Gan: Liz Beddoe, Harry Ferguson, Lisa Warwick, Tom Disney, Jadwiga Leigh and Tarsem Singh Cooper

European Journal of Social Work

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan: Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r papur hwn yn disgrifio rhan o astudiaeth ethnograffig llawer mwy o ddau dîm amddiffyn plant yn Lloegr. Mae’n ceisio disgrifio sut mae goruchwyliaeth yn edrych, yn swnio, ac yn teimlo. Mae’n gofyn i ba raddau yr oedd yr oruchwyliaeth yn y ddau dîm hyn yn emosiynol ac yn fyfyriol, a beth mae goruchwylwyr a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio yn ei feddwl amdano. 

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Yn gyffredinol, treuliodd yr ymchwilwyr 15 mis yn arsylwi ar y ddau dîm gwaith cymdeithasol. Roeddent yn recordio hanner cant a phedwar o gyfarfodydd goruchwylio rhwng rheolwyr a gweithwyr, tra bod ymchwilwyr hefyd yn gwneud nodiadau maes helaeth o’r hyn roeddent wedi’u gweld, eu clywed a’u teimlo. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Yn un o’r timau, a oedd yn defnyddio desgiau poeth, roedd goruchwyliaeth yn“farathon blinderus“,gan gymryd wyth neu naw awr y mis ar gyfer pob gweithiwr. Er gwaethaf eu hyd, yn aml nid oedd amser i’r goruchwyliwr ofyn am les y gweithiwr. Yn hytrach, roeddent yn siarad yn llafurus trwy bob un achos, a oedd ar gyfer un gweithiwr yn golygu“pob un o’r 28 achos, 40munud yr achos weithiau, 30 munud lle rydych yn eistedd yno’n ail-lunio popeth yr ydych eisoes yn ei wybod ac yn aros i’ch rheolwr ei deipio”. Cynhaliwyd y sesiynau hyn mewn ystafelloedd bach, di-aer, heb ffenestri a chyda goleuadau llachar, artiffisial. Rhoddodd goruchwylwyr fwy o sylw i’w cyfrifiaduron nag i’r gweithiwr. Disgrifiwyd y sesiynau’n amrywiol fel rhai sy’n drech yn emosiynol, yn ddiflas, yn hirfaith, yn weithdrefnol ac yn rheolwrol. 

Pan ofynnwyd iddynt am oruchwyliaeth fyfyriol, dywedodd gweithwyr fel arfer nad oeddent yn ei chael. Dywedodd un, “Fe’i cefais unwaith!“, gydag un arall yn dweud, ” Dwi ddim yn gwybod afyddwn yn eiadnabod”. 

Yn y tîm arall, a oedd â chynllun swyddfa mwy traddodiadol, roedd trafodaethau goruchwylio yn cael eu cynnal yn ffurfiol, o fewn cyfarfodydd penodol, ond hefyd yn fwy anffurfiol, wrth i weithwyr a rheolwyr siarad dros eu desgiau. Roedd cymhelliant o hyd i gydymffurfio, yn ogystal â diwylliant o gynnal archwiliadau, ond o leiaf i un gweithiwr roedd yn rhyddhad[i gael goruchwyliaeth], i fynd drwyddo [er] nadwyf o reidrwydd yn edrych ymlaen ato”. Yn y tîm hwn, roedd goruchwyliaeth yn rhan o sgwrs barhaus, gan ddechrau “yn anffurfiol yn swyddfa’r tîm bach a [llifo] i gyfarfodydd goruchwylio ffurfiol“. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae’r papur hwn yn ailadrodd ac yn atgyfnerthu canfyddiadau astudiaethau blaenorol o oruchwyliaeth yn y cyd-destun hwn – gan ei ddisgrifio fel arfer sy’n cael ei lywio gan gydymffurfiaeth, ac sy’n llawer rhy weithdrefnol. Mae’n dangos yn glir bwysigrwydd lle a lleoliad i alluogi sgyrsiau mwy myfyriol. Ac mae’n dangos sut mae rhai mathau o oruchwyliaeth yn wrthgynhyrchiol, neu hyd yn oed yn niweidiol, gan ychwanegu at flinder a straen y gweithiwr. Yn union fel y gall ymyriadau gwaith cymdeithasol gyda theuluoedd amrywio o ganlyniadau cadarnhaol i rai negyddol, mae’r un peth yn wir am oruchwyliaeth, gan ddibynnu ar sut, pam a ble mae’n digwydd. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Llun o Dr David Wilkins sydd wedi ysgrifennu'r adolygiad.

Dr David Wilkins