Y llynedd, bu grŵp o westywyr yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, rhai o CASCADE, yn cydweithio i ddarparu cinio Nadolig a dathliad i bobl â phrofiad o ofal. Roedd y tîm yn nerfus iawn cyn y diwrnod mawr, gydag atgyfeiriadau’n dal i gyrraedd hyd at yr wythnos cyn y Nadolig. Gwirfoddolodd cogydd am dridiau i sicrhau bod y cinio yn cael ei goginio’n berffaith, gyda Milk and Sugar, Stadiwm Principality, a thrigolion y gymuned yn cyfrannu’r bwyd. 

Yn dilyn neges o groeso gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, dechreuodd pawb ar y bwyd. Roedd y pryd mor flasus fel yr aeth y rhan fwyaf o bobl yn ôl i gael mwy. Ar ôl cinio, cyflwynwyd anrhegion oedd wedi’u dewis yn ofalus i’r gwesteion gan goblyn lleol a chawsant ddewis cwilt wedi’i wneud â llaw hefyd, a gyflwynwyd gan Quilts for Care Leavers. Prin oedd y bobl yn yr ystafell na chollodd ddeigryn.  

Cysylltodd rhai o’r bobl ifanc yn ddiweddarach i ddweud beth roedd y diwrnod wedi’i olygu iddyn nhw: 

“Roedden ni am anfon y diolch mwyaf erioed i’r tîm am y digwyddiad ddydd Nadolig. Roedd y teimlad o gael ein cynnwys drwy gydol y dydd bron yn drech na ni ac roedden ni am wneud rhywbeth i fynegi ein diolch am y llwyth amlwg o waith a wnaed i sicrhau ei fod yn digwydd. Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi treulio sawl Nadolig mewn llefydd gwahanol gyda phobl wahanol, ac er ein bod bob amser mor ddiolchgar, mae teimlad wastad ein bod yn ymyrryd. Dydd Nadolig 2022 oedd y tro cyntaf i ni beidio â theimlo hynny. Roedd cael digwyddiad yn benodol ar gyfer unigolion yn ein sefyllfa ni, gyda phobl mewn sefyllfa debyg o’n cwmpas, yn deimlad cynnes ac anhygoel; am unwaith doedden ni ddim yn teimlo fel yr ‘add-on’; roedden ni’n teimlo ein bod ni’n rhan lawn o rywbeth, a’n bod yn perthyn. O’r anrhegion a’r bwyd, i’r sgyrsiau a’r gweithgareddau, y chwerthin, y caredigrwydd a’r cynhesrwydd a ddaeth gyda phawb yn y tîm, roeddem ni eisiau dweud diolch o galon, am bopeth.”

Gydag adborth o’r fath, sut allen ni beidio â gwneud y cyfan eto? Bydd pobl â phrofiad ofal, a fyddai fel arall yn treulio Dydd Nadolig ar eu pen eu hunain ac sydd o fewn radiws o 30 milltir o Gaerdydd, unwaith eto yn cael gwahoddiad, a bydd trafnidiaeth yn cael ei darparu ar eu cyfer. Byddan nhw’n derbyn anrhegion, cinio a diwrnod yn llawn gweithgareddau hwyliog. Gallwch atgyfeirio pobl ifanc trwy lenwi ffurflen mynegi diddordeb.

Dim ond os yw pobl yn cymryd rhan fydd hyn yn gweithio. Y llynedd, daeth gwirfoddolwyr o bob math o gefndiroedd gwahanol a phob oed. Llwyddodd Ffion, ein gwirfoddolwr ieuengaf, i wneud i’r lleoliad edrych yn syfrdanol, ac roedd yn anhepgor drwy gydol y dydd. Dyma oedd ganddi hi i’w ddweud am y profiad:

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwirfoddoli dros Ddydd Nadolig. Roedd yn wych cwrdd â’r bobl ifanc; fe sgwrsion ni, chwarae gemau a gwneud celf a chrefft. Roedd y cinio Nadolig yn flasus a’r peth gorau oedd gwylio pawb yn agor eu hanrhegion. Byddaf i’n bendant yn cymryd rhan eto eleni!”

Ffion

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch lenwi’r ffurflen hon i ni gael cydweddu eich sgiliau a’ch argaeledd gyda’r gwaith. Does dim angen i chi fod ar gael ar y dydd, mae digon o bethau i’w gwneud cyn y diwrnod mawr.

Mae’r gwirfoddolwyr yn codi arian ar gyfer y digwyddiad, gyda’r arian a gesglir yng ngofal yr elusen gofrestredig Lleisiau o Ofal (VfC). Maen nhw hefyd yn chwilio am anrhegion ac addurniadau o safon uchel ar gyfer y digwyddiad. Gall unrhyw un sy’n dymuno helpu ebostio thecardiffchristmasdinner@gmail.com