Gan Tucker, L. a Webber, M.

British Journal of Social Work 51, 545–563.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Professor Jonathan Scourfield

Pam fod y pwnc o ddiddordeb?

Beth yw rôl benodol gweithwyr cymdeithasol mewn system iechyd meddwl amlddisgyblaethol ond dan arweiniad meddygol? Yn rhyfeddol o bosib, dywed awduron y papur mai ychydig yn unig o ymchwil sydd wedi’i chynnal ar safbwyntiau gweithiwr cymdeithasol eu hunain ar eu rôl – mae mwy o ymchwil wedi’i chynnal ar farn gweithiwr proffesiynol eraill am weithwyr cymdeithasol ac ar rôl y Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Aethon nhw ati i lenwi’r bwlch.

Beth wnaeth yr ymchwilwyr?

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda saith o weithwyr cymdeithasol Gwyn benywaidd Prydeinig o sawl lleoliad mewn un ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr. Roedd y GIG yn cyflogi pedair o’r cyfweleion ac awdurdodau lleol yn cyflogi tair. 

Yr hyn a ganfuwyd?

Roedd y farn am rôl gwaith cymdeithasol iechyd meddwl yn tueddu i gyfeirio at ‘gyd-destun a bwriadau ymarfer’ yn hytrach nag at ‘dasgau a chyfrifoldebau’. Nid oedd y cyfweleion yn ystyried adferiad a chynhwysiant cymdeithasol yn greiddiol i’w hymarfer – yn hytrach roedd y nodau hyn yn gyfrifoldeb pobl eraill, fel gweithwyr cymorth. Ystyriwyd bod gweithio gyda risg a chymhlethdod teuluol yn ganolog i waith iechyd meddwl yn gyffredinol, yn hytrach na gwaith cymdeithasol yn unig. Nid oedd gwaith cymunedol yn cael ei ystyried yn waith cymdeithasol bob dydd, ond yn rhywbeth achlysurol. Hyd yn oed wedyn, ystyriwyd ei fod yn golygu gweithio gyda gwasanaethau statudol a gwirfoddol (eraill), yn hytrach nag unrhyw beth ehangach. 

Roedd gwahaniaeth clir rhwng barn y rheini a gyflogwyd gan yr awdurdod lleol a’r rheini oedd yn gweithio yn y GIG am eu cyfrifoldebau statudol, a doedd gweithwyr y GIG ddim yn ystyried cyfraith gofal cymdeithasol yn rhan o’u swydd.

Roedd y cyfweleion yn gweld eu hunain yn helpu i bontio’r rhaniad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda golwg fwy cyfannol ac ymdeimlad o’r darlun ehangach i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn hytrach na ffocws meddygol mwy cul, gan helpu mewn modd hyblyg mewn ymateb i anghenion ehangach nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol ar unwaith ag iechyd meddwl. 

Pam mae hyn yn bwysig?

Astudiaeth gyda sampl bach,  demograffig benodol mewn un ymddiriedaeth GIG oedd hon. Fodd bynnag, mae’n codi rhai ystyriaethau diddorol. Mae’n awgrymu mai bach iawn o effaith mae polisi cenedlaethol mewn perthynas â rol gwaith cymdeithasol iechyd meddwl wedi’i gael o bosibl. Doedd y cyfweleion ddim wedi clywed, neu prin yn ymwybodol o’r Datganiad Strategol gan y Coleg Gwaith Cymdeithasol. Mae angen mwy o waith ar lefel genedlaethol ym mhob un o genhedloedd y DU i ddiffinio rôl unigryw gweithwyr cymdeithasol iechyd meddwl o fewn system iechyd meddwl amlddisgyblaethol.


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Llun o Jonathan Scourfield

Professor Jonathan Scourfield