
Dewislen Cynnwys:
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am well ymchwil dementia i wella’r cymorth sy’n cael ei rhoi i bobl sy’n byw gyda dementia.
Mae Cymdeithas Alzheimer’s wedi amcangyfrif y bydd 1 o bob 3 o bobl a gafodd ei eni yn y DU yn cael diagnosis o ddementia yn ystod eu hoes. Mae’r ffigwr hwn yn nodi’r angen i gynnig cymorth dementia i bobl ag ystod eang o gefndiroedd ac anghenion.
Mae’r gynhadledd hon yn canolbwyntio ar sut y mae modd cynnig cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia mewn byd amrywiol. Mae’n ymdrin ag ystod o bynciau a fydd yn amhrisiadwy i ymarferwyr gofal cymdeithasol ac mae’n cynnwys cyflwyniadau ar sut i wella cymorth dementia ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig a LHDTC+.
Bydd y gynhadledd hefyd yn canolbwyntio ar sut gall ystyried ymagwedd hawliau dynol o fewn gofal dementia, y gefnogaeth gall gael ei rhoi i bobl â syndrom Down sydd â diagnosis o ddementia ac ar werth canolbwyntio ar fwyd mewn grwpiau cymorth yn y gymuned.
Cyflwyniad

Gweminarau

‘Food Glorious Food’
Ymchwilio i fanteision a heriau cynnig bwyd mewn grwpiau cymorth cymunedol i bobl sy’n byw gyda dementia.
Cyflwynwyd gan: Becky Oatley
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Mawrth
Amser: 12-1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

“Ni allwch chi wneud hynny mewn gofal dementia”
Cwrdd â heriau gofal dementia cynhwysol.
Cyflwynwyd gan: Rik Cheston
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mawrth
Amser: 1-2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Ymchwilio i brofiadau pobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.
Cyflwynwyd gan: John Hammond
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Mawrth
Amser: 1-2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Cadw’n iach, cyn, yn ystod ac ar ôl diagnosis dementia i bobl sydd â syndrom Down
Cyflwynwyd gan:
- Sofia Vougioukalou, CARE
- Julian Hallett, Cymdeithas Syndrom Down yng Nghymru
- Gofalwyr pobl â Syndrom Down a diagnosis o ddementia
Dyddiad: Dydd Llun, 31 Mawrth
Amser: 12 – 1pm
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Podlediadau
Hawliau Dynol a Dementia
gyda’r Athro Suzanne Cahill o Goleg y Drindod Dulyn, mewn sgwrs â Dr Jeremy Dixon
Rhyddhau 21ain o Fawrth
Adnoddau

EFFRO
Yn Effro, rydyn ni’n credu gall mwy cael ei wneud; bod cydnabod anghenion, hoffterau ac unigoliaeth pob person yn creu cyfleoedd ar gyfer bywyd gwell.
Yn hytrach na defnyddio dull cwbl amharod i gymryd risg, rydyn ni’n gweithio gydag unigolion i drin a thrafod pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Yr Hyb – Caffi Dementia
Rhannwch frecwast blasus o De, Coffi, Tost, bisgedi a ffrwythau.
Mwynhewch sesiwn ymarfer 10 munud ar eich eistedd i ymlacio ar gyfer gweithgaredd yr wythnos, lliwio oedolion, gemau bwrdd, chwarae cardiau, crefftau neu gelf.
Yna ymunwch â sesiwn canu gyda rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y 1960au


Cymdeithas Alzheimer
Cefnogi Cynhwysiant ar gyfer pobl â dementia
Darllenwch am strategaethau ac atebion sydd â’r nod o wella profiadau a chanlyniadau ar gyfer poblogaethau amrywiol, gyda ffocws ar sut y cafodd yr atebion hyn eu llywio gan ymchwil yn cynnwys unigolion sy’n byw gyda dementia.
Cymdeithas Alzheimer – Pwysigrwydd gofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cofleidio ei ddiwylliant
“Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hollbwysig i ddiwallu anghenion cymhleth a diwylliannol rhywun, felly peidiwch â cholli golwg ar y person sy’n byw gyda dementia.”
Darllenwch am brofiadau Faith yn cefnogi ei mam sydd â dementia yn ystod pandemig COVID a phwysigrwydd gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.



Ydych chi’n chwilio am ledaenu o’r radd flaenaf ynghylch pwnc gofal cymdeithasol?
Mae ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.


Ydych chi’n chwilio am ymchwil bellach gofal cymdeithasol i oedolion?
Mae CARE yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob rhan o Brifysgol Caerdydd ac yn hybu cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau a grwpiau ledled y DU.