Cyflwynwyr a phanelwyr:

Dr Ben Raikes (Arweinydd Diogelwch a Phennaeth Llywodraethu), Athro Nancy Loucks OBE, Athro Alyson Rees, Sylvia Stevenson (Cynorthwyydd Ymchwil)

ASPIRE: Model Cymorth i Blant yng Nghymru gyda Rhiant yn y Carchar

Cyflwynwyr a phanelwyr:

Dr Ben Raikes, Athro Nancy Loucks, Athro Alyson Rees & Sylvia Stevenson

Dyddiad: 24 Medi 2024

Amser: 12:00 – 13:00

Lleoliad: Ar-lein, ZOOM

Prosiect ASPIRE (Actioning a Schools & Prisons Independent Research Evaluation)

Ym mis Gorffennaf 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru dîm ASPIRE am gyfnod o 12 mis i baratoi opsiynau ac ystyriaethau ar gyfer model cenedlaethol o gymorth er mwyn gwella lles a chanlyniadau addysgol plant yng Nghymru y mae carcharu rhiant yn effeithio arnyn nhw. Mae tîm ASPIRE yn gydweithrediad sy’n cael ei arwain gan Families Outside (elusen genedlaethol yn yr Alban sy’n cefnogi teuluoedd y mae carcharu’n effeithio arnyn nhw) a’i gefnogi gan ddau academydd, dau ymgynghorydd annibynnol sy’n arbenigo mewn polisi ac ymarfer mewn cysylltiad â phlant y mae carcharu’n effeithio arnyn nhw, a dau gynorthwyydd ymchwil.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys pum cam casglu data, gan gynnwys cyfweliadau â phlant, cyfweliadau â mamau, arsylwadau ar y Parth Ysgolion yng ngharchardai CEF Y Parc a CEF Caerdydd, a grwpiau ffocws gyda thadau yn y carchar. Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys digwyddiad bwrdd crwn i randdeiliaid a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol yr astudiaeth a’r argymhellion ar gyfer model cymorth Cymru gyfan i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar.

Cyflwynwyr a phanelwyr

Mae Dr Ben Raikes (Arweinydd Diogelwch a Phennaeth Llywodraethu) yn Uwch-ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Huddersfield.

Mae Athro Nancy Loucks OBE, Prif Weithredwr, Families Outside, ac Athro Gwadd ym Mhrifysgol Strathclyde.

Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan Ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r Athro Alyson Rees.

Mae Sylvia Stevenson (Cynorthwyydd Ymchwil) yn fyfyriwr PhD blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i wasanaethau yng Nghymru sy’n cefnogi rhieni geni ar ôl i awdurdodau lleol symud eu plant ymaith yn orfodol.