder a dioddef o achos trais sydd nesaf. Dyw teimlo’n bryderus neu’n euog ddim yn gysylltiedig â gangiau.
Beth yw’r goblygiadau?
Mae’r astudiaeth yn dweud bod angen ystyried nodweddion seicolegol a chymdeithasol-wybyddol mewn strategaethau achub y blaen ac atal ynglŷn â darogan a allai rhywun ymuno â gang. Yn benodol, mae’r canfyddiadau wedi dangos mai ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol yw’r brif ffordd o ddarogan a allai rhywun ymuno â gang. At hynny, dylai strategaethau achub y blaen ac atal ystyried ofn ac iselder pobl ifanc achos bod diffyg hunan-barch a phrinder ‘cyfleoedd teg’ yn ymwneud â’r dyb bod modd diwallu anghenion sylfaenol trwy ymuno â gang. Yn olaf, dylai strategaethau achub y blaen ac atal fynd i’r afael ag effaith deimladol dioddef o achos trais a thuedd pobl ifanc i gefnu ar foesau a meithrin dicter yn y meddwl wrth drin a thrafod sefyllfaoedd cymdeithasol.