Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

04 Mai 2023
9:30 AM – 3:00 PM

Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar faterion LHDT a phobl ifanc. Y broses o ddod allan, materion megis bwlio, hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb i bobl ifanc. Sut mae cefnogi pobl ifanc, p’un a ydyn nhw’n hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol, yn drawsrywiol neu’n cwestiynu. Bydd yn delio â materion megis diogelu, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Fe’i cynhelir gan ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.

Mae’r cwrs ar gyfer Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut gall eu gwaith gefnogi pobl ifanc LHDTC. Archwilio tueddiadau newydd o ran hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb a sut mae hynny’n effeithio ar ymarfer.

Nodau:

  • Meddu ar ddealltwriaeth o faterion LHDTC
  • Dysgu ffyrdd o gefnogi pobl ifanc LHDTC
  • Casglu gwybodaeth am ddiogelu pobl ifanc LHDTC
  • Caffael sgiliau ymarferol o ran adnabod pobl ifanc sydd mewn sefyllfa fregus o ran Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.