Siaradais i ag Abbie am y tro cyntaf pan gysylltodd hi â’r tîm mabwysiadu roeddwn i’n gweithio iddo tua 11 mlynedd yn ôl. Roedd hi wedi cwrdd â T, bachgen 4 oed oedd ag anableddau dysgu a chorfforol dwys, ar gynllun chwarae haf mewn ysgol arbennig yn Ne Cymru a deallodd hi fod ymdrechion ar waith i ddod o hyd i deulu mabwysiadol iddo.

Roedd Abbie’n byw yn Ne Lloegr ac wedi derbyn gwahoddiad i helpu ar y cynllun chwarae, am fod ganddi wybodaeth a phrofiad o fath o strategaeth gyfathrebu roedd yr ysgol yn ceisio’i chyflwyno. Roeddwn i wedi bod yn chwilio am deulu i T ers tua blwyddyn ac wedi dod o hyd i un posibl na ddaeth i fwcl. Cyn iddi ein ffonio ni, roedd Abbie wedi ffonio asiantaeth arall, a ddywedodd wrthi’n gadarn nad oedd mabwysiadu’n opsiwn realistig iddi hi. Ar yr olwg gyntaf doedd hyn ddim yn syndod gan ei bod yn byw gyda’i mam mewn fflat 2 ystafell wely ar incwm cymedrol iawn. Roedd yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol arbennig ac yn gweithio 1:1 gyda phlentyn awtistig ar benwythnosau. Ond roeddwn i’n teimlo bod ei phrofiad a’i hymrwymiad i’r plentyn penodol hwn yn golygu ei bod yn werth ymchwilio’r posibilrwydd. Teithiodd gweithiwr cymdeithasol T a minnau i fan canol rhwng De Cymru a lle’r oedd Abbie yn byw i gwrdd â hi. Creodd y gwaith meddwl a pharatoi roedd hi wedi’i wneud argraff fawr arnom ni, yn ogystal â’i hoffter amlwg o T fel plentyn. Cynhaliodd cydweithiwr arall yr asesiad a daeth i’r casgliad hefyd fod gan Abbie lawer i’w gynnig. Roedd yn gryn frwydr i sicrhau’r gymeradwyaeth a’r paru drwy’r panel, ond fe lwyddon ni.

O’r dechrau, mae Abbie wedi mynd ati i drefnu cyswllt gyda siblingiaid T, y mae 3 o’u plith wedi cael eu mabwysiadu gan deuluoedd eraill. Aeth siblingiaid eraill i dderbyn gofal, ond mae’r ddau hynaf bellach wedi dychwelyd adref. O’r dechrau, mae Abbie wedi cydnabod cyswllt T gyda’i fam fiolegol, Rosie, gan anfon cerdyn Sul y Mamau ati bob blwyddyn yn ogystal â’r cyswllt blwch llythyrau rheolaidd.

Blodeuodd T dan ofal Abbie, yn enwedig o ran ei gyfathrebu. Gweithiodd hi’n rhyfeddol o galed i’w helpu i fynegi ei hun mewn amrywiol ffyrdd. Mae wedi bod yn ddi-eiriau erioed, er ei fod yn aml yn eithaf lleisiol. Yn ddiweddar iawn, mae Abbie wedi cael dyfais electronig i T, fydd llefaru geiriau ac ymadroddion ar ei ran. Dywed Abbie ei fod yn eithaf tebyg i Stephen Hawking nawr! Rwy o’r farn fod Abbie o’r cychwyn cyntaf mewn rhyw ffordd neu’i gilydd wedi galluogi llais T i gael ei glywed.

Yn anffodus, yn 2018 cafodd T ddiagnosis o gyflwr fydd yn cyfyngu ar ei fywyd. Ymateb Abbie oedd mynnu ceisio cyswllt uniongyrchol gyda Rosie a siblingiaid hŷn T. Daeth ag ef i Gymru i gael cyswllt dan oruchwyliaeth ac yna aeth ati i drefnu cyswllt heb oruchwyliaeth. Yn naturiol mae Abbie yn torri ei chalon oherwydd prognosis T, ond mae’n teimlo’n hynod o freintiedig ei bod wedi cael y cyfle i fod yn fam iddo. Mae Rosie’n llawn edmygedd ac anwyldeb at Abbie. Mae hi’n priodi’r flwyddyn nesaf ac wedi gofyn i Abbie fod yn forwyn briodas ac i T gludo’r fodrwy.

Mae gwybod bod gan un o’i phlant sydd wedi’u mabwysiadu gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd wedi bod yn arswydus i Rosie hefyd wrth gwrs, ond mae wedi arwain at aduniad rhyngddyn nhw a chyfeillgarwch dwfn rhyngddi hi ac Abbie, ar sail cariad y ddwy at T.

Gallwch chi weld y cyfweliad llawn gydag Abbie a Rosie isod:

Gan Chris Holmquist,


Mae’r Blog hwn yn rhan o’r gynhadledd ExChange, “Ail-fframio Mabwysiadu”


I gael mwy o adnoddau ar y pwnc hwn, mynnwch gip ar y cynadleddau isod.