Plant mewn cartrefi lle ceir y camddefnydd o sylweddau, trais domestig neu broblemau iechyd meddwl: Pwy sy’n wynebu’r risg o fynd i ofal?
Mae nifer y plant sydd o dan ofal awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn cynyddu ers canol y 1990au, ac mae’r niferoedd ymhlith y gwahanol awdurdodau’n amrywio’n fawr. Er hynny, nid yw’r rhesymau pam yn glir. Gallai fod yn gysylltiedig â phroblemau cyfnewidiol yn y gymdeithas. Ar y llaw arall, gallai fod o ganlyniad i’r ffordd y mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn ymateb i broblemau teuluol.
Mae un o brosiectau ymchwil newydd CASCADE a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig i ystyried trywydd plant i ofal mewn perthynas â ffactorau risg posibl mewn cartrefi, megis:
- Camddefnyddio sylweddau
- Trais Domestig
- Iechyd Meddwl
Nod y prosiect hwn yw nodi pam mae rhagor o blant o dan ofal a pham mae cymaint o amrywio ymhlith y gwahanol awdurdodau lleol.
Prif ymchwilydd: Dr Nell Warner