Y cryfderau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau ac ymyriadau ar-lein i gynorthwyo iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Rhiannon Evans, Lorna Stabler and Rachael Vaughan, Prifysgol Caerdydd.
Bu i bandemig y Coronafeirws a’i gyfyngiadau cysylltiedig olygu bod angen symud o ryngweithio wyneb yn wyneb i fathau o ymgysylltu o bell a oedd yn dibynnu ar gyswllt dros y ffôn neu ar-lein. Cafodd hyn ganlyniadau o ran math ac amlder y gwasanaethau neu ymyriadau iechyd meddwl a lles a oedd ar gael i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a’u gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau.
Mae’r gweminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd yn 2021 a oedd yn archwilio’r farn ynghylch, a’r profiadau o’r, ddarpariaeth iechyd meddwl a lles, ymhlith pobl ifanc, gofalwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws. Cyflwynwyd y gwasanaethau hyn ar-lein, dros y ffôn, neu weithiau drwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac o bell. Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Rhiannon Evans a chydweithwyr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Maethu Cymru a Voices from Care Cymru. Ariannwyd yr astudiaeth gan Rwydwaith TRIUMPH UKRI.
Roedd yr astudiaeth yn canoli profiad bywyd pobl ifanc, gofalwyr maeth a pherthnasau, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Roedd ymchwilydd cymheiriaid â phrofiad o ofal o Grŵp Cynghori Ymchwil Voices CASCADE yn rhan o dîm ymchwil yr astudiaeth. Yn ogystal, cyfrannodd Grwpiau Cynghori Rhwydwaith Maethu Cymru a phobl ifanc o Voices from Care Cymru at gynllun yr astudiaeth a’r argymhellion a gynhyrchwyd o’r ymchwil hwn.
Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno themâu allweddol yr astudiaeth ymchwil ac yn tynnu sylw at argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer. Nod canfyddiadau’r astudiaeth hon yw ysgogi’r gwaith o wella gwasanaethau ac ymyriadau o bell ac wyneb yn wyneb i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, wrth i ni symud y tu hwnt i gyfyngiadau pandemig y Coronafeirws.