Gan: Kristen Lwin, Joanne Filippelli, Barbara Fallon, Jason King and Nico Trocmé

Child Maltreatment

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar ddylanwad nodweddion gweithwyr achosion ar ddyfarniadau ynghylch tebygolrwydd cam-drin plant.  Er enghraifft, a yw gweithwyr profiadol yn fwy neu’n llai tebygol o ragweld cam-drin plant yn y dyfodol, o gymharu â gweithwyr dibrofiad.  

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Mae’r papur yn defnyddio data a gasglwyd o Ganada, sy’n cynnwys 1,729 o ymchwiliadau amddiffyn plant a 419 o weithwyr lles plant. Defnyddiwyd amrywiol offer ystadegol i ddarganfod pa nodweddion o eiddo gweithwyr achosion allai gael eu defnyddio i ragweld canlyniad yr ymchwiliadau.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Ni farnwyd bod tri chwarter y plant (n=1,363) mewn perygl sylweddol o gael eu cam-drin yn y dyfodol. Roedd dyfarniad bod plant iau (rhwng 0 a 5) mewn perygl sylweddol yn fwy tebygol o gymharu â phlant hŷn (5+). Roedd hyn hefyd yn wir pan oedd gofalwr y plentyn yn byw mewn tlodi, pan oedd ffactorau risg lluosog ganddyn nhw (e.e., camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl), llai o gymorth cymdeithasol, ac wedi ymwneud yn flaenorol â lles plant. Nid oedd ethnigrwydd y gofalwr yn gysylltiedig â chanlyniad yr ymchwiliad. Mewn perthynas â gweithwyr, roedd y rhai â gradd Meistr bron ddwywaith mor debygol o farnu bod y plentyn mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol o gymharu â gweithwyr â gradd Baglor. Roedd gweithwyr â mwy na dwy flynedd o brofiad, a’r rhai â llwythi achosion mwy (18+) hefyd yn fwy tebygol o ragweld niwed sylweddol yn y dyfodol. Nid oedd ethnigrwydd y gweithiwr yn rhagweld canfyddiadau o gam-drin yn y dyfodol. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae’r papur yn damcaniaethu y gallai fod gan weithwyr sydd â gradd Meistr wybodaeth ychwanegol am gam-drin plant, sy’n cynyddu eu canfyddiadau o risg. Gall gweithwyr sydd â mwy o brofiad hefyd sylwi ar fwy o ffactorau risg, ac felly farnu bod y risg o gam-drin plant yn y dyfodol yn uwch.  Mae’r rheswm pam roedd gweithwyr â llwythi achosion uwch yn fwy tebygol o ragweld camdriniaeth yn y dyfodol yn llai clir. Mae’r awduron yn awgrymu y gallai gweithwyr o’r fath fod yn fwy trefnus yn eu gwaith, ac felly’n arafach i gau neu drosglwyddo achosion i fannau eraill. Oherwydd eu bod yn fwy trefnus, efallai y byddant yn sylwi ar fwy o ffactorau risg ac felly’n fwy tebygol o ragweld camdriniaeth yn y dyfodol. Neu efallai bod gweithwyr y credir eu bod yn fwy galluog yn cael gwaith mwy cymhleth, sy’n cynnwys plant sy’n wynebu mwy o berygl.

Yn gyffredinol, daw’r papur i’r casgliad mai gwybodaeth gyfyngedig sydd gennym ni am nodweddion y gweithiwr sy’n dylanwadu ar ganfyddiadau o gam-drin plant yn y dyfodol, a bod angen mwy o ymchwil. Yr hyn sy’n glir, o hyn ac astudiaethau eraill, yw y bydd teuluoedd yn cael ymateb asesu ac ymyrryd gwahanol, yn dibynnu ar ba weithiwr sy’n cael ei ddyrannu i’w hachos. Gall hyn, o fewn terfynau, fod yn gyfyngiad anochel, neu dderbyniol hyd yn oed, wrth ddarparu gwasanaethau – ond bydd gormod o amrywiad yn golygu bod rhai plant a theuluoedd yn cael eu trin mor wahanol fel bod hynny’n gyfystyr ag anghyfiawnder. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins