Wedi cyfnod digynsail o darfu ac ansicrwydd, gwyddom fod llawer o bobl wedi dioddef trawma ac iechyd meddwl gwael. Mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau i lawer o bobl yng Nghymru ac mae’r rhai oedd yn agored i niwed ar ddechrau’r cyfnod bellach yn wynebu lefelau uwch o drallod nag erioed o’r blaen.
Ar yr adeg anodd hon, rydym yn falch i lansio adnodd newydd i Gymru, ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi sylwi bod eu llesiant wedi dirywio, y rhai sy’n teimlo’n unig neu wedi’u hynysu, a’r rhai sy’n teimlo’n hunanladdol. Mae Dod o Hyd i’ch Ffordd yn cynnwys gwybodaeth hollbwysig am hunan-niwed, ac rydym yn falch o gael adrannau gwych oddi wrth sefydliad Heads Above the Waves (HATW) sy’n canolbwyntio’n gryf ar brofiad byw. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys cynlluniau diogelwch ar gyfer hunan-niwed a hunanladdiad, sy’n gallu bod yn offer achub bywyd i’r rhai sy’n cael trafferth i ymdopi.
Mae’r adnodd hwn wedi’i lunio fel un anghlinigol a hygyrch yr ydym yn gobeithio ei weld mewn nifer o leoliadau, o feddygfeydd meddygon teulu i fanciau bwyd, prifysgolion i ganolfannau gwaith. Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru. Nid yw llawer ohonynt mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl ac felly, gwyddom fod angen i gymorth a chyfeiriadau fod yn hygyrch mewn amrywiaeth fawr o leoedd â blaenoriaeth a gwasanaethau rheng-flaen. Hefyd, mae’r adnodd yn canolbwyntio ar atal a’i nod yw helpu pobl i adnabod yn gynnar pan fyddant yn cael trafferth i ymdopi, fel eu bod yn osgoi cyrraedd pwynt argyfwng.
Os hoffech gael deunyddiau ychwanegol i’ch helpu chi i hyrwyddo’r adnodd hwn, gan gynnwys delweddau a chopi i’r cyfryngau cymdeithasol neu gopïau caled o’r adnodd, cysylltwch â thîm Cymru wales@samaritans.org wales@samaritans.org.