Addewid i Ofalu
Mae nifer o fusnesau a sefydliadau lleol wedi cefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal dros y tair blynedd diwethaf drwy raglen Addewid i Ofalu Leicestershire Cares. Mae’r busnesau a’r sefydliadau hyn wedi cynnig y gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl ifanc â phrofiad o ofal er mwyn iddyn nhw allu gwneud cynnydd mewn addysg, cyflogaeth a’u bywydau yn ehangach.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio ar y cyd â phobl ifanc â phrofiad o ofal a’r gymuned fusnes leol ac mae ar gyfer busnesau, awdurdodau lleol a sefydliadau cymorth. Mae’n cynnig syniadau a chipolwg ar yr hyn mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn ei wynebu wrth chwilio am waith a sut i’w cefnogi cyn ac yn ystod y broses recriwtio, a phan fyddan nhw mewn cyflogaeth.
“Rwy’n credu ei bod yn gyfrifoldeb ar fusnesau mewn partneriaeth â sefydliadau cymorth i ddatrys y problemau a’r rhwystrau mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i gyflogaeth ac aros yno. Nid yw’r cyfrifoldeb ar y sawl sy’n gadael gofal, sydd eisoes â llawer i’w ddeall a gweithio drwyddo wrth ymgeisio am swydd newydd. Fodd bynnag, rhaid i’r person ifanc â phrofiad o ofal gymryd cyfrifoldeb am integreiddio i fyd gwaith a bod yn barod i gydweithio gyda busnesau er mwyn gwneud i’r berthynas weithio. Gellir gwneud hyn drwy gyfathrebu clir, dealltwriaeth a hyfforddiant.”
Emily Quinton, Rheolwr Digwyddiadau a Chyfathrebu Ewropeaidd, Thermo Fisher Scientific
Pam y gallai fod angen cymorth ar bobl ifanc â phrofiad o ofal i fynd i fyd gwaith?
Yn aml, does gan pobl ifanc â phrofiad o ofal ddim o’r rhwydweithiau cymdeithasol a theuluol a all agor drysau i’r gweithle. Yn ogystal, er bod gan y rhai sy’n gadael gofal hawl i gael cymorth statudol hyd at 25 oed, mae gan eu gweithwyr cymorth lwyth gwaith cynyddol sy’n golygu bod rhaid brysbennu eu hachosion a chanolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen mwyaf.
Mae angen cefnogi’r bobl ifanc hyn i lwyddo ac i gyflawni eu potensial. Gall busnesau sy’n cynnig cyflogaeth ystyrlon ac incwm sefydlog alluogi pobl ifanc â phrofiad o ofal i oresgyn llawer o’r heriau eraill maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau ehangach.
Mae swyddi’n gwella bywydau
Gall cynorthwyo person ifanc â phrofiad o ofal i gael cyflogaeth gynyddu eu hannibyniaeth, ymdeimlad o gyfrifoldeb, rheoli arian a chysylltiad â chymdeithas. Gall hybu eu hunan-barch a’u hyder a newid eu bywyd yn llwyr. Bydd llawer o bobl ifanc â phrofiad o ofal yn byw ar eu pen eu hunain mewn tlodi sy’n ddangosydd allweddol ar gyfer bod yn agored i’r system cyfiawnder troseddol, bod yn ddioddefwr trosedd, byw bywyd byrrach, neu gael cyfleoedd bywyd cyfyngedig o’u cymharu â’u cyfoedion. Gall swydd wella eu rhwydweithiau cymdeithasol a phroffesiynol sydd yn eu tro’n gallu agor drysau i gyfleoedd newydd a all gyfoethogi eu bywydau a rhoi’n ôl i gymdeithas.
Beth allai busnesau ei wneud i gefnogi’r rhai sy’n gadael gofal?
- Cynnig teithiau gwaith i ddangos sut mae byd gwaith yn edrych.
- Helpu i adolygu CV.
- Helpu i lenwi ffurflen gais am swydd.
- Creu cyfle i wirfoddoli yn eich gweithle.
- Dod yn Fentor ac arwain person ifanc â phrofiad o ofal drwy’r daith gyflogaeth. Rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Fentora i Bobl â phrofiad o Ofal
- Newid eich proses ymgeisio – er enghraifft, gwneud ceisiadau symudol yn fwy hylaw, a chynnig prosesau ymgeisio amgen.
- Cynnig prentisiaethau a hyfforddiant.
- Cynnig ffug gyfweliadau.
- Cynnig profiadau gwaith neu gyfleoedd cysgodi.
- Darparu mannau diogel i weithwyr sydd â phrofiad o ofal ar gyfer adegau pan allen nhw deimlo wedi’u llethu, yn enwedig wrth ddechrau mewn swydd newydd.
- Darparu Mentor neu gyfaill yn y gweithle ar gyfer cyswllt rheolaidd ac uniongyrchol.
- Cynnig gostyngiadau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
- Gwarantu cyfweliad i unrhyw berson ifanc â phrofiad o ofal sy’n ymgeisio ac sy’n bodloni’r gofynion sylfaenol.
- Hysbysu sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal pan fydd cyfle am swydd yn codi.
“Cyn i fi ddechrau ar y Rhaglen Fentora i Bobl â Phrofiad o Ofal prin iawn oedd y cysylltiad oedd gen i â phobl ifanc yn y system gofal. Mae wedi bod yn hynod o werthfawr cael dysgu gyda, a gan, rhywun sydd â stori bywyd, gwybodaeth a phrofiad gwahanol. Mae wedi fy herio i addasu’r sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu rwy’n eu defnyddio yn fy ngwaith, ac rwyf i yn fy nhro yn wedi mynd â’r hyn rwyf i wedi’i ddysgu drwy fentora yn ôl i’r gweithle. Mae cymryd rhan wedi rhoi persbectif i fi ac wedi cynyddu fy hyder yn fy sgiliau arwain a chyfathrebu.”
Sarah Adamson, Pennaeth Categori, Revolution Kitchen
Beth mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn awyddus i fusnesau ei wybod amdanyn nhw?
- Dydyn ni ddim yn cael y cyfle i ddysgu rhai o’r sgiliau bywyd mae pobl sy’n cael eu magu mewn teulu sefydlog yn eu cymryd yn ganiataol, ond yn aml mae gennym ni sgiliau a phrofiadau sy’n golygu ein bod yn fwy annibynnol ac aeddfed na phobl eraill yr un oed â ni.
- Mae llawer ohonom ni’n dioddef o orbryder a gall hyn ddod i’r wyneb wrth feddwl am gyfweliadau. Ydy hi’n bosib i recriwtio fod yn wahanol?
- Does gennym ni ddim sicrwydd mam neu dad y tu ôl i ni, sy’n golygu y gall fod yn anodd i ni fentro i ddatblygu ein gyrfa. Gallwch chi helpu i’n hannog ni i gymryd y camau nesaf.
- Mae perthnasoedd yn bwysig i ni ond gall gymryd amser i ni feithrin ymddiriedaeth.
- Rydym ni wedi byw drwy lawer o newid yn ein bywydau. Mae’r ffaith fod pethau’n newid yn dod yn norm i ni. Gall sefydlogrwydd fod yn frawychus ac yn newydd i ni. Mae’n rhywbeth sy’n gallu cymryd peth amser i’w ddysgu.
- Roedd llawer ohonom ni’n symud rhwng cartrefi ac ysgolion felly does dim trefn ar ein haddysg. Peidiwch â’n diystyru am nad ydyn ni wedi cael y graddau iawn.
- Rydym ni’n wydn.
- Byddwn yn gwneud eich gweithlu’n amrywiol.
Gwrandewch ar leisiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Bydd y podlediad hwn yn cynnig cipolwg ar y problemau sy’n wynebu pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n chwilio am waith. Bydd yn cynnig syniadau ar sut i’w cefnogi cyn ac yn ystod y broses recriwtio, a phan fyddan nhw mewn gwaith.
Beth sydd angen i Weithwyr Cymorth Gadael Gofal ei wybod?
Mae bach a lleol yn dda
Edrychwch ar gwmnïau llai yn yr ardaloedd sydd o ddiddordeb i’r person ifanc a cheisiwch greu cyfleoedd i siarad a chysylltu â nhw yn hytrach na dibynnu ar geisiadau ar-lein. Unwaith y bydd y berthynas hon wedi’i sefydlu, gwnewch yn siŵr fod CV a llythyr eglurhaol y person ifanc yn adlewyrchu rôl y swydd a’u hawydd i weithio yn y maes neu ar gyfer y cwmni hwn.
Cwmnïau mawr a’u Cyfrifoldeb Corfforaethol Cymdeithasol (CCC): cysylltu â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a’r defnyddiwr moesegol
Ewch at gyflogwyr mwy i drafod eu targedau CCC a sut y gallent ddenu unigolion amrywiol wrth wella agwedd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae cyflogi a chefnogi person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig fel gweithred cynaliadwyedd.
- Byddwch yn onest am yr heriau mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn gallu eu hwynebu ond hefyd pwysleisiwch pa mor wydn mae hyn yn eu gwneud nhw
- Esboniwch sut y gallai partneru eu helpu i gyflawni eu canlyniadau cyfrifoldeb cymunedol a chymdeithasol
- Trafodwch yr ardoll brentisiaeth a’r fwrsariaeth brentisiaeth ychwanegol o £1000 i gyflogwr wrth recriwtio person sy’n gadael gofal i brentisiaeth
- Efallai fod gan bobl ifanc â phrofiad o ofal ddiffyg profiad neu addysg; dylid gwneud yn iawn am hyn drwy gynnig shifftiau treialu i’r cyflogwr lle gall y bobl ifanc â phrofiad o ofal arddangos sgiliau eraill fel gwydnwch.
- Dathlwch straeon newyddion da a llwyddiannau – mae rhannu astudiaethau achos gyda chyflogwyr yn berffaith ar gyfer hyn.
- Addewid lleol i gwmnïau lleol ei lofnodi i ddweud y byddan nhw’n cefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae busnesau sy’n ymuno â rhaglen Addewid i Ofalu yn cael bathodyn digidol ar gyfer eu gwefan, ac rydym ni’n cynnig hyfforddiant, cymorth a mwy.
Pa gymorth allech chi ei gynnig i gyflogwr?
- Hyrwyddwch eich bod yn gallu sicrhau y bydd yr unigolyn/unigolion yn barod ar gyfer cyflogaeth ar ôl cwblhau ffug gyfweliadau, sesiwn ddisgwyliadau cyflogwr (y dylid ei theilwra i’r cwmni hwnnw), y bydd wedi cael ei ID, cyfrif banc, defnydd o ddillad addas, cymorth gyda theithio a lle bo angen hyfforddiant yn y sector.
- Gallech gynnig cymorth gyda rhag-sgrinio, hyfforddiant ar beth yw person ifanc â phrofiad o ofal a pha gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen.
- Cynigiwch bwynt cyswllt ar gyfer cymorth drwy gydol 6-12 mis cyntaf lleoliad gwaith y person ifanc.
- Cynigiwch gynnal digwyddiadau rhwydweithio a diwrnodau hyfforddi i fusnesau.
- Cefnogwch y busnes gyda chyfathrebiadau a chysylltiadau cyhoeddus ynghylch cyflogi person ifanc â phrofiad o ofal. Rhowch nhw yn eich cylchlythyr, ar eich gwefan, darparwch ddyfyniadau gan eich sefydliad a’r bobl ifanc, rhannwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pa gymorth sydd ei angen ar y person ifanc â phrofiad o ofal?
- Darparu cyngor wedi’i deilwra i lwyddo drwy broses ymgeisio.
- Eu helpu i oresgyn heriau ymgeisio ar-lein. Gallai hyn olygu gofyn i’r cyflogwr hepgor prosesau oherwydd Covid-19 neu rwystrau digidol pobl ifanc.
- Cynnig cymorth i baratoi at waith: disgwyliadau cyflogwyr fel sut i’w cyflwyno eu hunain, beth i’w wneud os bydd problemau’n codi, ac yn y blaen.
- Y cam cyfweld: ffug gyfweliadau; deall diwylliant a threfniant y cwmni.
- Rhianta corfforaethol: anfon negeseuon testun pob lwc a galwad ffôn “amser codi” ar fore cyfweliadau neu ddechrau gweithio.
- Dechrau gwaith: cytuno ar gynllun parhaus o gymorth yn y gwaith i sicrhau y gall y person ifanc drafod unrhyw bryderon neu broblemau yn y gwaith.
- Agor llygaid pobl ifanc i amrywiaeth o yrfaoedd, diwydiannau a chyfleoedd i gychwyn eu busnes eu hun. Rydym ni’n cynnal teithiau gwaith a sesiynau Siaradwyr Cyflym lle mae busnesau/gwirfoddolwyr yn cyflwyno eu diwydiant/gyrfa mewn cyflwyniad 10 munud.
- Dod o hyd i fentor busnes i bobl ifanc, rhywun sydd â phrofiad ‘gwaith’ a all eu cefnogi a bod yn bâr ychwanegol o glustiau a ffynhonnell cyngor.
- Cynnig rhywbeth adeiladol iddyn nhw ei wneud pan nad ydynt mewn gwaith, rhywbeth sy’n gallu cadw ffocws a chraffter pobl ifanc brwdfrydig ac ymgysylltiol. Rydym yn cynnig llawer o waith eirioli a chyfranogi i’n pobl ifanc.
Mae profiadau pobl ifanc â phrofiad o ofal yn amrywio yn dibynnu ar y rhesymau pam yr aethon nhw i ofal, yr oedran yr aethon nhw i ofal, eu rhywedd, rhywioldeb, eu cyswllt neu beidio â’u teulu, eu statws ceisio lloches, os oes ganddyn nhw anabledd a’r math o ofal maen nhw ynddo/ yr oedden nhw ynddo. Bydd y ffactorau hyn i gyd yn effeithio ar berson ifanc a’r math o gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hyn yn golygu nad oes atebion “un maint i bawb” ac mae’n rhaid i ni deilwra cymorth i sefyllfa a nodau pob person ifanc.
Dyw’r holl atebion ddim i’w canfod yn y pecyn cymorth hwn wrth geisio chwalu rhwystrau at gyflogaeth i bobl ifanc â phrofiad o ofal. Fodd bynnag, gobeithio y bydd yn eich arwain at sgyrsiau gyda phobl ifanc a fydd yn cynyddu dealltwriaeth o anghenion a dyheadau’r ddwy ochr, gan arwain at daith lwyddiannus a boddhaus i’r cyflogwr a’r gweithiwr.
Darllenwch y post gwreiddiol yn Leicestershire cares.