" alt="thumbnail" />
Dysgu yn dilyn Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR)
Mae Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR) yn cynnig cyfle hollbwysig i ddysgu gan achosion pan fydd oedolion mewn perygl wedi cael niwed sylweddol neu wedi marw, gan ganfod cryfderau a gwendidau systemig mewn arferion diogelu. Dadansoddodd yr adolygiad thematig hwn yn 2025, a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, 25 o adolygiadau o ymarfer oedolion sy’n cwmpasu digwyddiadau rhwng 2016 a 2022, gyda'r nod o gyfrannu at broses newydd o'r Adolygiad Unedig Sengl o Ddiogelu (SUSR) a gyflwynwyd ym mis Hydref 2024. Nododd yr adolygiad thematig heriau sy’n codi yn rheolaidd ledled Cymru, gan gynnwys cydlynu amlasiantaethol tameidiog, y defnydd cyfyngedig o eiriolaeth, ystyriaeth anghyson o allu meddyliol a dogfennu amrywiol o brofiadau bywyd a dymuniadau oedolion. Roedd enghreifftiau o arfer da yn amlwg, megis y defnydd cyson o wasanaethau eiriolaeth, dogfennau “Dyma Fi” sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a mecanweithiau cydweithio rhyngasiantaethol lleol arloesol. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu canfyddiadau o’r adolygiad thematig, yn ystyried y goblygiadau ar gyfer byd polisi ac ymarfer yng Nghymru ac yn amlinellu sut mae'n rhaid i ddysgu yn dilyn adolygiadau o ymarfer oedolion lunio rhoi proses SUSR ar waith. Dyma alwad i weithredu er mwyn ymgorffori dulliau systemig o ddiogelu oedolion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n atebol.
Ar-lein, Teams
13:00
- 25/02/2026
" alt="thumbnail" />
Neidio dros glwydi a dangos eich lliwiau: llywio gweithio rhyngasiantaethol i gefnogi pobl sy'n hunanesgeuluso
Mae hunan-esgeulustod yn dod â heriau penodol, sy’n gallu peri risg uchel i hunanofal, iechyd a lles unigolion. Yn aml, mae’n gofyn am gydweithio sylweddol, sy’n gallu cynnwys rhai, neu bob un o’r gwasanaethau canlynol: Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Tân ac Achub, Tai, Diogelu'r Amgylchedd, yr Heddlu a sefydliadau'r sector gwirfoddol, ymhlith eraill. Mae nifer uchel yr Adolygiadau Diogelu Oedolion yn dangos bod ymarferwyr yn wynebu heriau logistaidd, rhyngbroffesiynol a chyfreithiol wrth fynd i’r afael â hyn. Mae'r weminar hon yn tynnu ar ganfyddiadau astudiaeth ar sail cyfweliadau gyda 69 o ymarferwyr / rheolwyr, 16 o bobl â phrofiad byw o hunan-esgeulustod, a 2 ofalwr teuluol. Dangosodd eu profiadau bod potensial i weithio’n rhyngasiantaethol i greu newid cadarnhaol, ond hefyd bod deinameg gymhleth sy’n rhwystro hynny rhag digwydd. Lle'r oedd dealltwriaeth gydfuddiannol dda, mannau rhyngbroffesiynol ar y cyd, a gweithdrefnau ymarferol ar waith, roedd gweithio ar y cyd yn cryfhau cefnogaeth i’r sawl sy’n hunan-esgeuluso; ar adegau eraill, roedd gorfod trafod cydweithio yn cael ei gymharu â 'neidio rhwystrau' neu roi eich 'pen uwchben y parapet'. Mae cadw ffocws pob gwasanaeth ar y person sy'n profi hunan-esgeulustod yn dod yn anoddach i ymarferwyr pan fydd prosesau a rhwystrau rhyngasiantaethol yn tynnu eu sylw. Bydd y drafodaeth hon yn ymdrin â'r angen am ddiddordeb proffesiynol mewn diogelu a hunan-esgeulustod – a'r dulliau sy'n dangos addewid i gynorthwyo yn y gwaith – i gael ei ategu gan 'ddiddordeb rhyngbroffesiynol'.
Ar-lein, Teams
12:00
- 23/02/2026
" alt="thumbnail" />
Diogelu Pobl sy'n Byw gyda Dementia
Mae ymchwil wedi dangos bod dementia yn gwneud oedolion yn fwy agored i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae Deddf Gofal 2014 yn rhoi dyletswyddau i awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn Lloegr i ddiogelu oedolion rhag cam-drin o'r fath, gyda phartneriaeth yn egwyddor allweddol yn hyn o beth. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am farn ac arferion gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol ar weithio mewn partneriaeth yn y maes hwn. Nod ein prosiect oedd deall sut roedd gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, gofal iechyd a'r sector gwirfoddol yn deall cam-drin ac esgeulustod yn achos pobl sy'n byw gyda dementia, eu dealltwriaeth o’r gyfraith a pholisïau diogelu, a'u safbwyntiau ar weithio mewn partneriaeth. Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn adrodd ar dair set o ganfyddiadau. Yn gyntaf, rydym yn adrodd ar ganfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth realistig a oedd yn tynnu ar 44 o astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2014-2024. Yn ail, rydym yn cyflwyno canfyddiadau o dair set ddata yn Lloegr i archwilio dosbarthiad pryderon ac ymholiadau diogelu ymhlith oedolion hŷn â dementia yn Lloegr, ac i ystyried amrywiadau yn ôl rhyw, oedran a rhanbarth. Yn drydydd, rydym yn adrodd ar gyfweliadau lled-strwythuredig gyda deunaw o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr diogelu, meddygon teulu, eiriolwyr a gweithwyr cymorth. Byddwn yn egluro beth sy'n wreiddiol o'n canfyddiadau yn ogystal â chyfleu negeseuon ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol.
Ar-lein, Teams
13:00
- 10/02/2026
" alt="thumbnail" />
Cam-drin Gwahaniaethol: Defnyddio straeon a naratifau i ymchwilio i ymatebion proffesiynol
Bydd y cyflwyniad hwn yn amlinellu’r ymchwil gyfredol ar gam-drin gwahaniaethol, gan ddangos themâu sy’n cyfeirio at adolygiadau o ddiogelu oedolion. Bydd prosiect ymchwil newydd yn cael ei amlinellu sy’n defnyddio dulliau cwblhau straeon i ymchwilio i ymatebion ymarferwyr i gam-drin gwahaniaethol.
Ar-lein, Teams
12:00
- 04/02/2026
" alt="thumbnail" />
Profiadau a deilliannau plant awtistig mewn gofal maeth a gofal gan berthynas yng Nghymru
Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau prosiect tair blynedd sy'n edrych ar anghenion a deilliannau plant awtistig mewn gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon mewn tair rhan, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Roedd rhan un yn cynnwys dadansoddiad o ddata cysylltiedig gan ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL i ddeall mwy am niferoedd y plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy'n derbyn diagnosis o awtistiaeth, eu hoedran pan gânt ddiagnosis a'u deilliannau addysgol a'u diagnosis iechyd meddwl pan fyddan nhw’n dod yn oedolion. Roedd rhan dau yn cynnwys arolwg a ddosbarthwyd i ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthynas yng Nghymru, i gasglu gwybodaeth am ddiagnosis plant mewn gofal, yn ogystal â lefelau nodweddion awtistig, nodweddion anhwylder ymlyniad a chryfderau ac anawsterau eraill. Roedd y rhan olaf yn cynnwys cyfweliadau ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol a gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthynas mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn deall mwy am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r heriau presennol, yn benodol ynghylch diagnosis ac anghenion cymorth plant awtistig. Cyflwynir canfyddiadau o bob rhan, ochr yn ochr â gwybodaeth am y camau nesaf a'r gwaith sydd i'w wneud yn y dyfodol.
Ar-lein, Teams
12:00
- 14/01/2026
" alt="thumbnail" />
Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni
Mae rhieni sydd â phrofiad o’r system lles plant yn gweithio fel eiriolwyr i helpu rhieni eraill mewn perthynas â lles plant. Mae rhieni yn ymgyrchwyr hefyd i newid polisïau, rhaglenni a systemau lles plant. Mae'r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar sut i greu a rheoli rhaglen eiriolaeth rhieni sy'n cynorthwyo rhieni, yn helpu teuluoedd ac yn gwella systemau lles plant. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cynnal o fewn asiantaethau llywodraethol ac fel sefydliadau annibynnol. Mae'r cyflwyniad yn seiliedig ar y Canllaw Ymarfer: Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni. Mae wedi’i baratoi i helpu rhieni a'u cynghreiriaid sydd wedi creu Rhaglen Eiriolaeth Rhieni, neu sydd yn y broses o wneud hynny. Datblygwyd y Canllaw dan nawdd Canolfan CASCADE Prifysgol Caerdydd. David Tobis a Clive Diaz sydd wedi’i ysgrifennu, a chafwyd mewnbwn gan ddau grŵp cynghori rhieni. Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys: Beth yw Eiriolaeth Rhieni a Pham mae'n Bwysig; Rôl Arweinyddiaeth Rhieni; Paratoi Asiantaeth; Yr Hyn y mae Rhieni Am i Eiriolwyr Cymheiriaid ei Wybod a'i Wneud; Y Gefnogaeth a'r Hyfforddiant sydd eu Hangen ar Eiriolwyr Rhieni; Hyfforddi Staff y bydd Angen Iddynt Weithio gydag Eiriolwyr Rhieni; a Datblygu Strategaeth i Hyrwyddo Eiriolaeth Rhieni. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys llawer o adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein. Bydd pawb sy'n mynd i’r cyflwyniad yn cael copi o'r Canllaw Ymarfer yn rhad ac am ddim.
Online, Teams
17:00
- 12/11/2025
" alt="thumbnail" />
Llithro drwy'r rhwyd - atal ac amddiffyn
Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc anabl niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu yn bryder o ystyried y cyfraddau uwch o gam-drin a chamfanteisio a brofir gan blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried anghenion y plant hyn a'u rhieni. Yn seiliedig ar astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2024 â'r nod o edrych ar fylchau polisi, archwilio ymatebion ymarfer, ymgynghori ag ymarferwyr a rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, bydd y cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer. Bydd yn trin a thrafod bylchau mewn ymarfer a'r hyn y gall ymarferwyr ei wneud i ymateb mewn ffyrdd sy'n ceisio adnabod yn gynharach a cheisio ymatebion wedi'u teilwra'n fwy priodol. Ariannwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol a cafodd ei chynnal gan Brifysgol Metropolitan Manceinion a Phrifysgol Portsmouth mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Portsmouth. Canfyddiadau’r adroddiad.
Ar-lein, Teams
12:00
- 04/11/2025
" alt="thumbnail" />
"Dydyn nhw ddim yn ystyried bod pobl ifanc yn dioddef camfanteisio": Ymatebion amlasiantaethol i gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru
Er gwaethaf polisïau a dulliau amddiffyn plant cadarn y DU o ran caethwasiaeth fodern, nid oes deddfwriaeth na chanllawiau statudol penodol i fynd i'r afael â chamfanteisio troseddol ar blant. Yn hytrach, mae’n cael ei ystyried o dan ddarpariaethau presennol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Ac eto, anaml y mae gweithwyr rheng flaen yn amau bod plant Prydeinig yn dioddef o gaethwasiaeth fodern. Y gred gyffredinol yw y bydd deddfwriaeth a diffiniad statudol newydd yn mynd i'r afael â'r diffyg cydlyniad mewn ymatebion gwasanaeth lle mae “partneriaid diogelu’n gweithio i wahanol ddealltwriaethau o'r hyn sy'n gyfystyr â chamfanteisio troseddol” (Cymdeithas y Plant, 2021:1) a lle mae awdurdodau lleol wedi 'ildio' i'r heddlu (Jay Review, 2024:77). Mae hyn yn arbennig o broblematig yng Nghymru lle mae plismona a chyfiawnder o dan awdurdodaeth Senedd y DU tra bod gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Gan dynnu ar ganfyddiadau o astudiaeth a ariannwyd gan Gweithredu dros Blant a archwiliodd safbwyntiau proffesiynol ynghylch dulliau amlasiantaethol yng Nghymru, bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau grwpiau ffocws o ddau awdurdod lleol a chanlyniadau arolwg ledled Cymru ynghylch yr hyn sy'n gweithio a'r hyn y mae angen ei wella i ddatblygu dull diogelu amlasiantaethol i blant sy’n dioddef o gamfanteisio troseddol.
Ar-lein, Teams
13:00
- 01/10/2025
" alt="thumbnail" />
Cryfhau'r system er budd plant sydd wedi dioddef camfanteisio troseddol – o ymwybyddiaeth i weithredu
Ar draws y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, ceir ymwybyddiaeth gynyddol o gamfanteisio’n droseddol ar blant, ond mae ymarferwyr yn dal i fod wedi drysu ynglŷn â'r hyn sydd wir yn gweithio i'w cefnogi. Bydd y weminar hon yn archwilio tirwedd esblygol polisi, deddfwriaeth ac ymarfer, gan dynnu sylw at y cynnydd a wnaed a'r bylchau systemig sy'n dal i adael plant yn agored i niwed. Trwy gydol y weminar, byddwn yn archwilio cymhlethdod camfanteisio, deuoliaeth plant fel dioddefwyr a throseddwyr, a’r cyfyng-gyngor moesegol y mae hyn yn ei gyflwyno ar gyfer systemau diogelu a chyfiawnder, gan dynnu ar wybodaeth o'r Jay Review of Criminally Exploited Children: Shattered Lives, Stolen Futures.
Ar-lein, Teams
13:00
- 13/10/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Diffinio cam-drin plant at ddibenion ymchwil a chadw golwg
Ymunwch â ni am weminar lle byddwn ni’n treiddio’n ddyfnach i gymhlethdodau’r pwnc o gam-drin plant, sy’n fater o bwys i iechyd y cyhoedd ac sydd â goblygiadau gydol oes. Mae’r weminar hon yn seiliedig ar astudiaeth Delphi Ewropeaidd arloesol, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Lancet Regional Health - Europe. Bydd yn trin a thrafod ymdrechion i benderfynu ar ddiffiniad unedig o gam drin plant i wella sut mae’n cael ei fesur a’i olrhain ledled Ewrop.
Ar-lein, Teams
13:00
- 10/09/2025
" alt="thumbnail" />
Sandboxing in Practice - Qualitative Interviewing with Sand, Objects, and Figures
Mae Dawn Mannay a Victoria Timperley yn cyflwyno eu canllaw hanfodol i dechneg ymchwil ansoddol arloesol bocsio tywod. Yn tarddu o therapi chwarae, mae bocsio tywod yn galluogi plant, pobl ifanc ac oedolion i greu golygfeydd tri dimensiwn gan ddefnyddio ffigurau bach a gwrthrychau bob dydd mewn hambwrdd o dywod. Mae creu'r golygfeydd tywod hyn yn cynnig cyfleoedd i unigolion a grwpiau gynrychioli atgofion, profiadau bob dydd a syniadau am y dyfodol, sydd wedyn yn cael eu rhannu a'u trafod. Gan gynnig adnodd amhrisiadwy i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr, mae'r llyfr cynhwysfawr hwn: - yn cyflwyno dull creadigol a diddorol o gynhyrchu data ansoddol; - yn cynnwys astudiaethau achos rhyngwladol allweddol, enghreifftiau o'r byd go iawn, a myfyrdodau meddylgar ar gryfderau a chyfyngiadau'r dull; - yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar ddarllenwyr i weithredu bocsio tywod yn effeithiol yn eu taith ymchwil. Trwy dynnu ar greadigrwydd, myfyrdod, moeseg ac arbenigedd, mae'r llyfr hwn yn datgloi potensial bocsio tywod i drawsnewid eich ymchwil gyda dull dyfeisgar a dychmygus.
Ar-lein
13:00
- 09/07/2025
" alt="thumbnail" />
Y Ddarlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2025
Mae’n bleser gennyn ni lansio Darlith Mabwysiadu Flynyddol 2025. Ein siaradwr gwadd fydd Dr Tam Caneo Brifysgol Sussex, a fydd yn cyflwyno ei hymchwil ar y fframwaith AFDiT - fframwaith gyda'r nod o wella deilliannau hunaniaeth plant o blith grwpiau ethnig wedi’u lleiafrifo a fabwysiadwyd gan rieni o hil wahanol.
Lecture Room Glamorgan/S/0.81, Cardiff University
14:00
- 16/06/2025
" alt="thumbnail" />
Dangosiad o Tuag at Gariad Brodyrol: Gofal, Trychineb a Newid
Mae ExChange Wales yn gyffrous i'ch gwahodd i ddangosiad o raglen ddogfen newydd Omar Mohamed, Towards Brotherly Love: Stories of Care, Catastrophe and Change. Mae'r ffilm bwerus hon yn archwilio teithiau plant a phobl ifanc Duon sydd â phrofiad gofal yn Philadelphia, Pennsylvania yn ogystal â'u teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw, gan dynnu sylw at effaith hiliaeth systemig ar system gofal cymdeithasol plant yn yr Unol Daleithiau. Trwy straeon o wydnwch ac arloesedd cymunedol, mae'r rhaglen ddogfen yn ysbrydoli llwybrau newydd ar gyfer newid a diwygio i'w hystyried yn fyd-eang.
Spark Event Space, Maindy Road, CF24 4HQ
14:00
- 05/06/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Gwahaniaethau ethnig a chrefyddol yn y defnydd o ofal iechyd plant sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru
Mae plant sy'n derbyn gofal a chymorth gan y system lles plant yn cynrychioli is-boblogaeth agored i niwed sy'n aml yn wynebu heriau cymhleth ac amlochrog, sydd fel arfer yn deillio o gamdriniaeth, esgeulustod neu anabledd. Er gwaethaf y gwahaniaethau iechyd sylweddol sy'n gysylltiedig â'r grŵp hwn, mae ymchwil gyfyngedig wedi edrych ar sut mae'r canlyniadau hyn yn wahanol ar draws hunaniaethau ethnig a chrefyddol. Mae'r papur hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch drwy drin a thrafod gwahaniaethau ethnig a chrefyddol yn y defnydd o ofal iechyd ymhlith plant sy'n derbyn gofal a chymorth gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig cynhwysfawr o Gymru. Fe wnaethon ni gysylltu cofnodion plant sy'n derbyn gofal a chymorth rhwng 2017 a 2019 â data Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2011 a 2021 i nodi cysylltiad crefyddol y plentyn a gwella cyflawnrwydd ethnigrwydd. Yn ogystal, cyfunwyd y cofnodion hyn â data iechyd o ofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer y blynyddoedd cyfatebol. Gan ysgogi'r cysylltiadau data arloesol hyn, fe wnaethon ni asesu amrywiadau ethnig a chrefyddol mewn dau faes allweddol: (1) y tebygolrwydd o gyrchu gwahanol wasanaethau gofal iechyd (meddyg teulu, gofal cleifion mewnol ysbyty, ac adran damweiniau ac achosion brys) a (2) y tebygolrwydd o ddefnyddio gofal iechyd ar gyfer cyflyrau cyffredin, megis materion iechyd meddwl ac anafiadau.
Ar-lein, Teams
12:00
- 07/05/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Buddsoddi mewn gwasanaethau atal a chymorth
Gyda’r argyfwng presennol a’r cyfnod o ddiwygio ym maes gofal cymdeithasol plant yn Lloegr, mae ailfuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd yn bwysicach nag erioed. Yn y seminar hon, bydd Calum Webb yn cyflwyno canfyddiadau o ddadansoddiad helaeth o'r cysylltiad rhwng y gwariant ar wasanaethau atal a chymorth i blant a theuluoedd a’r cyfraddau ymyriadau lles plant yn Lloegr. Caiff hyn ei ddilyn gan drafodaeth ar ganlyniadau posibl a pherthnasedd y canfyddiadau i Gymru.
Ar-lein, Teams
13:00
- 30/04/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Cadw'n iach, cyn, yn ystod ac ar ôl diagnosis dementia i bobl sydd â syndrom Down
Ar-lein
12:00
- 31/03/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Ymchwilio i brofiadau pobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia.
Rhoddir mwyfwy o sylw i’r ffaith y caiff ‘lleoliad cymdeithasol’ yr unigolyn (hynny yw, ei oedran, rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, ardal lle mae’n byw, cyfeiriadedd rhywiol a.y.b.) effaith ar ei brofiadau o fyw gyda dementia. I rai, gall hyn arwain at anghydraddoldebau ac achosion o annhegwch a gaiff eu profi gydol y daith o ofalu am ddementia, a hynny o’r cyfnod cyn y diagnosis i’r cyfnod ar ei ôl. Er y gwyddom y gall dementia beri heriau penodol i bobl LHDTC+, prin yw’r gwaith ymchwil a wneir ar y gymuned hon o hyd. Mae yna hefyd brinder o lenyddiaeth sydd wedi rhoi sylw i brofiadau uniongyrchol o bobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia, sy'n golygu nad yw eu straeon wedi'u clywed. Yn y weminar hon, bydd John yn cyflwyno canfyddiadau ei waith ymchwil diweddar sydd wedi canolbwyntio ar ddeall profiadau unigolion LHDTC+ â dementia o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yna drafodaeth ar eu straeon cyfoethog ac amrywiol, yn ogystal ag ychydig o arweiniad ar yr arferion gorau i gefnogi unigolion LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.
Ar-lein
13:00
- 27/03/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: "Allwch chi ddim gwneud hynny mewn gofal dementia" – cwrdd â heriau gofal dementia cynhwysol.
Mae o leiaf 25,000 o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn byw gyda dementia yn y DU. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gwahaniaethau pwysig yn y gwasanaethau y mae pobl o'r cymunedau hyn yn eu derbyn o'u cymharu â'u cymheiriaid gwyn-Prydeinig. Er enghraifft, mae pobl o lawer o gymunedau yn llawer llai tebygol o gael diagnosis o ddementia a phan gânt eu diagnosio, yna mae hyn yn debygol o fod yn ddiweddarach yn y salwch pan fydd ganddynt fwy o amhariad. O ganlyniad, maent yn debygol o golli allan ar dderbyn triniaethau a gymeradwywyd gan NICE, gan gynnwys meddyginiaeth, tra eu bod nhw a'u teuluoedd yn debygol o fyw gyda lefelau cynyddol o straen ac ansicrwydd. Mae gwahaniaethau pwysig hefyd yn y gwasanaethau y mae pobl o'r tair cymuned hyn yn eu derbyn yn ddiweddarach yn y llwybr dementia - gyda defnyddwyr gwasanaeth yn aml yn adrodd nad yw darpariaeth statudol yn bodloni eu hanghenion. Yn hytrach, mae pobl o'r cymunedau hyn yn fwy tebygol o ddibynnu ar sefydliadau lleol, cymunedol y tu allan i'r brif ffrwd dementia i gael cymorth. Un dull amgen o ddarparu gwasanaethau yw i'r GIG ac asiantaethau eraill weithio'n fwyfwy mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol sy'n cynrychioli'r cymunedau hyn. Er bod gan hyn lawer o fanteision posibl, mae llawer o heriau i'r gwaith hwn hefyd - er enghraifft yn aml nid yw gweithwyr cymunedol yn teimlo bod eu harbenigedd yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol, na bod y cyfyngiadau ar eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn. Bydd y cyflwyniad hwn yn amlinellu'r heriau hyn ac yn amlinellu rhai atebion posibl i'r rhain yn gryno.
Ar-lein
13:00
- 25/03/2025
" alt="thumbnail" />
Gweminar: 'Food Glorious Food'
Mae’r weminar hon yn cyflwyno’r prosiect Food Glorious Food a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil ar Iechyd (NIHR), gan gynnig gwybodaeth gynnar o’i werthusiad realaidd. Mae pobl sy'n byw gyda dementia yn wynebu mwy o risg o ddiffyg maeth a dadhydradu. Fodd bynnag, mae mwy o arwyddocâd i fwyd na maeth yn unig – gall ddylanwadu ar les seicogymdeithasol, meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth a chefnogi hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Mae profiadau cadarnhaol yn y meysydd hyn yn hollbwysig i fyw'n dda gyda dementia. Mae'r prosiect Food Glorious Food yn ymchwilio i’r ffordd mae arferion bwyd cymorth grwpiau cymunedol yn effeithio ar bobl o gefndiroedd ac amgylchiadau amrywiol. Dyma gydweithrediad rhwng y Gymdeithas Astudiaethau Dementia (Prifysgol Caerwrangon), Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Wolverhampton. Mae'r prosiect yn defnyddio dulliau ansoddol hyblyg i greu data o grwpiau cymorth cymunedol sy’n ethnig amrywiol. Y nod yw dod o hyd i’r hyn sy'n gweithio, i bwy ac o dan ba amgylchiadau.
Ar-lein
12:00
- 18/03/2025
" alt="thumbnail" />
ASPIRE: Model Cymorth i Blant yng Nghymru gyda Rhiant yn y Carchar
Prosiect ASPIRE (Gweithredu Gwerthusiad Ymchwil Annibynnol Ysgolion a Charchardai) Ym mis Gorffennaf 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru Dîm ASPIRE i archwilio model cymorth cenedlaethol ar gyfer plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar yng Nghymru. Cynhaliodd y tîm, a arweiniwyd gan Families Outside a’i gefnogi gan academyddion ac ymgynghorwyr, astudiaeth 12 mis yn cynnwys cyfweliadau, arsylwadau, a grwpiau ffocws. Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion allweddol ar gyfer cefnogi’r plant a’r bobl ifanc hyn yng Nghymru.
Ar-lein, CHWYDDO
12:00
- 11/02/2025
" alt="thumbnail" />
Deall y risg o hunanladdiad ymhlith rhieni sy’n gofalu am blant ag anableddau
Yn ôl ymchwil newydd, gallai rhieni sy’n ofalwyr fod yn grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad. Mae mwy na 40% wedi meddwl am hunanladdiad, ac mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi ceisio eu lladd eu hunain. Mae iselder, ymddygiadau ymdopi camweithredol a theimladau o fod yn gaeth yn y rôl ofalu i gyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddan nhw’n ystyried hunanladdiad. Bydd y cyflwyniad hwn yn dangos y dystiolaeth o’r risg o hunanladdiad ymhlith rhieni sy’n ofalwyr. Bydd hefyd yn ymchwilio i’r goblygiadau i faes polisi ac ymarfer ac yn rhoi cyfleoedd i chi drafod eich profiadau eich hun o gefnogi rhieni sy’n ofalwyr mewn perygl.
Ar-lein, ZOOM
13:00
- 29/01/2025
" alt="thumbnail" />
Llwybrau addysgol a chanlyniadau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal: astudiaeth cysylltedd data ar raddfa poblogaeth
Mae plant sy'n cael cyfnodau cymharol fyr dan ofal - a/neu sy'n profi gofal yn ystod plentyndod cynnar neu hwyr - yn aml yn wynebu'r diffyg mwyaf sylweddol yn eu cyrhaeddiad addysgol o'u cymharu â'r rhai sydd â phrofiadau hirach a mwy sefydlog dan ofal. Mae dadansoddiadau esboniadol yn awgrymu y gallai cael eu gwahardd dros dro, cael eu hallgáu a bod yn ddysgwr awtistig egluro rhywfaint o'r anfantais hon, tra gallai ysgolion sy'n cefnogi plant difreintiedig fod yn ffactor amddiffynnol. Ac eto, mae bwlch gwybodaeth yn parhau o ran symudiadau gofal, cyrhaeddiad addysgol a beth sy'n gweithio. Bydd ein darlith yn trafod: Beth yw patrymau cyffredin "profiad o ofal"? A sut mae'r rhain yn llywio cyrhaeddiad addysgiadol? Rydyn ni’n tynnu sylw at rai agweddau allweddol a allai amharu ar gyrhaeddiad addysgol, gan ddibynnu ar brofiadau penodol o ofal (h.y. mabwysiadu cynnar yn erbyn gofal maeth plentyndod hwyr). Dylai llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gweithio mewn sectorau cysylltiedig ystyried y canlyniadau hyn mewn perthynas â pholisïau ac arferion ysgolion i gefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal i gyrraedd eu potensial."
Online, ZOOM
13:00
- 06/11/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Llais pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn cyflogaeth â chymorth
Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod pwysigrwydd gweithio’n rhan o bartneriaeth mewn Cyflogaeth â Chymorth, yn seiliedig ar Engage to Change, prosiect cenedlaethol 7 mlynedd o hyd sy’n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, i gael cyflogaeth â thâl gyda chymorth hyfforddwr swydd. Roedd y prosiect yn cynnig cymorth â chyflogaeth a chyfleoedd trwy bartneriaeth o sefydliadau, gyda’r nod o hyrwyddo newid diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru a dylanwadu ar bolisi i hyrwyddo cyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu. Bydd y cyflwyniad yn cael ei arwain gan Lysgennad Arweiniol Engage to Change sy’n berson ifanc awtistig â phrofiad bywyd, a dau ymchwilydd. Ein nod yw ysbrydoli unigolion i feithrin partneriaethau cryf rhwng sefydliadau ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwn ni’n trafod pwysigrwydd cynnwys sefydliadau a arweinir gan aelodau a sefydliadau hunan-eiriolaeth i rymuso pobl ifanc ag anableddau dysgu. Bydd hefyd yn cynnwys disgrifiad o'r newidiadau dros y blynyddoedd diwethaf a sut y mae gweithio hygyrch a chyd-gynhyrchu wedi cefnogi'n weithredol ddylanwadu ar waith gyda phobl ifanc, cyflogwyr, llywodraeth leol, teuluoedd a gofalwyr. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys fideos o bobl â phrofiad bywyd a gweithgareddau i unigolion gymryd rhan ynddyn nhw. Ein nod yw ystyried beth sy'n gweithio a sut y gall defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i hyrwyddo newid diwylliannol a gwella cynhwysiant mewn cyflogaeth.
Ar-Lein, ZOOM
13:00
- 21/10/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Gwerthusiad o Incwm Sylfaenol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru - Canfyddiadau o’r flwyddyn gyntaf.
Cynllun unigryw mewn sawl ffordd a gafodd ei lansio ym mis Gorffennaf 2022, yw’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru. Nid oes cynllun o’r fath wedi rhoi taliadau rheolaidd mor sylweddol â’r rhai a gafodd eu derbyn gan bobl ifanc a oedd yn rhan o’r cynllun arbrofol hwn, ac nid oes unrhyw gynlluniau incwm sylfaenol eraill wedi bod yn agored i garfan genedlaethol o bobl sy’n gadael gofal o 18 oed yn derbyn taliadau am hyd at ddwy flynedd. Mae’r cynllun arbrofol yn cael ei werthuso gan dîm sy’n cael eu harwain gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, CASCADE, Prifysgol Caerdydd, ac mae’r gwaith gwerthuso bellach yn ei ail flwyddyn. Bydd y sesiwn hon yn seiliedig ar yr adroddiad blynyddol cyntaf o'r astudiaeth, sy'n cynnwys canfyddiadau cynnar. Byddwn ni’n disgrifio’r grŵp o bobl ifanc sy’n derbyn yr incwm sylfaenol, ac yn cyflwyno sut y byddwn ni’n bwriadu rhoi’r cynllun ar waith, ac yn trafod canfyddiadau a phrofiadau’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r cynllun. Cyflwynydd: David Westlake, CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar-lein, ZOOM
13:00
- 11/09/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Lles mewn Ysgolion a Cholegau – Astudiaeth WiSC: Canfyddiadau ac Argymhellion
Bydd y cyflwyniad hwn yn cynnwys canfyddiadau astudiaeth ymchwil empirig 'Lles mewn Ysgolion a Cholegau (WiSC) yng Nghymru, lle mai'r amcan oedd deall profiadau rhanddeiliaid o ddarparu a derbyn darpariaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant a phobl ifanc (CYP) â phrofiad o ofal mewn ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach, er mwyn datblygu argymhellion i wella ansawdd y gwasanaeth a sicrhau mynediad teg. Edrychodd yn benodol ar y berthynas rhwng gweithwyr cymdeithasol, staff ysgol a choleg, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, a phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal a sut yr oedd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau lles a sut maen nhw’n cael ei derbyn. Gan gynnwys astudiaethau achos yn ymwneud ag ysgolion uwchradd, colegau Addysg Bellach, timau gofal cymdeithasol, a thimau iechyd meddwl, bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ganlyniadau ansoddol yr astudiaeth dulliau cymysg hon. Yn gyntaf, bydd themâu astudio sy'n ymwneud ag anghenion iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sut mae ysgolion a cholegau yn ceisio cyflawni’r gofynion hyn yn cael eu harchwilio. Yna trafodir themâu sy'n ymwneud â rôl gweithio drawsffiniol rhwng staff gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys yr heriau a'r cyfleoedd o weithio yn y modd yma a sut mae nhw’n wahanol yn ôl oedran a phrofiad gofal, e.e. gofal maeth a gofal gan berthynas. Bydd y cyflwyniad yn dod i ben gydag awgrymiadau ar gyfer arferion a pholisi ynghylch iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal mewn lleoliadau addysgol a thrwy gydol y cyfnod pontio rhyngddyn nhw.
Ar-lein, ZOOM
13:00
- 18/09/2024
" alt="thumbnail" />
LANSIAD LLYFR: Gweithio gyda phlant sydd wedi profi esgeulustod - Victoria Sharley ac Alyson Rees
**An exclusive 25% discount code will be given to attendees** Neglect is the most common reason for a child to be on a protection plan in the UK – in 2020, this amounted to over 27,000 children. Neglect is also present in around three-quarters of all case reviews into the death or serious harm of children. Research has found a clear intersection between neglect and other forms of abuse. But responding effectively to neglect and supporting affected children is widely acknowledged to be complex and challenging. So why is the most prevalent form of child maltreatment so difficult to respond to in practice? What are the common challenges experienced by practitioners in identifying and evidencing neglect? How can we ensure that children and carers receive the support they need? And how can we work together effectively, across organisations, to ensure that neglect is recognised and responded to in a timely way? The guide is designed to be a practical text for busy social workers and other practitioners in a range of services responsible for safeguarding children. With its easy to digest format and authoritative advice, this guide is a vital companion for all those working for and concerned with children’s welfare.
Ar-lein, Zoom
12:00
- 11/06/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.
Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad byr am sut y daeth CASCADE yn rhan o'r ymchwil hwn a phwysigrwydd gweithio gyda rhanddeiliaid o'r cam dylunio ymchwil i greu deilliannau ymchwil ar y cyd. Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gwnaeth y tîm ymchwil ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod yr ymchwil yn ychwanegu gwerth at arfer presennol. Bydd y sesiwn yn gorffen gyda throsolwg beirniadol o effaith y portffolio ymchwil hwn ar bolisi a darpariaeth gwasanaeth gan gyfeirio at rai o'r allbynnau a gafodd eu creu ar y cyd.
Ar-lein, ZOOM
12:00
- 22/04/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Galluogi siarad ac ail-fframio negeseuon: Gweithio'n greadigol ac ar y cyd er mwyn creu effaith
Mae'r cyflwyniad hwn yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio dulliau creadigol a chydweithredol fel technegau i gynhyrchu data ac i ledaenu gwybodaeth a chreu effaith. Ffocws y cyflwyniad yw astudiaeth ansoddol o brofiadau a dyheadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru (n=67). Gweithiodd y prosiect gydag ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal a defnyddiodd dechnegau gweledol, creadigol a chyfranogol i drin a thrafod profiadau 67 o blant a phobl ifanc o’u haddysg ac, yn bwysicach, eu barn ar beth y gellid ei wneud i'w gwella. Roedd y dull amlfoddol hwn yn rhoi cyfle i’r rhai a gymerodd rhan feddwl am eu profiadau goddrychol a chyffredin, ond sydd hefyd yn brofiadau pwysig, ac sy'n gweithredu ochr yn ochr â heriau mwy strwythurol ac yn rhyngweithio â hwy. Datblygwyd ystod o ffilmiau, cylchgronau, gwaith celf ac allbynnau cerddoriaeth ochr yn ochr ag adroddiad, erthyglau llyfr a chyfnodolion, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a gwefan, i sicrhau y gallai argymhellion y prosiect gyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol. Mae'r cyflwyniad hwn yn awgrymu bod angen rhoi llwyfan i leisiau plant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu llywio polisi ac arferion. Yn unol a hynny, mae angen i ymchwilwyr fod yn greadigol yn eu dulliau gweithredu o ran gwaith maes a lledaenu gwybodaeth, gan ddefnyddio pŵer y celfyddydau i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau bob dydd plant a phobl ifanc.
Ar-lein, ZOOM
13:00
- 09/04/2024
" alt="thumbnail" />
Seminar Y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) 'Hyrwyddo lles gofalwyr: ymchwil gyfredol a chyfeiriadau'r dyfodol'.
Research studies about carers’ wellbeing over the last decade have highlighted the impact of caregiving on informal carers’ financial, physical and mental health. In this seminar hosted by the Centre for Adult Social Care Research (CARE) at Cardiff University we focus on the implications for carers’ social wellbeing and present some of the latest research from the UK and Australia about the social welfare of carers. Join us for this free in-person seminar.
Event Space, sbarc|spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ
11:00
- 21/05/2024
" alt="thumbnail" />
Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant
Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy'n canolbwyntio'n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol). Mae hyn yn mynd yn groes i fuddiannau dynion, menywod a phlant. Mae achosion y broblem yn gymhleth. Fe wnaeth y cyflwynydd ei astudio am y tro cyntaf wrth wneud ei PhD yn yr 1990au hwyr, ac mae tystiolaeth fwy diweddar yn awgrymu nad oes fawr o newid wedi digwydd ers hynny. Bydd y weminar hon yn cyflwyno'r broblem ac yn disgrifio’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymchwil a’r datblygiad sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i wella'r sefyllfa. Cafodd y cynllun Gwella Diogelu trwy Archwilio Ymgysylltu â Thadau (ISAFE) ei ddatblygu gan Sefydliad y Tadau a CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei effeithiolrwydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd mewn treial rheoledig ar hap a ariennir gan Foundations, y What Works Centre cenedlaethol ar gyfer plant a theuluoedd. Mae ISAFE yn seiliedig ar waith blaenorol gan y ddau sefydliad, sef hyfforddiant a gafodd ei ddatblygu gan y cyflwynydd a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag ymyriad ymgysylltu â thadau aml-haenog a gafodd ei ddylunio a gweithredu gan Sefydliad y Tadau. Cafodd hyn ei werthuso gan y cyflwynydd. Mae'r elfen hyfforddi sgiliau yn cyflwyno cyfweliadau ysgogol hefyd. Defnyddiwyd hyn am y tro cyntaf mewn cyd-destun gwasanaethau plant gan academyddion CASCADE.
Online, ZOOM
12:00
- 15/04/2024
" alt="thumbnail" />
Y Ddarlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024
Yn dilyn ein cynhadledd hynod lwyddiannus ar fabwysiadu yn 2023, mae’n bleser gennym lansio ein Darlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024. Ein siaradwr gwadd fydd yr Athro Laura Machin o Brifysgol Lancaster, a fydd yn cyflwyno ei gwaith ar y prosiect Adopters Advocacy Project. COFRESTRWCH NAWR. Mae’r Athro Machin – a gafodd ei mabwysiadu yn blentyn ac sydd nawr yn rhiant sydd wedi mabwysiadu – yn aelod o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fabwysiadu a Sefydlogrwydd. Lansiodd y prosiect Adopters Advocacy i amlygu lleisiau ac anghenion darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr yn ystod y broses fabwysiadu ac ar ôl i blentyn gael eu mabwysiadu gan sicrhau ar yr un pryd nad oes llai o sylw yn cael ei roi i anghenion plant sy’n cael eu mabwysiadu a’u teuluoedd biolegol. Cynhelir y ddarlith ddydd Mercher 20 Mawrth, 10.30am-12.00pm yn Adeilad Morgannwg, Caerdydd, canolbwynt y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn ddigwyddiad hybrid. COFRESTRWCH NAWR i ymuno wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Room -1.80, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, King Edward VII Avenue, Caerdydd, CF10 3WT (neu ar-lein)
10:30
- 20/03/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion *DYDDIAD NEWYDD*
Championing a research culture within Adult Social Care – How are we making robust decisions without calling upon the research base? Research enriched practice has always been a gold standard within social care. However, making it a natural part of practice within busy frontline local authority teams dealing with complex and fluid situations has always been a challenge. In this webinar Liza Turton and Rachel Scourfield who are both Consultant Social Workers for Neath and Port Talbot will share how they are using their NIHR Practice based Research Leaders Award to create a model that supports frontline staff, policy development and strategic plans.
ZOOM, Online
12:00
- 08/05/2024
" alt="thumbnail" />
Gwneud Gwaith Diogelu Oedolion gyda Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr
Bydd y cyflwyniad hwn yn manylu ar ddisgrifiadau gweithwyr cymdeithasol o wneud gwaith diogelu oedolion gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr teuluol a gofalwyr cyflogedig. Bydd yn taflu goleuni ar y ddealltwriaeth sydd gan weithwyr cymdeithasol o adnoddau asesu risg a’u defnydd ohonynt, a bydd yn dangos sut y cafodd y rhain eu defnyddio i gofnodi pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb dros fesur a monitro risg. Gwnaeth y gweithwyr cymdeithasol bwysleisio’r angen i sicrhau diogelwch uniongyrchol y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau wrth iddynt wneud gwaith diogelu oedolion. Gwnaethant hefyd dynnu sylw at yr anawsterau o ran cynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn gwaith diogelu a gwneud y gwaith hwnnw o fewn yr amser sydd ar gael. Caiff yr agweddau allweddol ar weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau eu hamlygu, ac maent yn cynnwys egluro beth yw diogelu oedolion, galluogi pobl i gymryd risgiau, asesu'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn ac addysgu’r unigolyn beth yw cam-drin ac esgeulustod. Bydd dulliau gweithredu ar gyfer gofalwyr teuluol yn cael eu disgrifio, gyda gweithwyr cymdeithasol yn rhoi pwyslais ar ddulliau cefnogol neu bendant. Yn olaf, mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar sut y gwnaeth gweithwyr cymdeithasol ymgysylltu â gofalwyr cyflogedig yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal, gan ddangos bod y dulliau diogelu’n cael eu gorfodi’n bennaf drwy gydymffurfio â gwaith papur.
Ar-lein, ZOOM
12:00
- 19/02/2024
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Ailddysgu ein Lles Meddyliol – a Ffyrdd o’i Gefnogi
Gan elwa ar ei brofiad a phrofiad pobl eraill, nod Peter yn y cyflwyniad hwn, a fydd yn sail i’r drafodaeth ddilynol, yw ein helpu i ailystyried y ddwy ddealltwriaeth ynghlwm wrth les meddyliol a thrallod, a’r ffyrdd fuddiol o fynd i'r afael â'r anawsterau hynny rydym hwyrach yn eu hwynebu - gan dalu sylw arbennig at sut y gall anawsterau plentyndod ddod yn ôl i'n poenydio yn nes ymlaen a sut y gall deall ein hunain ac eraill yn blant fod o gymorth tra’n byw ein bywydau.
Ar-lein, ZOOM
12:00
- 09/11/2023
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal: Tystiolaeth adolygu systematig
Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn bryder mawr o hyd. Hyd yma, nid yw wedi bod yn glir pa raglenni a allai fynd i'r afael â'r deilliannau hyn yn effeithiol, neu atal hunanladdiad, yn y DU. Gwnaethom gynnal adolygiad systematig o’r dystiolaeth ryngwladol er mwyn deall pa raglenni sy'n gweithio, sut maen nhw’n gweithio, a’r heriau posibl rhag gallu sicrhau gwasanaethau ac ennyn diddordeb yn y rhain. Gwnaethom nodi cyfanswm o 64 o raglenni ar draws 124 o astudiaethau. Yn UDA oedd y rhan fwyaf o’r rhaglenni, a chawsant eu gwerthuso yno. Ar y cyfan, dangosodd y rhaglenni rai effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn y tymor byrrach, ond nid yn y tymor hwy. Nid oedd digon o ddata ar les a hunanladdiad. Roedd y rhwystrau rhag cyflawni yn cynnwys: diffyg adnoddau; yr ymdrech ynghlwm wrth ddarparu a chyfranogi; perthnasoedd rhyngbroffesiynol anodd; a rhaglenni nad oedd yn ymatebol i anghenion gofalwyr na phobl ifanc. Gwnaethom gynnal saith ymgynghoriad â rhanddeiliaid gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i fyfyrio ar ganfyddiadau'r adolygiad. Roeddent yn argymell y dylai rhaglenni yn y dyfodol ganolbwyntio ar ddarparu mentora gan unigolion eraill sydd â phrofiad o ofal a chefnogi newidiadau yn y system drwy gyflwyno modelau ymarfer sydd wedi’u llywio gan ymlyniad a/neu drawma. Ar ben hyn, dylai rhaglenni anelu at hyrwyddo lles ac atal deilliannau sy'n gysylltiedig â hunanladdiad.
Ar-lein, ZOOM
16:00
- 15/11/2023
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a lleihau unigrwydd: gwersi ar gyfer ymarfer a gwaith ymchwil o dreialon ymyrraeth
Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod â rhwydweithiau llai ac yn profi unigrwydd ac ynysu cymdeithasol na’r boblogaeth gyffredinol. Mae perthnasoedd cymdeithasol yn bwysig ar gyfer gwella lles meddwl a’i gefnogi, felly dylai ymarferwyr iechyd meddwl flaenoriaethu’r gwaith o gefnogi pobl i wneud cysylltiadau cymdeithasol newydd. Er mwyn helpu i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau cymdeithasol, ac felly atgyfnerthu’r achos busnes ar eu cyfer, mae dau hapdreial rheoledig yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Mae un yn gwerthuso canlyniadau hyfforddiant cyswllt cymdeithasol ar gyfer pobl â seicosis ac mae'r llall yn ymchwilio i effaith Llyw-wyr Cymdeithasol ar unigrwydd ar gyfer pobl ag iselder. Bydd y gweminar hwn yn archwilio’r ymyriadau sy’n cael eu gwerthuso, ac yn eu cymharu â thrydydd dull, Connecting People, sydd â pheth tystiolaeth o effeithiolrwydd. Byddwn yn trafod rhai o’r heriau a brofwyd yn yr astudiaethau hyn ac yn archwilio sut mae angen i wasanaethau iechyd meddwl ganolbwyntio mwy ar gymunedau lleol yn hytrach na phatholeg unigol yn unig i fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol hyn. Nid oes dim byd newydd yn hyn o beth i weithwyr cymdeithasol, ond gallai mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl fod yn gam yn rhy bell i wasanaethau iechyd meddwl sydd dan ormod o bwysau.
Online, ZOOM
12:00
- 21/11/2023
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Ffactorau risg rhieni a'r tebygolrwydd y bydd plant yn dod i ofal.
Mae nifer o broblemau rhieni eisoes wedi bod yn gysylltiedig â phlant sy'n dod i mewn i ofal. Mae'r rhain yn cynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac anableddau dysgu. Fodd bynnag, mae llawer o bethau am y berthynas rhwng y materion hyn mewn rhieni a mynediad plant i ofal nad ydynt yn hysbys. Er enghraifft, a yw'r ffactorau hyn yn cael yr un effaith ar debygolrwydd gofal os ydynt yn digwydd mewn mamau neu thadau neu os ydynt yn digwydd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel neu isel? Sut mae eu heffaith yn amrywio mewn gwahanol awdurdodau lleol? Nid ydym ychwaith yn gwybod sut mae nodweddion y plentyn yn effeithio ar effaith y materion hyn. Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd i archwilio'r materion hyn. Defnyddiodd yr astudiaeth ddata a gasglwyd fel mater o drefn gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a'i gysylltu â data o iechyd ac addysg i edrych ar y cartrefi yr oedd plant yn byw ynddynt cyn iddynt ddechrau gofal. Edrychodd ar y ffactorau risg yn yr oedolion sy'n byw yn y cartrefi hynny yn ogystal â nodweddion y plant. Cymharwyd y rhain â gweddill y boblogaeth ac fe'u defnyddiwyd i ateb rhai o'r cwestiynau hyn. Bydd y weminar yn esbonio'r astudiaeth yn fanylach, yn cyflwyno'r prif ganfyddiadau ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr eu trafod.
Ar-lein, ZOOM
12:00
- 20/09/2023
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Deall llwybrau gofal a sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer babanod yng Nghymru
Mae'r cyflwyniad hwn yn darparu tystiolaeth empirig newydd am lwybrau mynediad i ofal, llwybrau drwy ofal, a deilliannau lleoliadau ar gyfer y plant ieuengaf un yn y system ofal yng Nghymru. Drwy fynd i'r afael â chwestiynau am lwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, mae'n uniongyrchol gysylltiedig â chwestiynau a godwyd yn adroddiad terfynol y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus (2021) a sefydlwyd gan Lywydd yr Is-adran Teulu ynghylch tueddiadau yn y defnydd o lety gwirfoddol i fabanod. Ceir cwestiynau o hyd am rinweddau a moeseg llwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, ond mae tystiolaeth am y defnydd go iawn o opsiynau cyfreithiol gwahanol wedi bod yn gyfyngedig. At hynny, mae’r dystiolaeth wedi bod yn lled gyfyngedig ynghylch y llwybrau a’r deilliannau y tu hwnt i lwybrau mynediad gwahanol i ofal. Defnyddiodd y tîm ddata ar lefel y boblogaeth y bydd awdurdodau lleol yn ei gasglu’n rheolaidd ac sy'n rhan o Gyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal Llywodraeth Cymru, i ddeall profiad a deilliannau gofal babanod. Y prosiect hwn yw'r cyntaf i ddefnyddio'r cyfrifiad hwn i lunio canfyddiadau cadarn a disgrifiadol am fabanod sy’n mynd i ofal yng Nghymru. Mae canfyddiadau ynghylch babanod sy’n mynd i ofal yn cael eu cyflwyno’n genedlaethol, yn rhanbarthol (cylchdaith y llysoedd) ac ar lefel yr awdurdodau lleol, gan ddefnyddio cofnodion ar lefel plant sy'n rhychwantu cyfnod o 18 mlynedd.
Ar-lein, ZOOM
12:30
- 04/10/2023
