Nod yr ymchwil arfaethedig yw ymchwilio, dros gyfnod o amser, i ddeilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal (CLA) gan yr  awdurdod lleol (h.y. dan ofal). Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio un pwynt yn unig mewn amser wedi dangos nad yw deilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal cystal o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae profiadau cyn derbyn gofal, megis cam-drin corfforol, afiechyd iechyd meddwl rhieni, a rhieni sy’n camddefnyddio alcohol yn rhesymau cyffredin am ddod yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’r profiadau hyn hefyd yn rhagweld deilliannau iechyd, addysg a chymdeithasol gwaeth ymhlith pobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn gofal. Am y rhesymau hyn, mae’n anodd deall a yw deilliannau iechyd ac addysgol gwaeth ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd o ganlyniad i wahaniaethau o ran profiadau cyn derbyn gofal, neu oherwydd y gofal ei hun. 

Am y tro cyntaf, cysylltodd yr ymchwil hon set ddata Cymru gyfan ar addysg ac iechyd â data sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn ar gymorth i bobl ifanc gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn ymchwilio i dri amcan. Yn gyntaf, mae’n mynd i’r afael â’r diffyg astudiaethau ar raddfa fawr yn y DU sy’n ymchwilio’n ystadegol i rôl statws plant sy’n derbyn gofal wrth ragweld deilliannau addysgol ac iechyd dros gyfnod o amser. Yn ail, bydd yn lleihau’r ansicrwydd ynghylch i ba raddau y mae’r deilliannau gwael ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd oherwydd profiadau cyn derbyn gofal neu oherwydd profiadau o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy gymharu plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydyn nhw’n blant sy’n derbyn gofal (Plant Mewn Angen, ond nid yn Blant sy’n Derbyn Gofal – NLA). Mae’n debygol y bydd gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp hyn sy’n rhagweld pam mae un grŵp yn dod yn blant sy’n derbyn gofal a’r llall ddim, ond mae’r NLA yn debygol o fod yn debycach i blant sy’n derbyn gofal na phlant nad yw’r gwasanaethau yn gwybod amdanyn nhw. Er mwyn ystyried rhai gwahaniaethau pellach rhwng grwpiau, byddwn ni’n addasu hyn yn achos cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni, rhieni sy’n camddefnyddio alcohol a thrais domestig. Yn drydydd, mae statws plant sy’n derbyn gofal yn aml yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd tynnu pobl ifanc o adfyd yn eu symud tuag at lwybrau bywyd gwell. Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i ymchwilio dros gyfnod o amser i rôl gofal wrth leihau effeithiau profiadau cyn-ofal ar ddeilliannau addysg a gofal iechyd. 

Mae’r ymchwil wedi’i ariannu gan Cyngor Economic and Social Research (ERSC)

Cyflwynydd: Dr Sara Long, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd.