Cam-drin yw hyn: Profiadau menywod ifanc o orfodaeth rywiol 

Dr Ceryl Davies, Prifysgol Bangor 

Mae’r gweminar hwn yn cyflwyno ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar sut mae menywod ifanc yn trafod eu hagweddau at berthynas agos a’u profiadau o fod mewn perthynas o’r fath. Y nod cyffredinol oedd nodi, archwilio a gwella gwybodaeth am natur a phatrymau’r cam-drin y mae menywod ifanc yn dioddef ohono.  

Yn rhan o astudiaeth ranbarthol a gynhaliwyd ar draws saith ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru roedd arolwg agwedd (n=220) i archwilio barn menywod ifanc am normau ar sail rhyw a pherthynas iach/afiach, gan ganolbwyntio’n benodol ar eu hagweddau ar sail rhyw. Cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau lled-strwythuredig er mwyn casglu gwybodaeth fanwl gan 25 o fenywod ifanc rhwng 15 a 18 oed.  

Mae’r gweminar hwn yn archwilio’n fanwl themâu ‘safonau dwbl’ rhywiol, gorfodaeth rywiol, cydsyniad, dewis, pŵer a rheolaeth. Canlyniad gorfodaeth rywiol, boed yn gynnil neu’n amlwg, oedd bod y menywod ifanc, pe baent yn ildio i gynigion digroeso neu ddymunol, yn amau eu hunan-werth. Mae hyn yn dangos mai math o orfodaeth rywiol yw bodloni gofynion dynion o fewn eu terfynau amser nhw. Bydd y drafodaeth hefyd yn amlinellu’r pwysau sydd i’w cael mewn perthynas agos ifanc a’r ansicrwydd ynghylch beth sy’n dderbyniol o ran rhyw, dewis a rheolaeth.  

Daeth yr ymchwil i’r casgliad nad oedd ymddygiad camdriniol mewn perthynas agos ifanc yn cael ei guddio, sy’n dangos diffyg ymwybyddiaeth o ymddygiad derbyniol neu, yn wir, yr angen i sicrhau nad oes neb yn gweld ymddygiad camdriniol niweidiol o’r fath. Mae hyn yn dangos bod ymarfer gorfodaeth rywiol yn gyhoeddus wedi dod yn dderbyniol ymhlith pobl ifanc, sy’n dangos eu bod wedi normaleiddio gorfodaeth rywiol.  

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.