Yn ystod 2024, mae CASCADE yn falch iawn o fod yn dathlu degawd o effaith drawsnewidiol ar ofal cymdeithasol plant. Mae ein taith ddeng mlynedd yn llawn astudiaethau arloesol a chyfraniadau sylweddol at bolisi ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol plant.

Dros y blynyddoedd hyn, mae CASCADE wedi ymchwilio i nifer o feysydd ymchwil, gan ddylanwadu’n fawr ar sut mae gofal yn cael ei weinyddu a pholisïau’n cael eu llunio. Mae ein pen-blwydd yn 10 oed nid yn unig yn garreg filltir ond yn dyst i’r ymgais diflino am ragoriaeth a’r newidiadau diriaethol yr ydym wedi’u gwneud ym mywydau plant a’r dirwedd gofal cymdeithasol ehangach.

I nodi’r flwyddyn bwysig hon, rydym yn cynnal cynhadledd Gyfnewid sy’n ailymweld â’n hymchwil yn y gorffennol trwy weminarau, cyfres o bodlediadau sy’n archwilio i wahanol bynciau sydd o bwys i ni a dyfodol gofal cymdeithasol plant, a chymaint mwy. Bydd hyn oll yn digwydd yn y cyfnod cyn 23 Mai a’r digwyddiad Dathlu 10 Mlynedd.






Mae pen-blwydd swyddogol CASCADE ar 23 Mai. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn dathlu CASCADE gyda digwyddiad partneriaeth yn cynnwys archwiliadau o’n hymchwil yn y gorffennol a’r presennol, siaradwyr gwadd, perfformiadau, ac edrych yn ôl ar bopeth y mae CASCADE wedi’i gyflawni.

Sylwch fod y digwyddiad hwn trwy wahoddiad yn unig, ond bydd recordiadau fideo a lluniau o’r digwyddiad yn cael eu cyhoeddi yma ar ôl y digwyddiad.



CASCADE: 10 Mlynedd o Ddylanwadu ar Bolisi ac Ymarfer

Mae 2024 yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu CASCADE, sef y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Dyma gartref ExChange Wales ac un o’r canolfannau ymchwil mwyaf o’i math yn y DU.

Yn ystod degawd cyntaf CASCADE, rydym wedi cynnal a bod yn rhan o nifer o astudiaethau ym maes gofal cymdeithasol plant. Er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed, ein nod yw ail-edrych ar rai o’r astudiaethau hynny, gan ystyried yr effaith y maent wedi’i chael ar bolisi ac ymarfer.

Bydd pump o bynciau yn cael eu cyflwyno yn rhan o’r gyfres hon o gynadleddau, a fydd ar ffurf gweminarau byw ac yn cael eu cynnal ochr yn ochr â chyfres o bodlediadau gan CASCADE. Ymhlith y gweminarau mae: ‘Effaith yr ymchwil ar Blant sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg (LACE)’ dan arweiniad yr Athro Dawn Mannay, ‘Gwaith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar hawliau’ dan arweiniad yr Athro Donald Forrester (lansiad llyfr), ‘Camfanteisio’n Droseddol ar Blant’ dan arweiniad Dr Nina Maxwell, ‘Gwella arfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant’

Gweminarau

Galluogi siarad ac ailfynegi negeseuon: Gweithio’n greadigol ac yn gydweithredol er mwyn creu effaith gan ddefnyddio hanesion plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Yr Athro Dawn Mannay

Bydd Dawn yn cyflwyno ar effaith ymchwil Plant sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg (LACE), un o raglenni ymchwil mwyaf adnabyddus a mwyaf llwyddiannus CASCADE o’r 10 mlynedd diwethaf.


‘’Dyw e byth yn mynd i weithio iddo fe, mae e eisiau marw’’. Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.

Dr Nina Maxwell

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru.

Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gwnaeth y tîm ymchwil ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod yr ymchwil yn ychwanegu gwerth at arfer presennol.


Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant

Yr Athro Jonathan Scourfield

Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy’n canolbwyntio’n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol).

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno’r broblem ac yn disgrifio’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymchwil a’r datblygiad sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i wella’r sefyllfa.





Yn CASCADE, rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein cyfres newydd o bodlediadau sy’n ymchwilio’n fanwl i wahanol themâu a phynciau sy’n bwysig i ni. Ymunwch â ni i archwilio’r pynciau gyda’n gilydd.

Beth yw pwynt ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol plant?

Sally Holland a Donald Forrester

Pam mae newid gofal cymdeithasol plant mor anodd?

Donald Forrester, Clive Diaz a Lorna Stabler

Pam ydyn ni’n cymryd plant plant mewn gofal oddi arnyn nhw?

Jen a Sally Holland

Sut gallwn ni wybod ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth?

Donald Forrester, Sally Holland a David Westlake

Dull Iechyd y Cyhoedd o Fynd i’r Afael â Niwed ac Anghydraddoldebau

Sally Holland,
Martin Elliott a Nell Warner

CASCADE 10: "How can we know we make a difference?" with Sally Holland, Donald Forrester and David Westlake CASCADE Talks

  1. CASCADE 10: "How can we know we make a difference?" with Sally Holland, Donald Forrester and David Westlake
  2. CASCADE 10 – "How has Public Involvement inspired CASCADE over the last ten years?" with Jen and Sally Holland
  3. CASCADE 10 – "A Public Health Approach to Tackling Harms and Inequalities" with Nell Warner, Martin Elliott and Sally Holland
  4. CASCADE 10 – "Why is changing children's social care so difficult?" with Lorna Stabler, Clive Diaz and Donald Forrester
  5. CASCADE 10 – 10 Years: An Introduction with Sally Holland and Donald Forrester