Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
24 & 28 Ionawr 2022
09:30 – 16:00
Cwrs deudydd
Arddull gyfathrebu dywys gywrain sy’n deillio o faes cwnsela yw Cyfweld Cymhellol (MI). Y nod yw tywys cleientiaid wrth iddynt newid llawer o fathau o ymddygiad afiach, gan gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol, ymddygiad iechyd fel smygu, bwyta, ymddygiad rhywiol, ymlyniad wrth feddyginiaeth ac ymddygiad troseddol. Mae strategaethau Cyfweld Cymhellol yn osgoi dulliau gwrthdrawiadol, gan mai’r nod yw sicrhau mai’r cleient sy’n cyflwyno’r dadleuon dros newid.
Elfen ganolog o dechnegau Cyfweld Cymhellol yw nifer o sgiliau cwnsela person-ganolog, gan gynnwys cwestiynau penagored, gwrando adfyfyriol, cadarnhad a chrynhoi. Fodd bynnag, er nad yw cwnsela person-ganolog yn gyfeiriedig at ei gilydd, yn achos Cyfweld Cymhellol defnyddir y sgiliau hyn yn gyfeiriadol, gyda’r nod o annog cleientiaid i archwilio’u deuoliaeth teimladau ac ystyried newid. Defnyddir y sgiliau hyn yn ddetholus i atgyfnerthu sôn am newid ac annog cleientiaid i fynegi manteision newid ar lafar ac yna cynllunio ar ei gyfer.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.