Cyflwynydd: David Westlake, Cyd-Ymchwilydd, Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gwerthusiad o Incwm Sylfaenol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru – Canfyddiadau o’r flwyddyn gyntaf.
Cyflwynydd:
David Westlake, CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dyddiad: 11th Medi 2024
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, ZOOM
Cynllun unigryw mewn sawl ffordd a gafodd ei lansio ym mis Gorffennaf 2022, yw’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru. Nid oes cynllun o’r fath wedi rhoi taliadau rheolaidd mor sylweddol â’r rhai a gafodd eu derbyn gan bobl ifanc a oedd yn rhan o’r cynllun arbrofol hwn, ac nid oes unrhyw gynlluniau incwm sylfaenol eraill wedi bod yn agored i garfan genedlaethol o bobl sy’n gadael gofal o 18 oed yn derbyn taliadau am hyd at ddwy flynedd. Mae’r cynllun arbrofol yn cael ei werthuso gan dîm sy’n cael eu harwain gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, CASCADE, Prifysgol Caerdydd, ac mae’r gwaith gwerthuso bellach yn ei ail flwyddyn. Bydd y sesiwn hon yn seiliedig ar yr adroddiad blynyddol cyntaf o’r astudiaeth, sy’n cynnwys canfyddiadau cynnar. Byddwn ni’n disgrifio’r grŵp o bobl ifanc sy’n derbyn yr incwm sylfaenol, ac yn cyflwyno sut y byddwn ni’n bwriadu rhoi’r cynllun ar waith, ac yn trafod canfyddiadau a phrofiadau’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r cynllun.
Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen ar wefan CASCADE.