Ysgrifennwyd y canllaw hwn ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru sydd mewn sefyllfa i gefnogi ac annog pobl ifanc mewn gofal sy’n ystyried ymgeisio, neu sydd wedi gwneud cais yn ddiweddar, i astudio yn y brifysgol. Mae’n darparu gwybodaeth ac arweiniad ymarferol gan gynnwys gwybodaeth mewn perthynas â chymwysterau, dewis y cwrs cywir, proses ymgeisio UCAS, yn ogystal â chefnogaeth ariannol, emosiynol a chyffredinol. Mae’r canllaw hefyd yn amlinellu cefnogaeth ymadawyr gofal sydd ar gael o bob prifysgol yng Nghymru, a dolenni i adnoddau a gwefannau sy’n manylu ar ragor o wybodaeth am fywyd myfyrwyr.
Bydd y canllaw yn galluogi gofalwyr maeth i ddarparu lefel y gefnogaeth y byddai unrhyw riant da ei eisiau i unrhyw blentyn – gan eu helpu i fod yn hapus, sicrhau llwyddiant addysgol, a datblygu i fod yn oedolion llwyddiannus.
Er ei fod yn canolbwyntio ar fynediad i Addysg Uwch, mae peth o’r wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw yr un mor berthnasol i bobl ifanc sy’n astudio mewn Addysg Bellach. Bydd ymadawyr gofal bob amser angen cefnogaeth eu gofalwr maeth waeth pa gymhwyster y maent yn astudio ar ei gyfer neu’n gweithio tuag ato.
Y gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn ysbrydoli gofalwyr maeth i fod yn uchelgeisiol i’r plant y maent yn gofalu amdanynt, ac i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain gredu y gallant ddyheu a chyflawni. Ni ddylai bod mewn gofal fod yn rhwystr i fynd i’r brifysgol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/advice-information/looking-after-fostered-child/education