Blog gan Tiff Evans, Voices From Care Cymru

Diben Voices From Care Cymru yw gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod mewn gofal drwy fod yn llais annibynnol i’r gymuned gofal. Yn ystod haf 2019 cynhalion ni gyfres o weithdai i bobl ifanc o bob rhan o Gymru â phrofiad o ofal. Y dasg oedd ein helpu i ddeall y pynciau sydd yn fwyaf pwysig i bobl ifanc â phrofiad o ofal. 

Y 5 maes allweddol a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau oedd:

  • Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Iechyd Meddwl – “Mae hyn yn bwysig i unigolion sy’n methu delio â’u problemau eu hunain. Gall profiadau’r gorffennol, gorbryder ac iselder achosi problemau iechyd meddwl a all gael effaith ddilynol ar fywyd.”
  • Pwysigrwydd Cyswllt gyda Brodyr a Chwiorydd – “bydd hyn yn helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn gallu cadw’r berthynas a’r clymau gyda’u teuluoedd a pheidio â cholli cysylltiad â nhw. Hefyd mae’n eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwarchod.”
  • Pwysigrwydd Cariad – “mae hyn yn bwysig er mwyn i bobl ifanc â phrofiad o ofal deimlo bod rhywun yn eu caru. Does dim rhaid iddo fod mewn ffordd benodol ond mae pawb yn dymuno cael eu caru ac mae cael rhywun i wneud hynny’n gallu codi eu morâl a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn deilwng.”
  • Stigma – “Mae gan bobl ifanc mewn gofal label/stigma eu bod yn methu gwneud pethau mae eraill yn eu gwneud. Does dim ots fod ganddyn nhw brofiad o ofal, mae’n ymwneud â deall bod ganddyn nhw obeithion a breuddwydion fel pawb arall!”
  • Pwysigrwydd Sefydlogrwydd – “mae hyn yn bwysig i berson ifanc allu teimlo’n hapus a sefydlog yn eu cartref. Boed yn ofal maeth, preswyl neu fyw’n annibynnol dyw pobl ifanc ddim yn dymuno parhau i symud o gwmpas gan na allan nhw feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl eraill ac maen nhw’n teimlo na allan nhw ymgartrefu yn unman gan nad yw eu lleoliad yn sefydlog.”

Dyma sydd wedi ffurfio sail ein gwaith dros y tair blynedd. Roedd ein hymchwil gyda’r NSPCC Gwrando Gweithredu Ffynnu yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o Iechyd Meddwl. Yn 2019 cynhaliom ni ein ‘cynhadledd Ailfeddwl Cyswllt’; oedd yn edrych ar y derminoleg a’r broses yn ymwneud â meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda brodyr a chwiorydd. Yn fwyaf diweddar lluniwyd ein maniffesto 1,000 o Leisiau ar gyfer etholiadau Senedd Cymru 2021 ar y meysydd allweddol hyn ac fe’i datblygwyd ymhellach gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal.  

Allwn ni ddim dianc rhag y ffaith fod Pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar bobl ifanc â phrofiad o ofal. Yr haf diwethaf bu Voices From Care Cymru a CASCADE yn archwilio effaith COVID 19 ar ymadawyr gofal.

“Dyw hi’n ddim byd tebyg i’r hyn oedd o’r blaen. Pan oedd pethau’n normal, roedd yr help yn ddi-fai ond allwch chi ddim gwneud dim byd. Dyw staff ddim yn gallu gwneud llawer nawr o’i gymharu ag o’r blaen.”

 “Maen nhw’n deall lle’r ydyn ni, a’r cyfan mae llawer ohonon ni blant mewn gofal ac ymadawyr gofal yn ei ddymuno yw rhywun i’n caru ni a gofalu amdanon ni, sgwrsio â ni ac ambell waith pan rwy’n teimlo bod rhywun fel ewythr i fi, rwyf i wrth fy modd ac yn gwybod eu bod wedi gwneud job dda. Maen nhw wedi bod yn wych. Gweithwyr sydd eisiau’r gorau i chi, sy’n cofio pethau amdanoch chi ac yn brwydro eich achos chi.”

Os oes gennych chi brofiad o ofal ac yn dymuno clywed rhagor am ein gwaith yn Voices, cysylltwch

E-bost: Tiff@Vfcc.org.uk
Twitter: @Voicesfromcare
Facebook: Voices From Care Cymru
Instagram: voicesfromcarecymru