Rhianta corfforaethol mewn pandemig: Ystyried cyflenwi a derbyn cymorth i’r rheini sy’n gadael gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19
Yn ystod COVID-19, bu’r rheini oedd yn gadael gofal yn edrych at eu rhieni corfforaethol am gymorth. Yn unol â hynny, roedd yr astudiaeth dull cymysg hon yn edrych ar brofiadau’r rheini oedd yn gadael gofal yn ystod y pandemig. Roedd yn cynnwys arolwg o weithwyr proffesiynol mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru (n=22) a chyfweliadau gyda phobl ifanc 17-24 oed â phrofiad o ofal (n=17). Yn eu cyfweliadau, nododd rhai pobl ifanc eu bod yn derbyn cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Gwnaeth hi’n siŵr fod gen i ddigon o fwyd a stwff, helpodd fi’n ariannol, yn emosiynol ac yn amlwg pan oeddwn i’n symud allan a stwff, roeddwn yn teimlo fel lladd fy hun, ac fel helpodd fi bryd hynny hefyd. Chi’n gwybod, roedd hi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn bob dydd. Daeth i fy ngweld i bron bob dydd. (Bethan)
Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn fy ffonio i’n rheolaidd… galwodd hi fi ar Facetime yr wythnos ddiwethaf a dweud y gwir. Mae’n wych… mae’n ei gadw’n rheolaidd achos mae’n gwybod mod i’n mynd yn isel yn rhwydd… Felly ydi, mae’n cysylltu’n rheolaidd. (Jess)
Ond i bobl ifanc eraill y canfyddiad oedd nad oedd rhianta corfforaethol ar gael.
Allwn i fod wedi marw, a fydden nhw ddim yn gwybod. Dim ond ddwywaith wnaethon nhw gysylltu: allwn i fod wedi lladd fy hun. (Mary)
Dwi wedi cael neges destun neu ddwy ond dyna i gyd, dwi ddim wedi siarad â hi, jest neges destun ac ebost… Byddai’n braf pe baen nhw’n cysylltu i weld ydw i’n fyw a bod yn onest, chi’n gwybod? (Bev)
Dwi wedi trio ffonio pawb yn y swyddfa, ond dwi ddim yn gallu cael gafael ar fy ngweithiwr cymdeithasol hyd heddiw. Dwi ddim wedi siarad ag e ers 5, 6 mis, fy ngweithiwr cymdeithasol, rhywbeth fel’na. (Paul)
Roedd pandemig Covid-19 yn cynnig lens unigryw ar gyfer ystyried rôl y wladwriaeth fel rhiant. Er bod tystiolaeth o arfer da yng Nghymru yn galonogol, gyda rhai pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, mae’n bryderus iawn fod pobl ifanc eraill yn parhau mewn sefyllfaoedd peryglus, yn teimlo eu bod wedi’u hanghofio a’u hesgeuluso gan eu rhieni corfforaethol. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos tuedd rhianta corfforaethol i gynnig amddiffynfa yn erbyn gofidiau’r pandemig, ond hefyd i ddwysau anawsterau pobl ifanc drwy fod yn anweithredol, peidio ag ymateb a/neu beidio â bod yn ofalgar.
I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth gweler – Roberts, L., Rees, A., Mannay, D., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C. a Vaughan, R. 2021. Rhianta corfforaethol mewn pandemig: Considering the delivery and receipt of support to care leavers in Wales during Covid-19. Children and Youth Services Review
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y blogiau hyn sy’n gysylltiedig â’r pwnc ar Teulu a Chymuned.
Yng nghysgod pandemig: Profiad pobl ifanc y stryd yn Harare yn ystod COVID-19
Pandemig Coronavirus: Profiadau a gwersi ar gyfer y dyfodol