Ymchwilio i fanteision a heriau cynnig bwyd mewn grwpiau cymorth cymunedol i bobl sy’n byw gyda dementia.

Cyflwynwyd gan: Dr Becky Oatley

Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2025
Amser: 12:00-1:00yp
Lleoliad: Online

Crynodeb

Mae’r weminar hon yn cyflwyno’r prosiect Food Glorious Food a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil ar Iechyd (NIHR), gan gynnig gwybodaeth gynnar o’i werthusiad realaidd. Mae pobl sy’n byw gyda dementia yn wynebu mwy o risg o ddiffyg maeth a dadhydradu. Fodd bynnag, mae mwy o arwyddocâd i fwyd na maeth yn unig – gall ddylanwadu ar les seicogymdeithasol, meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth a chefnogi hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Mae profiadau cadarnhaol yn y meysydd hyn yn hollbwysig i fyw’n dda gyda dementia.

Mae’r prosiect Food Glorious Food yn ymchwilio i’r ffordd mae arferion bwyd cymorth grwpiau cymunedol yn effeithio ar bobl o gefndiroedd ac amgylchiadau amrywiol. Dyma gydweithrediad rhwng y Gymdeithas Astudiaethau Dementia (Prifysgol Caerwrangon), Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Wolverhampton. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ansoddol hyblyg i greu data o grwpiau cymorth cymunedol sy’n ethnig amrywiol. Y nod yw dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio, i bwy ac o dan ba amgylchiadau.

Bywgraffiad

Darlithydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yw Becky Oatley. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiad byw o ddementia ac ymyraethau gwaith a gofal cymdeithasol gydag oedolion hŷn ac oedolion sy’n byw gyda dementia.