Ysgrifennwyd y blog gan Vivienne Laing o’r NSPCC
Mae Proffil Gofal Graddedig 2 (GCP2) yn adnodd a ddyluniwyd gan baediatregydd cymunedol, Dr OP Srivastava, a’r NSPCC sy’n helpu ymarferwyr i ddeall ansawdd y gofal y mae plant yn ei gael a nodi meysydd magu plant da ond esgeulus hefyd. Mae bellach wedi’i fabwysiadu mewn 88 o leoliadau gyda dros 1,200 o hyfforddwyr wedi’u hyfforddi a 30,000 o ddefnyddwyr rheng flaen yn y Deyrnas Unedig (DU).
Ers y sgyrsiau cyntaf un â safleoedd GCP2, mae rheolwyr a staff rheng flaen fel ei gilydd wedi pwysleisio’r angen am fersiwn gyn-enedigol. Nawr, ar ôl treulio’r 18 mis diwethaf yn gweithio gyda Dr Srivastava, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol o bob cwr o’r wlad, rydym ni’n hynod falch o gyhoeddi ein bod ar fin dechrau profi fersiwn gyn-enedigol newydd – Proffil Gofal Graddedig 2 Cyn-enedigol (GCP2A).
Pam mae angen un arnom ni?
Mae corff cynyddol o dystiolaeth o bwysigrwydd y cyfnod cyn-enedigol a’r blynyddoedd cynnar a sut y gall rhianta israddol, esgeulustod neu gamdriniaeth gynnar gael canlyniadau parhaol ar iechyd emosiynol a chorfforol plant yn y dyfodol. Gall dod i gysylltiad â lefelau uchel o straen parhaus yn ystod y camau datblygu pwysig hyn olygu bod gallu babanod i reoli eu hemosiynau a’u system imiwnedd yn llai effeithiol. Gall hyn wneud plant yn fwy agored i ystod o anawsterau diweddarach fel iselder, ymddygiad gwrthgymdeithasol, dibyniaeth a salwch corfforol. (Gerhardt 2012).
Rydym ni hefyd yn gwybod bod gwendidau penodol sy’n gynhenid mewn babanod nad ydynt yn cael eu profi gan blant hŷn, rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol ag ymddygiad mamol yn ystod y beichiogrwydd: Anaf damweiniol i’r pen, cyd-gysgu, syndrom anhwylder alcohol y ffetws a syndrom ymatal newyddenedigol. Yn Lloegr, mae babanod yn cyfrif am y gyfran fwyaf o Adolygiadau Achos Difrifol (AAD), fel y disgrifir yn yr Adolygiad AAD a gynhelir pob Tair Blynedd. Mae pryder cynyddol hefyd am nifer y babanod sy’n mynd i ofal yn ystod pythefnos gyntaf eu genedigaeth, fel y dangosir yn yr Ymchwil Babanod sy’n cael eu geni i Ofal yng Nghymru ac yn Lloegr
Mae’r materion hyn yn anoddach fyth oherwydd yr heriau niferus sydd ynghlwm â chynnal asesiadau yn y cyfnod cyn-enedigol. Nid yw pryderon diogelu yn dechrau ar y diwrnod y caiff y babi ei eni; mae llawer yn amlwg yn ystod y beichiogrwydd. Rydym ni’n gwybod bod materion iechyd meddwl amenedigol (perinatal) yn gysylltiedig â llawer o bryderon ôl-geni. Gall hyn, ynghyd â ffactorau cyd-destunol, agweddol neu ymddygiadol eraill gyfuno i fod yn gymysgedd a allai fod yn ddinistriol i’r babi sy’n datblygu neu’r babi newydd-anedig. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn gwybod bod beichiogrwydd yn cynnig cyfle eang gan fod llawer o rieni beichiog yn awyddus i ymgysylltu â gwasanaethau yn ystod yr amser hwn. Mae dod â’r ddau beth at ei gilydd – adnabod yr unigolyn yn drylwyr yn gynnar a chyfuniad o bryderon ac awydd posibl rhieni – yn rhoi gobaith gwych i ni am newid tymor hir.
Beth mae GCP2-A yn ei wneud?
Adnodd disgrifiadol ymarferol, pragmatig yw GCP2-A sy’n cefnogi bydwragedd, gweithwyr cymdeithasol ac ymwelwyr iechyd i nodi’r rhieni beichiog hynny a fyddai’n elwa o gael cefnogaeth cyn-geni i leihau’r tebygolrwydd o bryderon ôl-enedigol. Credwn y bydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i nodi a chofnodi lle mae darpar rieni yn gwneud yn dda a pha fath o bryderon, eu cyfuniad a’u difrifoldeb a allai fod ganddynt am y teulu yn gynnar yn y beichiogrwydd. Gyda’r wybodaeth hon, gallant fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn well a sicrhau bod y math cywir o gefnogaeth ar waith cyn i’r babi gael ei eni, gyda’r nod o atal pryderon rhag gwaethygu.
Mae adnodd GCP2-A wedi’i rannu yn dair adran:
- Adran un: pan fydd y beichiogrwydd yn cael ei gadarnhau neu pan fydd pryderon yn dod i’r amlwg, mae fframwaith o chwe chwestiwn cyffredinol yn eich helpu i benderfynu a oes angen GCP2-A llawn.
- Adran dau: adnodd mwy manwl y gellir ei ddefnyddio pan fydd angen disgrifio’n fanylach y meysydd o gryfder a’r rhai sy’n cyflwyno heriau.
- Adran tri: dylid ei chwblhau ar ôl geni yn ystod y 7-28 diwrnod cyntaf.
Mae prif ran yr offeryn (adran dau) yn helpu gweithwyr proffesiynol a rhieni yn eu hymwybyddiaeth a’u paratoi ar gyfer geni’r babi. Yn yr un modd â GCP2, mae’r offeryn yn graddio ansawdd yr ystyriaeth mewn perthynas â pharodrwydd corfforol, diogelwch, emosiynol a datblygiadol. Os ydych chi’n adnabod GCP2 – byddwch chi’n adnabod GCP2-A fel ei frawd neu chwaer iau.
Adnodd yw GCP2-A i helpu yn ein brwydr i wella canlyniadau i fabanod. Ar ôl i ni nodi problemau, gall GCP2-A arwain ymateb aml-asiantaethol wedi’i deilwra i gefnogi teuluoedd beichiog a theuluoedd newydd i fagu eu babanod mewn cartref cariadus diogel.
Os ydych chi am gael yr wybodaeth ddiweddaraf, gallwch gofrestru eich diddordeb yn: GCP2A@nspcc.org.uk
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio’r Proffil Gofal Graddedig 2 gwreiddiol, ewch i NSPCC Learning i ganfod rhagor.
Vivienne Laing – vivienne.laing@nspcc.org.uk