

Ymchwilio i brofiadau pobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.
Cyflwynwyd gan: John Hammond, Ysgol Feddygol Brighton a Sussex (BSMS)
Dyddiad: Dydd Iau 27 Mawrth
Amser: 1:00-2:00yp
Lleoliad: Amser
Haniaethol
Rhoddir mwyfwy o sylw i’r ffaith y caiff ‘lleoliad cymdeithasol’ yr unigolyn (hynny yw, ei oedran, rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, ardal lle mae’n byw, cyfeiriadedd rhywiol a.y.b.) effaith ar ei brofiadau o fyw gyda dementia. I rai, gall hyn arwain at anghydraddoldebau ac achosion o annhegwch a gaiff eu profi gydol y daith o ofalu am ddementia, a hynny o’r cyfnod cyn y diagnosis i’r cyfnod ar ei ôl. Er y gwyddom y gall dementia beri heriau penodol i bobl LHDTC+, prin yw’r gwaith ymchwil a wneir ar y gymuned hon o hyd. Mae yna hefyd brinder o lenyddiaeth sydd wedi rhoi sylw i brofiadau uniongyrchol o bobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia, sy’n golygu nad yw eu straeon wedi’u clywed.
Yn y weminar hon, bydd John yn cyflwyno canfyddiadau ei waith ymchwil diweddar sydd wedi canolbwyntio ar ddeall profiadau unigolion LHDTC+ â dementia o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yna drafodaeth ar eu straeon cyfoethog ac amrywiol, yn ogystal ag ychydig o arweiniad ar yr arferion gorau i gefnogi unigolion LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.
Bywgraffiad
Mae John Hammond yn gyn-ofalwr i riant oedd yn byw gyda chlefyd Alzheimer. Mae wedi gweithio’n Bennaeth Gwasanaethau a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro yn Switsfwrdd LHDTC Brighton a Hove, gan arwain prosiect arobryn sy’n cynnig cyfleoedd cymorth gan gymheiriaid i bobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia. Mae’n un o brif aelodau’r Cwmni Buddiannau Cymunedol LGBTQ+ Dementia Advisory Group, ac mae wedi bod yn gynghorydd thema gyhoeddus ym maes astudiaethau dementia yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Partneriaeth Sussex ac yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Mae John wedi gweithio ar sawl prosiect cynhyrchu ar y cyd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau ansawdd bywyd i bobl sy’n byw gyda HIV a heriau gwybyddol, ac adnoddau i gefnogi arferion cynhwysol LHDTC+ mewn lleoliadau gofal preswyl. Ar hyn o bryd, mae John yn gwneud PhD a ariennir yn BSMS er mwyn ymchwilio i brofiadau pobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.