Llinellau cyffuriau: ymateb cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru i gamfanteisio ar blant yn droseddol
Caiff camfanteisio’n droseddol ar blant (CCE) ei ddisgrifio’n flaenoriaeth genedlaethol.
Mae llawer o’r hyn a wyddys am CCE yn ymwneud â llinellau cyffuriau, model o gyflenwi cyffuriau sydd wedi dod yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig. Mae llinellau cyffuriau’n gweithredu gan ddefnyddio rhif ffôn symudol pwrpasol er mwyn gwerthu cyffuriau o ddinasoedd mwy i ddefnyddwyr sy’n byw mewn trefi arfordirol, trefi gwledig a threfi marchnad. Er nad yw pob llinell cyffuriau’n defnyddio plant, yn yr achosion hynny pan fyddan nhw’n cael eu targedu, gall effeithio ar blant o bob oedran ac ethnigrwydd.
Ar y cyd â Barnardo’s, diben y prosiect ymchwil archwiliadol 18-mis hwn yw creu pecyn cymorth er mwyn sicrhau ymateb gwasanaeth effeithiol, a hynny i wella canlyniadau plant sy’n wynebu risg, yn ogystal â chyfrannu at y sail wybodaeth ar natur a maint y broblem, y dulliau gweithredu a’r ymyriadau sydd fwyaf effeithiol a’r ffordd y gellir defnyddio dulliau diogelu cyd-destunol yn ymarferol yng nghyd-destun Cymru.
Prif ymchwilydd: Dr Nina Maxwell