Cyflwynwyr: Dr Siobhan O’Dwyer a Dr Dan Burrows

Cyflwnwyr: Dr Siobhan O’Dwyer a Dr Dan Burrows

Dyddiad: Dydd Mercher 29th Ionawr

Amser: 1 – 2pm

Lleoliad: Ar-Lein, ZOOM

Cyflwnwyr

Mae Dr Siobhan O’Dwyer yn Athro Cyswllt Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Birmingham. Mae wedi arwain ymchwil i ofal di-dâl ers y 15 mlynedd diwethaf, gan gynnwys astudiaethau yn Awstralia, y DU a’r Iseldiroedd. Mae ei hymchwil wedi llywio polisïau ac ymarfer ac wedi ysbrydoli celf a theatr uchel ei chlod.

Dr Dan Burrows, Uwch-ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Cynodeb

Yn ôl ymchwil newydd, gallai rhieni sy’n ofalwyr fod yn grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad. Mae mwy na 40% wedi meddwl am hunanladdiad, ac mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi ceisio eu lladd eu hunain. Mae iselder, ymddygiadau ymdopi camweithredol a theimladau o fod yn gaeth yn y rôl ofalu i gyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddan nhw’n ystyried hunanladdiad. Bydd y cyflwyniad hwn yn dangos y dystiolaeth o’r risg o hunanladdiad ymhlith rhieni sy’n ofalwyr. Bydd hefyd yn ymchwilio i’r goblygiadau i faes polisi ac ymarfer ac yn rhoi cyfleoedd i chi drafod eich profiadau eich hun o gefnogi rhieni sy’n ofalwyr mewn perygl.