Cyflwynwyr: Andrea Meek a Dr. Elisa Vigna, Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd a Gerraint Jones-Griffiths, Anabledd Dysgu Cymru/Cydymaith Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyflwynwyr: Andrea Meek, Dr Elisa Vigna a Gerraint Jones-Griffiths

Dyddiad: Monday 21st October

Amser: 1 – 2pm

Lleoliad: Ar-lein, ZOOM

Crynodeb

Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod pwysigrwydd gweithio’n rhan o bartneriaeth mewn Cyflogaeth â Chymorth, yn seiliedig ar Engage to Change, prosiect cenedlaethol 7 mlynedd o hyd sy’n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, i gael cyflogaeth â thâl gyda chymorth hyfforddwr swydd.  Roedd y prosiect yn cynnig cymorth â chyflogaeth a chyfleoedd trwy bartneriaeth o sefydliadau, gyda’r nod o hyrwyddo newid diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru a dylanwadu ar bolisi i hyrwyddo cyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu.

Bydd y cyflwyniad yn cael ei arwain gan Lysgennad Arweiniol Engage to Change sy’n berson ifanc awtistig â phrofiad bywyd, a dau ymchwilydd. Ein nod yw ysbrydoli unigolion i feithrin partneriaethau cryf rhwng sefydliadau ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwn ni’n trafod pwysigrwydd cynnwys sefydliadau a arweinir gan aelodau a sefydliadau hunan-eiriolaeth i rymuso pobl ifanc ag anableddau dysgu. Bydd hefyd yn cynnwys disgrifiad o’r newidiadau dros y blynyddoedd diwethaf a sut y mae gweithio hygyrch a chyd-gynhyrchu wedi cefnogi’n weithredol ddylanwadu ar waith gyda phobl ifanc, cyflogwyr, llywodraeth leol, teuluoedd a gofalwyr. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys fideos o bobl â phrofiad bywyd a gweithgareddau i unigolion gymryd rhan ynddyn nhw. Ein nod yw ystyried beth sy’n gweithio a sut y gall defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i hyrwyddo newid diwylliannol a gwella cynhwysiant mewn cyflogaeth.