Mae pandemig Covid-19 wedi codi cwestiynau difrifol i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y wlad. Un o’r rhai mwyaf yw: sut rydych chi’n parhau i ddefnyddio’r celfyddydau creadigol i roi grym i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn ystod y cyfnod clo? Dywed Nicky Goulder, Prif Weithredwr Sefydlol Create, wrthym sut mae Create Live! wedi eu galluogi i wneud hyn a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

Create Live! participants

Ar 24 Mawrth, daeth ein holl brosiectau, sy’n dibynnu ar ryngweithiadau wyneb yn wyneb, i ben yn sydyn.

Yn Create, rydym yn defnyddio’r celfyddydau creadigol i roi grym i fywydau ac i wella lles. Rydym yn dwyn ynghyd blant ysgolion cynradd mewn ardaloedd difreintiedig gydag oedolion anabl. Rydym yn cynnig amser hanfodol i ffwrdd o’u cyfrifoldebau i ofalwyr ifanc ac i oedolion. Rydym yn mynd â gweithdai i mewn carchardai ac i unedau iechyd meddwl y glasoed. Rydym yn gweithio gyda phobl hŷn sy’n profi unigrwydd. Mae lleihau unigedd i’r bobl hyn yn ganolog i’n cenhadaeth. Ond sut rydych chi’n cyflawni hynny pan fydd yn rhaid i bawb ynysu?

Roeddem ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd ac gwnaethom ymchwilio, treialu a lansio Create Live!, dull newydd o ddarparu gan ddefnyddio dulliau digidol, o fewn dim ond 14 diwrnod. Rydym bellach wedi cyflwyno prosiectau ffotograffiaeth, cerddoriaeth, celf, drama a dawns gyda chyfranogwyr agored i niwed ledled y DU. Mae grant ymateb brys gan Gyngor Celfyddydau Lloegr yn ein galluogi i ymestyn y gwaith hwn ymhellach.

Roedd yn rhaid i ni addasu – yn gyflym – i symud o weithdai wyneb yn wyneb i weithdai digidol. Beth rydym wedi’i ddysgu?

Symud o gwmpas technoleg

Gall bod yn greadigol mewn ffordd rithwir fod yn her. Yr hyn sy’n allwedd yw cymryd rhywbeth a allai ymddangos yn gyfyngiad a’i ddefnyddio i agor posibiliadau newydd. Penderfynon ni ddathlu’r cartref.

Ymatebodd y ffotograffydd ac artist Create Alejandra Carles-Tolra drwy ofyn i ofalwyr ifanc dynnu lluniau o’r pethau personol o’u cwmpas, edrych ar eu cartrefi gyda llygaid newydd a dod o hyd i ysbrydoliaeth mewn gwrthrychau bob dydd. Roedd archwilio eu cartrefi ac yna dychwelyd i’r sgrin i gydweithio ag eraill yn gyfle creadigol ar gyfer hunanfynegiant a chyfle i gysylltu â gofalwyr ifanc eraill.

“Mae cydweithredu bob amser yn ganolog i’m gwaith,” meddai Alejandra, “ac yn ystod y cyfnod hwn o fwy o unigedd roedd yn teimlo’n hanfodol y gallai’r gofalwyr ifanc gydweithio a rhannu eu gwaith creadigol a’u syniadau gyda’i gilydd. Does dim ots pa offer sydd gennych chi, mae’n ffordd o edrych ar y byd.”

“Does dim ots pa offer sydd gennych chi, mae’n ffordd o edrych ar y byd.”
Alejandra Carles-Tolra

Diogelwch a chysur

Mae sicrhau bod cyfranogwyr yn ddiogel ac yn gysurus yn hanfodol. Gwnaethom ddiweddaru ein Polisi Diogelu gennym ar ôl ymchwil fanwl; a chanolbwyntio ar y manylion lleiaf i’w helpu i deimlo’n dawel ac yn hamddenol. Rydym yn sicrhau, er enghraifft, bod enwau cyfranogwyr –dim ond enwau cyntaf – yn cael eu harddangos yn gywir.

Mae’r gwneuthurwr theatr/awdur ac artist Create James Baldwin  yn esbonio, “Mae creu cysylltiad grŵp yn anodd pan fyddwch wedi’ch datgysylltu’n gorfforol, felly mae’n bwysig blaenoriaethu pethau a allai ymddangos fel rhywbeth bach ond gwneud i’r cyfranogwyr deimlo’n gyfforddus. Mae’n ymwneud â gallu cofleidio’r dechnoleg i gyflawni eich nod: cael hwyl a gwneud i’r cyfranogwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.”

A group of young people. All but one of them have their hands raised above their heads.

Arloesi pan nad oes mynediad TG

Gall diffyg mynediad at gyfrifiaduron neu’r Rhyngrwyd fod yn rhwystr gwirioneddol i redeg ein prosiectau. Felly fe wnaethom addasu Create Live! a chynhaliwyd gweithdai cerddoriaeth gyda’n cyfranogwyr hŷn dros y ffôn.

“Gwnaeth [y gweithdy] uffern o wahaniaeth i mi,” meddai un cyfranogwr. “Roeddwn i ar y ffôn am dair awr! Mae wedi fy neffro. Roeddwn yn dechrau blino heb ddim i’w wneud, neb i siarad ag ef. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr heddiw. Byddaf yn cysgu heno.”

Mae adborth a gafwyd ar draws ein prosiectau Create Live! gan gyfranogwyr, rhieni, partneriaid cymunedol ac artistiaid wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw creadigrwydd i les yn y cyfnod rhyfedd hwn. Rydym yn parhau i addasu a chynyddu nifer y gweithdai sy’n cael eu darparu drwy Create Live! er mwyn cyrraedd cynifer o bobl ynysig, agored i niwed â phosibl yn ystod y cyfnod cloi hwn a thu hwnt.

“Gwnaeth [y gweithdy] uffern o wahaniaeth i mi… Roeddwn i’n dechrau blino heb ddim i’w wneud, neb i siarad ag ef. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr heddiw.”
Cyfranogwr

Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ar 10 Gorffennaf 2020.