Gwneud Gwaith Diogelu Oedolion gyda Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr

Cyflwynydd: Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerfaddon

Gwneud Gwaith Diogelu Oedolion gyda Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr

Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerfaddon

Amser: 12 – 1pm

Dyddiad: 19/02/23

Lleoliad: ZOOM, Online

Crynodeb: Bydd y cyflwyniad hwn yn manylu ar ddisgrifiadau gweithwyr cymdeithasol o wneud gwaith diogelu oedolion gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr teuluol a gofalwyr cyflogedig. Bydd yn taflu goleuni ar y ddealltwriaeth sydd gan weithwyr cymdeithasol o adnoddau asesu risg a’u defnydd ohonynt, a bydd yn dangos sut y cafodd y rhain eu defnyddio i gofnodi pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb dros fesur a monitro risg. Gwnaeth y gweithwyr cymdeithasol bwysleisio’r angen i sicrhau diogelwch uniongyrchol y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau wrth iddynt wneud gwaith diogelu oedolion. Gwnaethant hefyd dynnu sylw at yr anawsterau o ran cynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn gwaith diogelu a gwneud y gwaith hwnnw o fewn yr amser sydd ar gael.

Caiff yr agweddau allweddol ar weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau eu hamlygu, ac maent yn cynnwys egluro beth yw diogelu oedolion, galluogi pobl i gymryd risgiau, asesu’r hyn sy’n bwysig i’r unigolyn ac addysgu’r unigolyn beth yw cam-drin ac esgeulustod. Bydd dulliau gweithredu ar gyfer gofalwyr teuluol yn cael eu disgrifio, gyda gweithwyr cymdeithasol yn rhoi pwyslais ar ddulliau cefnogol neu bendant. Yn olaf, mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar sut y gwnaeth gweithwyr cymdeithasol ymgysylltu â gofalwyr cyflogedig yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal, gan ddangos bod y dulliau diogelu’n cael eu gorfodi’n bennaf drwy gydymffurfio â gwaith papur.