Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gofalwr di-dâl yn cael ei ddiffinio fel oedolyn sy’n rhoi gofal i unigolyn arall na fyddai’n gallu ymdopi heb ei gefnogaeth, p’un ai oherwydd salwch corfforol, anabledd, salwch meddwl neu ddibyniaeth. Gall gofalwyr di-dâl roi cymorth ymarferol ar ffurf gwneud gwaith tŷ, siopa a chludo, rhoi gofal personol ar ffurf golchi’r unigolyn, mynd â’r unigolyn i’r tŷ bach a rhoi triniaeth feddygol iddo (e.e. ei helpu i gymryd meddyginiaeth, gosod a thynnu gorchuddion) a/neu roi cymorth emosiynol. Gall pobl ddod yn ofalwyr unrhyw bryd yn ystod eu bywyd, a gallant fod yn gyfrifol am les partner, rhiant, plentyn anabl, perthynas, ffrind neu gymydog heb fawr o baratoad ymlaen llaw, os o gwbl.  Yn ystod pandemig COVID-19, mae cyfrifoldebau gofalwyr di-dâl wedi cynyddu’n sylweddol. Mae mwy o ofalwyr di-dâl nag erioed o’r blaen, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn rhoi gofal di-dâl cyn y pandemig yn treulio mwy o amser erbyn hyn yn rhoi gofal i unigolyn arall. Er gwaethaf eu cyfraniad hanfodol bob dydd, nid yw gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod ddigon o bell ffordd mewn trafodaethau cyhoeddus ar iechyd a gofal cymdeithasol. Maent wedi teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y pandemig, yn wahanol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sydd wedi cael mwy o gydnabyddiaeth am eu hymdrechion.

Nod ein hastudiaeth, a gafodd ei hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, oedd edrych ar brofiadau gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19. Gwnaethom gyfweld â 47 o bobl rhwng 15 ac 85 oed yn fanwl yn ystod fideoalwad neu dros y ffôn. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i amlygu maint yr heriau yr oedd gofalwyr yn eu hwynebu cyn y pandemig, natur profiadau’r gofalwyr yn ystod y pandemig a beth yw eu gobeithion a’u pryderon ar gyfer y dyfodol.