Dyma’r weminar gyntaf yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd

Yr Athro Peter Beresford

Amser: 12:00 – 13:00

Dyddiad: 09/11/23

Lleoliad: ZOOM, Ar-lein

Crynodeb:

Gan elwa ar ei brofiad a phrofiad pobl eraill, nod Peter yn y cyflwyniad hwn, a fydd yn sail i’r drafodaeth ddilynol, yw ein helpu i ailystyried y ddwy ddealltwriaeth ynghlwm wrth les meddyliol a thrallod, a’r ffyrdd fuddiol o fynd i’r afael â’r anawsterau hynny rydym hwyrach yn eu hwynebu – gan dalu sylw arbennig at sut y gall anawsterau plentyndod ddod yn ôl i’n poenydio yn nes ymlaen a sut y gall deall ein hunain ac eraill yn blant fod o gymorth tra’n byw ein bywydau.

Bywgraffiad

Cadeirydd Shaping Our Lives yw Peter Beresford, sef sefydliad a rhwydwaith cenedlaethol a arweinir gan ddefnyddwyr a phobl anabl. Mae ganddo gryn brofiad o ddefnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl gwladol ac mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol East Anglia. Mae ganddo hanes hir o gymryd rhan weithredol mewn materion sy’n ymwneud â chyfranogi ar sail ymgyrchydd, addysgwr, awdur ac ymchwilydd. Ei lyfr diweddaraf (ar y gweill gan PCCS) yw: A Straight Talking Introduction to Emotional Wellbeing: from mental illness to Mad Studies.