Cyflwynydd: Dr Sarah MacDonald, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd.

Gweminar: Heriau a chyfleoedd ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol mewn cymorth iechyd meddwl a lles i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Cyflwynydd: Dr Sarah MacDonald, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer,) Prifysgol Caerdydd.

Dyddiad: 18 Medi 2024

Amser: 13:00 – 14:00

Lleoliad: Ar-lein, ZOOM

Bydd y cyflwyniad hwn yn cynnwys canfyddiadau astudiaeth ymchwil empirig ‘Lles mewn Ysgolion a Cholegau (WiSC) yng Nghymru, lle mai’r amcan oedd deall profiadau rhanddeiliaid o ddarparu a derbyn darpariaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant a phobl ifanc (CYP) â phrofiad o ofal mewn ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach, er mwyn datblygu argymhellion i wella ansawdd y gwasanaeth a sicrhau mynediad teg. Edrychodd yn benodol ar y berthynas rhwng gweithwyr cymdeithasol, staff ysgol a choleg, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, a phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal a sut yr oedd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau lles a sut maen nhw’n cael ei derbyn.


Gan gynnwys astudiaethau achos yn ymwneud ag ysgolion uwchradd, colegau Addysg Bellach, timau gofal cymdeithasol, a thimau iechyd meddwl, bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ganlyniadau ansoddol yr astudiaeth dulliau cymysg hon. Yn gyntaf, bydd themâu astudio sy’n ymwneud ag anghenion iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sut mae ysgolion a cholegau yn ceisio cyflawni’r gofynion hyn yn cael eu harchwilio. Yna trafodir themâu sy’n ymwneud â rôl gweithio drawsffiniol rhwng staff gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys yr heriau a’r cyfleoedd o weithio yn y modd yma a sut mae nhw’n wahanol yn ôl oedran a phrofiad gofal, e.e. gofal maeth a gofal gan berthynas.

Bydd y cyflwyniad yn dod i ben gydag awgrymiadau ar gyfer arferion a pholisi ynghylch iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal mewn lleoliadau addysgol a thrwy gydol y cyfnod pontio rhyngddyn nhw.