Mae Cascade yn falch iawn o gyhoeddi bod ein podlediad ‘Cascade Talks’ bellach ar gael i’r cyhoedd ar wasanaethau ffrydio.

Mae CASCADE Talks ar gael ar Apple PodcastsSpotify ac Amazon Music.

Mae ein podlediadau yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau gydag ymarferwyr y diwydiant sy’n siarad am eu taith at waith cymdeithasol, y materion y maent yn eu hwynebu a sector sy’n newid yn barhaus. Mae ein hymchwilwyr yn siarad am y prosiectau a’r ymchwil y maent yn gweithio arnynt.

Ar hyn o bryd mae gennym 9 pennod ar gael gyda gwesteion o Gyngor Swydd Hertford, Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot, yr Athro Brigid Featherstone, Chris Williamson a mwy.

Os hoffech ein cefnogi yna tanysgrifiwch a dilynwch ein podlediad.