Gan Katrina Rast, Daniel Herman, Tony Rousmaniere, Jason Whipple and Joshua Swift 

SAGE Open 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried dau gwestiwn – (i) beth yw effaith ganfyddedig goruchwyliaeth ar ganlyniadau i gleientiaid a (ii) pa mor bwysig yw hi i oruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio bod goruchwyliaeth yn effeithio ar ganlyniadau i gleientiaid? Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn perthynas â hyfforddiant seicotherapi a goruchwyliaeth glinigol.

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Defnyddiodd yr astudiaeth arolwg i ymchwilio i farn goruchwylwyr (n = 189) a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio (n = 185). Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am effaith goruchwyliaeth ar gleientiaid a phwysigrwydd goruchwyliaeth yn cael effaith ar gleientiaid. Roedd y mwyafrif o’r cwestiynau yn disgwyl ymateb oedd yn debyg i arddull Likert, gyda graddfa 5 pwynt (o 1 = ddim yn cytuno, i 5 = cytuno’n llwyr). 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd goruchwylwyr a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio fel ei gilydd yn gadarnhaol ynghylch effaith goruchwyliaeth ar ganlyniadau i gleientiaid, gyda’r sgorau cyfartalog cyffredinol o 3.65 a 3.54 yn y drefn honno (allan o 5). Mewn perthynas â phwysigrwydd goruchwyliaeth yn cael effaith ar ganlyniadau cleientiaid, roedd y rhai oedd yn cael eu goruchwylio yn fwy cadarnhaol na goruchwylwyr, gyda sgoriau cyfartalog cyffredinol o 4.06 a 3.87 yn y drefn honno (ditto). Cytunodd goruchwylwyr a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio fod goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth mewn perthynas ag effaith cwnsela / seicotherapi ar gleientiaid ac y gallai helpu i leihau dirywiad cleientiaid (problemau’n gwaethygu). 

Dywedodd goruchwylwyr hefyd fod goruchwyliaeth yn helpu gyda thwf personol a phroffesiynol y rhai oedd yn cael eu goruchwylio ganddynt, er enghraifft trwy helpu i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Dywedodd goruchwylwyr hefyd eu bod yn helpu y rhai oedd yn cael eu goruchwylio trwy eu cefnogi i ddatblygu perthnasoedd cydweithredol â’u cleientiaid. Dywedodd y rhai oedd yn cael eu goruchwylio fod goruchwyliaeth yn helpu trwy wneud iddynt deimlo eu bod wedi cael eu dilysu a’u cefnogi’n dda, a thrwy ddarparu syniadau, gweithgareddau, technegau a strategaethau iddynt roi cynnig ar eu cleientiaid. 

Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ym marn ymatebwyr mewn perthynas â rhyw, oedran, math o gymhwyster gradd, y math o therapi a gynigiwyd, hyd profiad, nifer y cleientiaid na’r defnydd o fesurau canlyniadau. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae goruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio mewn lleoliadau cwnsela / seicotherapi yn cytuno y gall ac y dylai goruchwyliaeth wneud gwahaniaeth i gleientiaid ac yn teimlo bod hwn yn nod pwysig ar gyfer goruchwyliaeth. Fodd bynnag, nid yw’r cysylltiad hwn rhwng goruchwyliaeth a chanlyniadau cleientiaid wedi’i sefydlu’n empirig eto (mewn cwnsela/seicotherapi, neu mewn gwaith cymdeithasol). Nid yw’r dystiolaeth orau sydd gennym ar hyn o bryd yn cefnogi’r honiad bod goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl sy’n cael eu cwnsela, neu’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol, er gwaethaf y safbwyntiau a adroddir yma. Mewn dwy o’r astudiaethau ynghylch goruchwyliaeth cwnsela a ddyluniwyd orau, roedd maint yr amrywiant yng nghanlyniadau cleientiaid a eglurwyd gan oruchwyliaeth yn amrywio rhwng 16% a 0.01%. I grynhoi, mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod goruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio yn credu bod goruchwyliaeth yn effeithio ar ganlyniadau cleientiaid, ond nid oes tystiolaeth na chonsensws i egluro sut mae hyn yn digwydd, nac i ba raddau. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Photo of Dr David Wilkins

Dr David Wilkins