Mae’n argyfwng ar ofal cymdeithasol plant yng Nghymru. Ceir problemau tebyg ar draws y DU, ac eto tra bod yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal adolygiadau annibynnol i archwilio ffyrdd newydd radical o wneud pethau, yng Nghymru mae’n ymddangos ein bod yn meddwl nad oes angen hynny.

Ond rwy’n credu bod angen – a dyma pam…

Mae gofal cymdeithasol plant yn llawn pobl – gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill – sydd ag ymroddiad rhyfeddol i helpu plant a theuluoedd. Yr angerdd hwnnw sy’n golygu eu bod yn parhau i wneud y gwaith hyd yn oed pan fo cyflog ac amodau, diffyg cefnogaeth a sylw yn y wasg ynghyd â’r heriau o amddiffyn plant mewn amgylchiadau anodd yn golygu ei bod yn un o’r swyddi anoddaf un.

Mae’r pwysau ar y system yn golygu bod problemau enfawr o ran recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth ac eraill. Dywedodd uwch reolwr wrthyf yn ddiweddar fod gan eu hawdurdod lleol 40% o swyddi gwag – mae gan bob awdurdod rwyf i wedi siarad â nhw broblemau difrifol dim ond yn sicrhau digon o staff.

Mae sail gref dros feddwl bod y rhain a phwysau eraill yn cyfrannu at system nad yw’n gweithio. Ar y naill law mae gennym ni drasiedïau erchyll fel marwolaeth Logan Mwangi, sy’n awgrymu bod methiannau yn y system.

Ar y llaw arall mae gennym y nifer uchaf erioed o blant mewn gofal. Roedd ein cyfradd ni yng Nghymru yn arfer bod yr un fath â Lloegr – mae bellach dros 70% yn uwch. Bellach Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o blant mewn gofal oddi cartref yn y DU ac un o’r cyfraddau uchaf drwy’r byd i gyd: mae 1% o’r holl blant mewn gofal. Mae Sir Fynwy, lle rwy’n byw, wedi gweld cynnydd o dros 350% yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae hynny’n rhyfeddol.

Ac eto, mae’r canlyniadau i blant mewn gofal yng Nghymru yn wael ac, yn hollbwysig, dydyn nhw ddim wedi bod yn gwella. Maen nhw’n dal i gael canlyniadau gwael yn yr ysgol, er enghraifft, ac mae’n ymddangos mai nifer fach iawn sy’n mynd i’r brifysgol.

Dywedodd Einstein mai’r diffiniad o wallgofrwydd oedd “dal ati i wneud yr un peth dro ar ôl tro a disgwyl canlyniadau gwahanol.” Dyna’n union rydym ni’n parhau i’w wneud wrth feddwl am sut i amddiffyn plant.

Byddai Adolygiad Annibynnol i Gymru’n gadael i ni feddwl sut y gallem wneud pethau’n wahanol.

Byddai’n gadael i ni osod llais y plant a theuluoedd wrth galon ein gwaith.

Byddai’n gadael i ni glywed lleisiau newydd gyda syniadau arloesol.

Byddai’n gadael i ni edrych ar sut y gallai’r system gyfan symud i ganolbwyntio ar helpu teuluoedd ac amddiffyn plant, nid gofal cymdeithasol yn unig.

Nid fi yw’r unig un sy’n meddwl bod angen Adolygiad Annibynnol yng Nghymru. Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, cyn-bennaeth y Bwrdd Diogelu Cenedlaethol a bron pob gweithiwr rwyf i wedi siarad â nhw’n cytuno. Does dim modd achub Logan Mwangi bellach, ac yn anffodus mae’n amhosibl bod yn siŵr na fydd plentyn arall yn marw yn sgil camdriniaeth.  Ond does bosib y dylai ei farwolaeth ein hysgogi i ymdrechu i wneud popeth a allwn i sicrhau bod gwasanaethau i blant a theuluoedd yng Nghymru y gorau y gallant fod. I wneud hynny mae angen i ni gael Adolygiad Annibynnol.

Blog by Professor Donald Forrester