Claire McCartan, Lisa Bunting a Gavin Davidson

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol y Frenhines, Belfast

Yr ymchwil

Mae’r cysyniad o anghydraddoldebau iechyd – gwahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi mewn iechyd ar draws y boblogaeth, a rhwng gwahanol grwpiau yn y gymdeithas – wedi hen ymsefydlu a chael ei dderbyn ym maes iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r syniad bod gwahaniaethau tebyg yn bodoli gyda gofal cymdeithasol, yn enwedig lles plant, wedi cael llawer llai o sylw.  Nod y prosiect Anghydraddoldebau Lles Plant (CWIP: Bywaters et al, 2020) oedd rhoi sylw i’r bwlch hwn trwy archwilio’r berthynas rhwng amddifadedd a darpariaeth gwasanaethau lles plant ar draws Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.  Gwelwyd bod cysylltiad cryf rhwng amddifadedd ar lefel ardal a’r siawns y bydd plentyn yn cael ei roi ar gynllun amddiffyn plant neu’r gofrestr amddiffyn plant, neu’n derbyn gofal. Er mai yno yr oedd y lefelau uchaf o amddifadedd yn y Deyrnas Unedig, roedd defnydd Gogledd Iwerddon o ofal y tu allan i’r cartref yn is na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig: 50% yn is na Lloegr, 75% yn is na Chymru a 130% yn is na’r Alban. Pam? 

Fel rhan o ymchwil CWIP, cynhaliwyd astudiaethau achos yn archwilio ymarfer gwaith cymdeithasol yn Lloegr a’r Alban (Mason et al., 2019; Morris et al., 2018). Canfu’r astudiaethau achos ymarfer tebyg ar draws y ddwy wlad, lle roedd tlodi wedi mynd yn ‘anweledig’ er ei fod yn cyfrannu at risg niwed. Amlygodd y canfyddiadau’r angen am ddulliau newydd a myfyrio beirniadol mewn gwaith cymdeithasol i helpu i ymgysylltu â theuluoedd sy’n profi tlodi ac amddifadedd a’u cefnogi. 

Er mwyn ceisio deall y gwahaniaethau yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwyd yr un dull ar gyfer yr astudiaethau achos. Roedd hyn yn golygu cynnwys ymchwilydd mewn dau dîm gwaith cymdeithasol mewn dwy Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCTs) gwahanol yng Ngogledd Iwerddon, yn ardaloedd y wardiau etholiadol mwyaf a lleiaf difreintiedig. Defnyddiwyd dulliau cymysg i archwilio dau gwestiwn:

1. Beth yw’r cydadwaith rhwng penderfyniadau i ymyrryd ym mywydau plant a’u hamgylchiadau cymdeithasol, economaidd a materol?

2. Beth yw cryfderau cymharol y newidynnau sy’n dylanwadu ar gyfraddau anghyfartal mewn penderfyniadau i ymyrryd? 

Cafodd y gwaith maes ei lywio gan ddadansoddiad o ddata amddiffyn plant a gasglwyd fel mater o drefn ac roedd yn cynnwys ystod o weithgareddau fel arsylwadau ymarfer, cyfweliadau lled-strwythuredig, grwpiau ffocws gan ddefnyddio vignette safonol a mapio prosesau gwneud penderfyniadau. Cofnodwyd, codiwyd a dadansoddwyd data gan ddefnyddio dull ‘fframwaith’ (Ritchie a Spencer, 1994) a gynhyrchodd dabl o ddata wedi’i godio’n thematig.  

Y canfyddiadau

Systemau a strwythurau cymorth cynnar

Roedd argaeledd cymorth cynnar yn fwy amlwg yng Ngogledd Iwerddon nag yn Lloegr. Mae datganoli wedi caniatáu gwyro oddi wrth bolisi cenedlaethol ac mae dulliau cymorth teulu cyfan wedi bod yn ganolog i’r ddarpariaeth cymorth i deuluoedd a gwasanaethau yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn wedi cynnwys datblygu Hybiau Cymorth i Deuluoedd rhanbarthol gyda’r nod o ddarparu gwell mynediad at gefnogaeth statudol a chymunedol a’u cydlynu.  Adroddwyd bod Hybiau Cymorth i Deuluoedd yn effeithiol wrth ddarparu cefnogaeth gynnar wedi’i theilwra i deuluoedd trwy ddefnyddio dull ‘camu i fyny, camu i lawr’. Yn yr un modd, nid yw hanes cyfoethog Gogledd Iwerddon o actifyddiaeth yn y sector cymunedol wedi cael ei erydu gan gyni yn yr un modd ag a welwyd yn Lloegr a’r Alban er bod gweithwyr cymdeithasol wedi lleisio pryder mai dim ond mater o amser oedd hi cyn byddai’r dirywiad hwn i’w weld o dan y toriadau ariannol cyfredol sydd wedi arwain at ostyngiad a straen yn y gwasanaethau sydd ar gael. Yn wahanol i bolisi Lloegr, mae gan Gogledd Iwerddon strategaethau gwrthdlodi penodol sy’n darparu ar gyfer cefnogaeth ymarferol i deuluoedd mewn angen (e.e. polisi 1991 ‘Targedu Angen Cymdeithasol’ a’r polisi ‘Targedu Angen Cymdeithasol Newydd’ a nodwyd yn nhelerau Cytundeb ‘Dydd Gwener y Groglith’ Belfast yn 1998 (https://cain.ulster.ac.uk/issues/policy/tsn/index.html )). Mae ymchwil CWIP wedi ailhysbysu ac ategu cyfeiriad y polisi hwn a hyrwyddo ymarfer gwaith cymdeithasol gwrthdlodi (Morrison et al., 2018). 

Ymarfer sy’n ymwybodol o dlodi

Dangosodd gweithwyr cymdeithasol yn yr astudiaeth lefelau cymharol uchel o ymwybyddiaeth o dlodi arferol. Er bod gweithredu Credyd Cynhwysol wedi’i ohirio yng Ngogledd Iwerddon, mae diwygio lles yn y Deyrnas Unedig wedi dechrau cael effaith negyddol ar deuluoedd yng Ngogledd Iwerddon. Dangosodd gweithwyr cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon ddealltwriaeth o’r berthynas gymhleth rhwng tlodi ac anawsterau teuluol ac roedd llawer yn teimlo y gallent ddarparu cymorth ymarferol, gan gynnwys defnyddio taliadau Erthygl 18 yn rheolaidd i ddarparu cymorth a hyd yn oed taliadau arian parod. Roedd yr enghreifftiau cyffredin eraill o gefnogaeth ymarferol yn cynnwys prynu olew gwresogi a bwrsariaethau teithio i fynychu cyfarfodydd. Roedd hyn yn wahanol i Loegr a’r Alban lle roedd taliadau arbennig yn anodd eu gwneud, nid yn unig oherwydd diffyg arian, ond hefyd oherwydd y fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â gwneud cais amdanynt.

Systemau sy’n ymwybodol o dlodi?

Mae ffurflenni asesu arferol yn cynnwys cwestiynau am fudd-daliadau ac mae gwasanaeth mwyafu incwm am ddim (yr Adran Cymunedau, Gwneud yr Alwad ) ar gael sy’n asesu hawl i gymorth cymdeithasol. Fodd bynnag, gellir gweld hon fel tasg ychwanegol mewn proses asesu sydd eisoes yn hir.  Diogelu plant yw’r brif flaenoriaeth o hyd yn ystod yr asesiad ac er y gall tlodi fod yn ffactor, sicrhau diogelwch plentyn yw’r pryder pennaf ac mae gwneud penderfyniadau ar sail risg yn eilradd i ymarfer gwrthdlodi. 

Cydlyniant cymunedol a chyfalaf cymdeithasol

Mae hanes gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon hefyd wedi cryfhau cymunedau lleol a chysylltiadau cymdeithasol. Er y gall cymdogaethau gael eu polareiddio ar hyd llinellau sectyddol, mae tystiolaeth y gall cymunedau cydlynol ddarparu rhywfaint o amddiffyniad i blant a theuluoedd. I’r gwrthwyneb, gall cymunedau agos hefyd fod yn ffynhonnell camdriniaeth a risg i blant a phobl ifanc oherwydd parafilitariaeth, maes sy’n peri pryder parhaus (Bunting et al., 2020).  

Dynameg teuluol

Mae teuluoedd yn tueddu i fyw yn agos at ei gilydd ac yn aml maent yn ffynhonnell cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol er mwyn darparu amddiffyniad pan fydd teulu mewn argyfwng. Roedd gallu teuluoedd estynedig i helpu yn cael ei fframio fel rhagdybiaeth lawer mwy cadarnhaol yng Ngogledd Iwerddon o’i gymharu â Lloegr er enghraifft. Adlewyrchir y ddibyniaeth hon ar ofal gan berthnasau mewn data cenedlaethol, gan mai Gogledd Iwerddon sy’n gwneud y defnydd mwyaf o ofal gan berthnasau yn y Deyrnas Unedig. 

Casgliadau

Mae angen mwy o ymchwil wrth gwrs! Gall dynameg teulu, maint ac agosrwydd daearyddol gynyddu argaeledd cymorth anffurfiol i deuluoedd ar adegau o anhawster. Efallai bod llai o ddibyniaeth ar gefnogaeth y wladwriaeth yn sgil hanes gwleidyddol Gogledd Iwerddon wedi cyfrannu at gymorth cymunedol cryfach i blant a theuluoedd. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai fod gan arfer gwaith cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon well dealltwriaeth o effaith tlodi ar deuluoedd, mwy o fynediad at gymorth ymarferol a chymorth cymunedol a naratif mwy cadarnhaol am adnoddau teulu estynedig.  Mae’n ymddangos bod cymorth a chefnogaeth gynnar fel yr Hybiau Cymorth i Deuluoedd hefyd yn gwneud gwahaniaeth. Er bod lefelau amddifadedd yn uchel, mae anghydraddoldeb yn is – gellir dadlau bod anghydraddoldeb wrth ddosbarthu adnoddau yn un o brif ysgogwyr iechyd gwael, problemau cymdeithasol ac anghydraddoldeb (Wilkinson a Pickett, 2009).

Cyfeiriadau

Bunting, L., McCartan, C., Davidson, G., Grant, A., McBride, O., Mulholland, C., Murphy, J., Schubotz, D., Cameron, J. and Shevlin, M. (2020). The Mental Health of Children and Parents in Northern Ireland: Results of the Youth Wellbeing Prevalence Survey. Belfast: Health and Social Care Board. https://pureadmin.qub.ac.uk/ws/portalfiles/portal/219940525/Youth_Wellbeing_FINAL.pdf

Bywaters, P., Scourfield, J., Jones, C., Sparks, T., Elliott, M., Hooper, J., McCartan, C., Shapira, M., Bunting, L. and Daniel, B. (2020). Child welfare inequalities in the four nations of the UK, Journal of Social Work, 20(2): 193–215. https://doi.org/10.1177/1468017318793479

Mason, W., Morris, K., Webb, C., Daniel, B., Featherstone, B., Bywaters, P., Mirza, N., Hooper, J., Brady, G., Bunting, L. and Scourfield, J. (2019). Toward full integration of quantitative and qualitative methods in case study research: insights from investigating child welfare inequalities. Journal of Mixed Methods Research, 14(2): 164-183. https://doi.org/10.1177/1558689819857972

Morris, K., Mason, W., Bywaters, P., Featherstone, B., Daniel, B., Brady, G., Bunting, L., Hooper, J., Mirza, N., Scourfield, J., and Webb, C. (2018). Social work, poverty, and child welfare interventions. Child and Family Social Work, 23(3): 364-372. https://doi.org/10.1111/cfs.12423

Morrison, A., McCartan, C., Davidson, G. and Bunting, L. (2018). Anti-poverty practice framework for social work in Northern Ireland. Belfast: Department of Health. https://www.health-ni.gov.uk/publications/doh-anti-poverty-framework

Ritchie, J. and Spencer, L. (1994). Qualitative data analysis for applied research. In: Bryman, A. and Burgess, R.G., eds. Analysing qualitative data. London: Routledge: 173-194.

Wilkinson, R. G. and Pickett, K. (2009). The Spirit Level. London: Bloomsbury Press.