Cyflwynydd: Dr Emily Lowthian, Darlithydd mewn Addysg, Prifysgol Abertawe
Gweminar: Llwybrau addysgol a chanlyniadau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal: astudiaeth cysylltedd data ar raddfa poblogaeth
Cyflwynydd: Dr Emily Lowthian, Darlithydd mewn Addysg, Prifysgol Abertawe
Dyddiad: Dydd Mercher 6 Tachwedd
Amser: 1 – 2pm
Lleoliad: Ar-Lein, ZOOM
Crynodeb
Mae plant sy’n cael cyfnodau cymharol fyr dan ofal – a/neu sy’n profi gofal yn ystod plentyndod cynnar neu hwyr – yn aml yn wynebu’r diffyg mwyaf sylweddol yn eu cyrhaeddiad addysgol o’u cymharu â’r rhai sydd â phrofiadau hirach a mwy sefydlog dan ofal. Mae dadansoddiadau esboniadol yn awgrymu y gallai cael eu gwahardd dros dro, cael eu hallgáu a bod yn ddysgwr awtistig egluro rhywfaint o’r anfantais hon, tra gallai ysgolion sy’n cefnogi plant difreintiedig fod yn ffactor amddiffynnol. Ac eto, mae bwlch gwybodaeth yn parhau o ran symudiadau gofal, cyrhaeddiad addysgol a beth sy’n gweithio.
Bydd ein darlith yn trafod: Beth yw patrymau cyffredin “profiad o ofal”? A sut mae’r rhain yn llywio cyrhaeddiad addysgiadol? Rydyn ni’n tynnu sylw at rai agweddau allweddol a allai amharu ar gyrhaeddiad addysgol, gan ddibynnu ar brofiadau penodol o ofal (h.y. mabwysiadu cynnar yn erbyn gofal maeth plentyndod hwyr). Dylai llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gweithio mewn sectorau cysylltiedig ystyried y canlyniadau hyn mewn perthynas â pholisïau ac arferion ysgolion i gefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal i gyrraedd eu potensial.”