Thema’r digwyddiad eleni yw dysgu ac edrych ymlaen ac ar ôl llwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd hi’n ddiwrnod cwbl ddigidol unwaith eto.
Mae sesiynau gwych wedi’u trefnu ar bynciau pwysig gan gynnwys: Ymchwil iechyd a gofal: dysgu o’r pandemig; Ymchwil, arloesi a gwella ac Adfer a dysgu: syniadau newydd i ddarparu gofal iechyd. Bydd gennym sesiynau paralel hefyd ar y canlynol: Mentrau newydd mewn ymchwil; Cynhwysiad, amrywiaeth a chydraddoldeb a Genomeg ac iechyd yn y dyfodol.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddefnyddio’r ffurflen gofrestru ar wefan cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae gennych tan 17:00 ar 4 Hydref i gofrestru.Dilynwch #YmchwilCymru21 ar Twitter i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf.
![Logo o ymchwi inched a gofal Cymru - cynhadledd ymchwil iechyd a gofal Cymru 2021](https://cascadewales.org/wp-content/uploads/sites/3/2021/09/MicrosoftTeams-image-37-1-1024x537.jpg)