Rhwydwaith Cymru gyfan yw ExChange, a’i nod yw dod â gweithwyr, ymchwilwyr a’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd i rannu profiadau ac arbenigedd, ac i ddysgu o’i gilydd. Ein nod yw gwella gwaith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy sbarduno trafodaeth a meithrin perthnasau parhaus rhwng pobl â gwahanol mathau o arbenigedd.

Ein cred yw bod gwaith ymchwil yn cael mwy o effaith pan fo’n rhan o drafodaeth barhaus rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr, a’r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol o ddefnyddio gwasanaethau. Rydym felly yn canolbwyntio ar ddod ag ymchwilwyr blaenllaw i gysylltiad uniongyrchol â gweithwyr, rheolwyr, a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau, er mwyn i ni allu dysgu o’n gilydd. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym yn rhedeg rhaglen o fwy na 20 o ddigwyddiadau ledled Cymru, a hynny’n cynnwys cynadleddau mawr a seminarau bach gydag arbenigwyr blaenllaw.

Sefydlwyd ExChange gan y Ganolfan Cascade ym Mhrifysgol Caerdydd, ond rydym yn cydweithio’n agos â phrifysgolion Abertawe a Bangor, a gobeithiwn wneud hynny â phrifysgolion eraill ledled Cymru hefyd. Mae bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn aelod, yn ogystal ag elusennau allweddol a sefydliadau eraill. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi i roi amrywiaeth o gyfleoedd i drafod a chydweithio, a hynny gan ganolbwyntio’n barhaus ar sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn gwneud gwahaniaeth. Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ebost: contact@exchangewales.org.