LANSIAD LLYFR: Gweithio gyda phlant sydd wedi profi esgeulustod
Awduron a chyflwynwyr: Victoria Sharley ac Alyson Rees
Dyddiad: Tuesday 11th June 2024
Amser: 12 – 1pm
Lleoliad: Online, Zoom
Ynghylch y llyfr
Esgeulustod yw’r rheswm mwyaf cyffredin i blentyn fod ar gynllun amddiffyn yn y DU – yn 2020 roedd hyn yn cyfateb i dros 27,000 o blant (NSPCC, 2022). Mae esgeulustod hefyd yn bresennol mewn tua thri chwarter yr holl adolygiadau achos o farwolaeth neu niwed difrifol i blant. Mae ymchwil wedi canfod croestoriad clir rhwng esgeulustod a mathau eraill o gam-drin. Ond cydnabyddir yn eang bod ymateb yn effeithiol i esgeulustod a chefnogi plant yr effeithir arnyn nhw yn gymhleth ac yn heriol.
Felly pam mae’r math mwyaf cyffredin o gam-drin plant mor anodd ymateb iddo yn ymarferol? Beth yw’r heriau cyffredin mae ymarferwyr yn eu hwynebu wrth nodi esgeulustod a dangos tystiolaeth ohono? Sut gallwn ni sicrhau bod plant a gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw? A sut y gallwn gydweithio’n effeithiol ar draws sefydliadau i sicrhau bod esgeulustod yn cael ei gydnabod ac ymateb iddo mewn modd amserol?
Ar gyfer pwy mae’r llyfr hwn?
Mae’r canllaw wedi’i gynllunio i fod yn destun ymarferol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol prysur ac ymarferwyr eraill mewn ystod o wasanaethau sy’n gyfrifol am ddiogelu plant. Gyda fformat hawdd ei ddeall a chyngor awdurdodol, mae’r canllaw hwn yn gydymaith hollbwysig i bawb sy’n gweithio dros les plant ac yn ymwneud â nhw.
Yr awduron
Mae Dr Victoria Sharley yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol gyda Phlant a Theuluoedd yn yr Ysgol Astudiaethau Polisi ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi’n Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr gyda chefndir mewn ymarfer diogelu ac amddiffyn plant. Mae Victoria wedi gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn nifer o dimau cymorth cynnar, asesu ac amlddisgyblaethol mewn lleoliadau statudol ac anllywodraethol. Mae ei diddordebau ymchwil yn bennaf mewn gweithio rhyngbroffesiynol yng nghyd-destun esgeulustod ac ymarfer diogelu. Mae ei thesis doethurol o Brifysgol Caerdydd yn archwilio rôl ysgolion prif ffrwd wrth nodi ac ymateb i faterion yn ymwneud ag esgeuluso plant yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan ymarferwyr wrth nodi dangosyddion esgeulustod ac ymateb yn effeithiol iddo ar draws ffiniau sefydliadol. Ar hyn o bryd Victoria yw Cyfarwyddwr Rhaglen y rhaglen MSc Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bryste.
Mae’r Athro Alyson Rees yn gyfarwyddwr cynorthwyol canolfan ymchwil CASCADE ac yn gyfrifol am ExChange, y rhwydwaith lledaenu ymchwil. Mae Alyson yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig, yn addysgu ar yr MA mewn Gwaith Cymdeithasol ac yn gyfrifol am leoliadau myfyrwyr. Bu’n ymarferydd am 16 mlynedd cyn symud i’r byd academaidd. Ei phrif feysydd ymchwil yw plant sy’n derbyn gofal, gofal maeth, plant â rhiant yn y carchar a chyfiawnder troseddol.