Mae’n drawiadol fod y rhai a fabwysiadwyd yn absennol o lawer o sgyrsiau am bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac eto mae eu hanghenion a’u heriau’n debyg i’w cyfoedion sy’n parhau yn y system ofal. Mae plant a phobl ifanc a fabwysiadwyd o ofal yn dod yn rhan o grŵp cudd, ond sy’n dal yr un mor agored i niwed, yn y system addysg ac mae perygl y cânt eu hanwybyddu wrth ddyrannu cymorth ac arweiniad ychwanegol. Mae mabwysiadu yn brofiad cymharol unigryw sy’n ychwanegu haenau o gymhlethdod, gwahaniaeth, a bregusrwydd, nad oes fawr o ddealltwriaeth nac ymchwil wedi’i gwneud iddynt, i fywydau pobl ifanc.

Mae bwlch cyrhaeddiad addysgol parhaus ac arhosol yn bodoli i’r rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu. Mae ffactorau cyd-destunol ehangach yn effeithio ar brofiadau o addysg, megis llunio naratif mabwysiadu cyson a chydlynol.

Caiff plant mabwysiedig eu gosod ar wahân i’r rhan fwyaf o’u cyfoedion mewn perthynas â’u profiad o drallod cynnar, gan arwain at ffurfiant teuluol ac amgylchiadau cwbl wahanol, sy’n darparu haenau ychwanegol o gymhlethdod o ran datblygu, ac yn sgîl hynny addasu i fywyd mabwysiadol.

Mae plant mabwysiedig hefyd yn delio â heriau gwahanol i blant a phobl ifanc sy’n aros yn y system ofal, gan ymgodymu â syniad o sefydlogrwydd gydol oes wrth geisio datblygu naratif cydlynol am hanes eu bywyd. Profir hunaniaeth ddeuol trwy fod yn aelodau o deulu mabwysiadol (sy’n bresennol yn ffisegol ac yn seicolegol) ac, ar yr un pryd, deulu biolegol (sy’n bresennol yn seicolegol). Mae addasu seicolegol iach i fywyd mabwysiadol yn digwydd pan fydd ymdeimlad cydlynol ac ystyrlon o hunaniaeth yn cael ei ffurfio ar yr un pryd â’r amgylchedd cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys yr ysgol.

Mae cymdeithasoli mabwysiadu yn ffordd ddefnyddiol o weld sut mae plentyn mabwysiedig yn datrys y cyfyng-gyngor a’r materion o gylch mabwysiadu mewn cyd-destunau sy’n edrych ar fabwysiadu mewn ffordd benodol, neu o leiaf sut y caiff ei ystyried gan y rhai a fabwysiadwyd. Mae’r ffordd y mae cymdeithasoli mabwysiadu’n cael ei brofi yn yr ysgol, a sut y gallai hyn gael blaenoriaeth wrth gymryd rhan ym mywyd ac astudiaethau’r ysgol, yn fater hollbwysig.

Ymddengys mai deublyg yw’r her i staff ysgol: yn gyntaf, diwallu anghenion dysgu ac addysgu penodol y rhai a fabwysiadwyd fel y’u pennir gan eu profiadau unigryw, ac, yn ail, sicrhau bod anghenion perthynol ac emosiynol plant mabwysiedig a’u teuluoedd yn rhan flaenllaw o’u ffordd o weithio. Mae cyfleoedd i drafod mabwysiadu’n agored ac yn sensitif yn yr ysgol yn hanfodol. Heb hynny mae gwneud synnwyr o brofiadau’r gorffennol yn fwyfwy problemus i’r plant, sy’n gallu wynebu heriau wrth ddatrys problemau hunaniaeth.

Mae rhieni mabwysiadol yn creu ystyr i stori bywyd eu plentyn, a gyflawnir trwy gyfathrebu agored am fabwysiadu, a gweithredu’n gymedrolwyr atgofion plentyndod a gofalwyr eitemau sy’n gysylltiedig â’u bywyd cynnar, sydd yn ei dro yn cefnogi datblygu hunaniaeth fabwysiadol iach. Pan fydd plentyn yn mynd i ysgol newydd, gall y crëwr ystyr fod ar goll am ychydig.

Mae’n bosibl fod plant mabwysiedig yn mynd ati i geisio gwneud yn iawn am y golled hon trwy recriwtio staff ysgol (a chyfoedion) fel teulu estynedig o grewyr ystyr. Mae angen ymwybyddiaeth arbenigol a’r wybodaeth ddiweddaraf am fabwysiadu i gyflawni’r rôl hon yn llwyddiannus. Gallai gallu staff ysgol i sicrhau sefydlogrwydd i’r ystyron a grëir gan rieni mabwysiadol fod yn ganolog wrth ddatblygu hunaniaeth fabwysiadol iach. Dylai negeseuon cyson a chydlynol gan y rhai sydd mewn sefyllfa o gyfrifoldeb rhiant hwyluso datblygu hunaniaeth iach ac arwain at brofiad mwy cadarnhaol o’r ysgol.

Gan Andrew Brown, Canolfan Rees, Prifysgol Rhydychen


Mae’r Blog hwn yn rhan o’r gynhadledd ExChange, “Ail-fframio Mabwysiadu”


I gael mwy o adnoddau ar y pwnc hwn, mynnwch gip ar y cynadleddau isod.